Ditectifs tirwedd yn cyfarfod ym Mhrifysgol Aberystwyth
Yr Athro Stephen Tooth o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear fydd yn cadeirio Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Geomorffoleg Prydain eleni, ac fe fydd ynghyd â Dr Hywel Griffiths yn lansio’r llyfryn ’10 Rheswm Pam Mae Geomorffoleg Cymru yn Bwysig’.
31 Awst 2018
Bydd geomorffolegwyr o bob cwr o’r byd yn ymgynnull yn Aberystwyth ym mis Medi wrth i Gymru gynnal prif gyfarfod academaidd y ddisgyblaeth yn DU am y tro cyntaf ers bron i 30 mlynedd.
Cynhelir cyfarfod blynyddol Cymdeithas Geomorffoleg Prydain (BSG) ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 10-12 Medi 2018, a bydd yn denu geomorffolegwyr dechrau gyrfa a phrofiadol i drafod yr ymchwil diweddaraf yn y maes a chyfleoedd i gydweithio.
Mae geomorffolegwyr, neu “ditectifs tirweddau” fel y’i cyfeirir atynt, yn astudio hanes tirwedd a sut mae wedi’i ffurfio ar hyd y blynyddoedd gan ddŵr yn llifo, gwynt, eira, iâ a disgyrchiant.
Tirweddau’r Ddaear yw’r canolbwynt ond yn gynyddol mae’nt yn ymddiddori mewn tirweddau ar blanedau eraill megis Mawrth a Titan.
Ac nid esblygiad graddol y tirwedd yn unig sy’n denu eu sylw. Mae geomorffolegwyr hefyd yn astudio effeithiau peryglon sydd yn digwydd yn gyflym ac yn amharu ar fywydau megis ymchwydd storom arfordirol, llifogydd afonydd, ffrwydradau folcanig, daeargrynfeydd, tswnamïau a thirlithriadau.
Thema allweddol yn y Cyfarfod Blynyddol eleni fydd cyfathrebu perthnasedd a phwysigrwydd geomorffoleg mewn cyfnod o newid amgylcheddol.
Mae hyn yn cynnwys mynd y tu hwnt i gylchoedd prifysgol a datblygu dulliau gwell o gyfathrebu geomorffoleg mewn ysgolion, ymysg y cyhoedd, gyda pherchnogion tir a llunwyr polisi amgylcheddol.
Bydd cynadleddwyr hefyd yn clywed gan un o geomorffolegwyr amlycaf y DU a Chymrawd y BGS, yr Athro Emeritws John Lewin o Brifysgol Aberystwyth, a fydd yn cyflwyno Darlith Frost.
Yn ogystal bydd cyflwyniadau gan enillwyr gwobrau Cymdeithas Geomorffoleg Prydain 2018, gan gynnwys Hervé Piegay (Gwobr David Linton), Larissa Naylor (Gwobr Gordon Warwick), Edwin Baynes (Gwobr Dick Chorley) a Bradley Johnson (Gwobr Wiley).
Bydd gan fynychwyr y cyfarfod y dewis i aros am deithiau maes ar 12, 13 a 14 Medi a fydd yn eu tywys i ucheldiroedd, cymoedd ac arfordiroedd canolbarth Cymru.
Mae’r gynhadledd eleni yn cael ei chadeirio gan yr Athro Stephen Tooth o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.
Dywedodd yr Athro Tooth: “Dyma’r tro cyntaf ers degawdau i’r BSG gynnal digwyddiad o’r fath yng Nghymru, ac o ystyried cyfraniad geomorffolegwyr a hyfforddwyd yn Aberystwyth a thirweddau Cymru at ddatblygiadau’r maes gwyddonol hwn, mae’n briodol felly fod Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn cynnal y cyfarfod blynyddol fel rhan o’u dathliadau canmlwyddiant.”
Yn ystod y gynhadledd bydd yr Athro Tooth a Dr Hywel Griffiths o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol yn cyhoeddi llyfryn 10 Rheswm Pam Mae Geomorffoleg Cymru yn Bwysig.
Mae’r llyfryn wedi’i selio ar gyfres o flogiau gan Dr Griffiths (Cymraeg) a'r Athro Tooth (Saesneg), sy’n rhoi enghreifftiau o dirffurfiau a thirluniau Cymru sy’n esbonio’r 10 rheswm.
Ceir mwy o fanylion am y cyfarfod blynyddol ar wefan y BSG www.geomorphology.org.uk, eu cyfri trydar @BSG_Geomorph #bsg2018 a’u tudalen Facebook www.facebook.com/geophemera.