Daearyddwyr yn dringo i’r entrychion i godi arian
27 Gorffennaf 2023
Mae tîm o staff ac uwchraddedigion Prifysgol Aberystwyth wedi cwblhau her a ysbrydolwyd gan un o’u cydweithwyr, ac wedi codi dros £2,000 i’r Uned Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais.
Ddydd Mercher 19 Gorffennaf, fe wnaeth y grŵp o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol redeg, cerdded neu seiclo o Gampws Penglais i ganolfan ymchwil ucheldir y Brifysgol ym Mhwllpeiran, ger Cwmystwyth.
Aeth taith y tîm o Gampws Penglais i lawr i lan y môr yn Aberystwyth, ac o'r fan honno fe ddilynwyd cwrs yr Afon Ystwyth, gan aros hanner ffordd ar Fferm y Brifysgol yn Nhrawsgoed, cyn gweithio eu ffordd i fyny trwy odre Mynyddoedd y Canolbarth tuag at Bwllpeiran.
Llwyddodd y grŵp i ddyblu’r targed cychwynnol a mwy, a chodi dros £2,300 i Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Cyffredinol Bronglais, sef Elusen y Flwyddyn Prifysgol Aberystwyth am 2022-23.
Meddai yr Athro Sarah Davies, Pennaeth yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear:
"Yr ysbrydoliaeth i’r her hon oedd ein cyfaill a'n cydweithiwr, yr Athro Andrew Thomas, sydd wedi cael triniaeth cemotherapi ym Mronglais yn ystod y misoedd diwethaf. Dros y blynyddoedd diwethaf mae Andrew wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn Llwyfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran i ymchwilio i effeithiau rheoli tir, arferion cadwraeth, a phatrymau tywydd newidiol ar nodweddion pridd ac allyriadau carbon ar wahanol uchderau. Roedd yr her hon felly i’w gweld yn addas i ni. Ac roedd y ffaith bod Andrew wedi gallu ymuno â ni, gan seiclo ochr yn ochr â'i fab 10 oed, wedi gwneud y cyfan yn fwy arbennig.
"Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran, a roddodd gefnogaeth ac a’n noddodd ni - fe fu’n ymdrech tîm go iawn.”
Dywedodd yr Athro Andrew Thomas:
"Mae pawb a fu’n rhan o'r her wedi gwneud mor dda, ac rwy'n falch iawn fod fy mab a minnau wedi gallu ymuno â nhw i godi arian at achos sydd yn werth chweil.
"Mae’n wirioneddol bwysig cael yr uned ym Mronglais. Mae triniaeth Cemo yn achub bywydau ond dydy e ddim yn brofiad pleserus. Dyw'r syniad o orfod teithio pellteroedd hir i gael triniaeth ddim yn beth braf o gwbl, a dwi'n siŵr y byddai'r cannoedd o bobl sy'n mynd trwy hyn yn Aber ar hyn o bryd yn cytuno."