Gallai 92% o rewlifoedd yr Alpau ddiflannu erbyn diwedd y ganrif, medd ymchwilwyr
Yr Athro Neil Glasser
07 Rhagfyr 2020
Gallai newid hinsawdd arwain at golli hyd at 92% o rewlifoedd yr Alpau erbyn diwedd y ganrif hon yn ôl canfyddiadau ymchwil newydd.
O dan arweinyddiaeth ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r prosiect CHANGE wedi modelu Uchderau Llinell Cyfantoledd Amgylcheddol rhewlifoedd dyffrynnoedd ar draws yr Alpau Ewropeaidd er mwyn darogan yn fwy cywir eu hymateb tebygol i newid hinsawdd.
Mae’r 4,000 o rewlifoedd ym mynyddoedd yr ardal yn cynnwys cyrchfannau sgïo poblogaidd megis y Klein Matterhorn adnabyddus yn Zermatt, y Swistir, Rhewlif Hintertux yn Awstria a La Grand Motte Glacier yn Tignes, Ffrainc. Mae’r canfyddiadau yn awgrymu y byddai’r mannau gwyliau sgïo hynny ar fin diflannu yn gyfan gwbl erbyn troad y ganrif nesaf. Bydd hyn hefyd yn effeithio ar storio dŵr ynghyd â dŵr ffo ac eco-systemau’r Alpau.
Mewn papur a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Climate Dynamics, mae’r tîm ymchwil yn amlinellu eu defnydd o dechnegau maes rhewlifol a modelu rhifiadol o Uchderau Llinell Cyfantoledd Amgylcheddol. Mae’r canfyddiadau yn dangos y bydd ymateb rhewlifoedd yr Alpau i newid hinsawdd yn gyflym ac yn amrywio’n fawr - gwybodaeth sy’n hanfodol er mwyn llunio polisi sydd wedi ei seilio ar dystiolaeth.
Mae’r canlyniadau yn cwmpasu holl ardal yr Alpau Ewropeaidd, ac wedi eu seilio ar 200 mlynedd o gofnodion hinsawdd a rhagolygon rhwng 1901 a 2100. Mae’r ymchwil yn awgrymu y bydd newid hinsawdd yn golygu colli hyd at 92% o rewlifoedd yr Alpau erbyn diwedd y ganrif hon.
Yr Athro Neil Glasser o Brifysgol Aberystwyth yw cydlynydd y project.
Dywedodd yr Athro Glasser: “Mae newid hinsawdd yn fater byd-eang, mae’n effeithio arnon ni i gyd, ac mae un o’i brif effeithiau uniongyrchol ar rewlifoedd a llenni iâ. Rhewlifoedd yw un o’r arwyddion amlycaf o newid hinsawdd: mae’r crebachiad mor gyflym.
“Mi fydd effeithiau mwy yn sgil newid hinsawdd, ond mae diflaniad dramatig rhewlifoedd o’r Alpau yn un o’r effeithiau mwyaf gweledol ac uniongyrchol. Mae’r rhewlifoedd hyn yn dylanwadu ar bopeth o ecosystemau i boblogaethau dynol. Yr effaith ar gyflenwadau dŵr a’r newid i ddŵr ffo a thoddi yw un o’r effeithiau mwyaf ar y boblogaeth leol yn yr Alpau. Fe ddaw hynny ag oblygiadau i ddŵr yfed, cnydau, dyfrhau, glanweithdra a chynhyrchu pŵer trydan dŵr.
“Mae canfyddiadau prosiect CHANGE yn cynnig mewnwelediadau perthnasol i rewlifoedd mynyddig ar draws y byd yn ogystal. Mae’r canlyniadau yn cyfrannu at ddealltwriaeth well o sut mae rhewlifoedd yn yr Alpau Ewropeaidd yn ymateb i hinsawdd sy’n newid. Os, fel yr ydym yn disgwyl, y gwelwn ni’r patrymau yn cael eu hail-adrodd ar lefel fyd-eang, caiff crebachiad rhewlifoedd y mynyddoedd effeithiau sylweddol ar godi lefel y môr.”
Ychwanegodd Dr Manja Žebre, yr awdur cyntaf ar y papur academaidd yn y cyfnodolyn Climate Dynamics:
“Mae cynlluniau’n cael eu llunio i gymhwyso’r dull modelu a ddefnyddir yn y prosiect ymchwil hwn i rewlifoedd mynyddig eraill ledled y byd fel yr Andes, yr Himalaya a’r Rockies. Bydd ymestyn yr ymchwil i'r cadwyni mwy hyn yn rhoi darlun mwy cynhwysfawr o effaith debygol newid yn yr hinsawdd ar rewlifoedd mynyddig ar draws y byd.”
Datblygodd y tîm ffordd newydd o efelychu newidiadau tebygol i Uchderau Llinell Cyfantoledd Amgylcheddol y dyfodol - yr uchder pan fo croniad ac abladiad dŵr ar rewlif yn hafal ac felly fe’i hystyrir yn gytbwys. Dechreuon nhw gyda dadansoddi Rhestr Rhewlifoedd Randolph er mwyn lleoli ac adnabod rhewlifoedd yr Alpau. Rhoddwyd y rheini i mewn i system wybodaeth ddaearyddol a defnyddio senarios newid hinsawdd gwahanol er mwyn darogan effaith newid hinsawdd ar yr Uchderau Llinell Cyfantoledd Amgylcheddol holl rewlifoedd yr Alpau.
Ychwanegodd Renato R. Colucci o Gyngor Ymchwil Cenedlaethol yr Eidal, a arweiniodd y tîm o’r Eidal a weithiodd ar y prosiect: "Hyd yn oed dan y senario mwyaf optimistaidd o ran lliniaru allyriadau carbon, rydym yn rhagweld y bydd Uchderau Llinell Cyfantoledd yn uwch nag 69%, sef uchder uchaf holl rewlifoedd yr Alpau, ac erbyn 2050 mae’n debyg y bydd bron, os nad pob un, o’r rhewlifoedd yn yr Alpau o dan 3500 metr wedi toddi’n barod. Dyma’r astudiaeth gyntaf i archwilio Uchderau Llinell Cyfantoledd Amgylcheddol yr holl Alpau dros gyfnod cyhyd o amser. Mae’n darparu sail dda i ddeall yn well sut mae ymateb rhewlifoedd i newid hinsawdd yn wahanol rhwng gwahanol ranbarthau."
Fel rhan o brosiect ehangach CHANGE, cynhaliodd y tîm ymchwil waith maes yn yr Alpau yn yr Eidal, gan gynnwys defnyddio dronau, er mwyn archwilio’r creigwely a mapio newid y rhewlifoedd.
Ychwanegodd Yr Athro Glasser: “Hyd at eu diflaniad, bydd rhewlifoedd yn parhau i gyfrannu at hydroleg eu basnau unigol, ond mewn ffyrdd mwy amrywiol. Mae’r rhan fwyaf yn debygol o gyfrannu mwy o ddŵr wrth iddo lifo oddi arnynt yn y tymor byr ond, dros amser, bydd hynny’n lleihau. Ar eraill, bydd llif y dŵr yn cwympo’n sylweddol, ac mae’n bosibl bod rhai wedi mynd tu hwnt i uchafbwynt y llif hwn eisoes.”