Ysgoloriaeth KESS 1 Flwyddyn MPhil

Safle gweithfeydd Dylife, Powys

Safle gweithfeydd Dylife, Powys

20 Mehefin 2013

 Mae Prifysgol Aberystwyth yn awyddus i benodi myfyriwr MPhil am un flwyddyn i weithio ar brosiect o’r enw: 

Sut mae llygredd yn symud ac yn cael ei gludo mewn ardaloedd lle bu gweithfeydd metel; tuag at ddealltwriaeth lawnach o fecanweithiau a strategaethau adferol 

Mae dros 3000 km o afonydd yn y DU yn llygredig yn sgil gwaith mwyngloddio metel yn y gorffennol. Mae Cymru’n cynnwys rhai o’r safleoedd mwyngloddio mwyaf heriol ym Mhrydain ac, o’r herwydd, mae’n cynnig labordy naturiol unigryw i gynnal astudiaethau manwl o’r mecanweithiau sydd ar waith yn yr amgylcheddau hyn. Mae gwaith diweddar wedi dangos pa mor bwysig yw cael dealltwriaeth lawnach o’r berthynas rhwng maint gronynnau’r elfennau difwynol a’r modd y maent yn cael eu symud a’u cludo. Mae’r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn datblygu strategaethau adfer cynaliadwy. 

Bydd y prosiect KESS hwn yn edrych ar y prif fecanweithiau sy’n gyfrifol am symud a chludo llygredd mewn afonydd ucheldir a effeithir gan fwyngloddio, a sut y gellir adfer neu liniaru’r effeithiau hyn. Bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar safle gweithfeydd Dylife ger Aberystwyth, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru. 

Dylai fod gan ymgeiswyr radd dosbarth cyntaf neu 2:1 da mewn pwnc perthnasol, a dylent fod mewn sefyllfa i gychwyn ar yr ysgoloriaeth ymchwil erbyn 1 Hydref 2013. Ni ddylai'r ymgeisydd gynnal neu ar hyn o bryd fod yn gweithio tuag at gymhwyster ar lefel Gradd Meistr neu uwch. Mae rhan o gyllid y prosiect yn dod o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy law rhaglen Cydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd, a weinyddir gan Lywodraeth Cymru. Mae Ysgoloriaethau KESS yn cael eu dyfarnu ar y cyd â phartneriaid allanol. (Mae gwneud cais yn ddigon, nid oes angen i ymgeiswyr chwilio am bartneriaid). 

Er mwyn gwneud cais, dylech anfon y ddogfennaeth ganlynol i’r Swyddfa Derbyn Graddedigion (cyfeiriad isod) erbyn 12 Gorffennaf 2013: 

1. Ffurflen Gais am Raglen Ymchwil, dau ganolwr. Cewch lawrlwytho’r ffurflen gais a’r ffurflenni geirda o http://www.aber.ac.uk/en/postgrad/howtoapply/

2. Ffurflen gais KESS wedi’i llenwi (rhowch y cyfeirnod AU50016 yn y blwch ar y dde ar frig y ffurflen) a CV diweddar. Cewch lawrlwytho’r ffurflenni cais o’r dolenni cyswllt isod. 

www.aber.ac.uk/en/ccs/staff-students/funding/kess/ 

3. Datganiad Personol, hyd at 1,000 o eiriau, lle y byddwch yn manylu am eich profiad a’ch diddordebau a disgrifio pam rydych chi’n ymgeisydd da i’r ysgoloriaeth ymchwil hon. Cyfeiriwch at Ddisgrifiad y Prosiect yn y ddolen isod. 

Gwerth yr Ysgoloriaeth: £10,130. Bydd arian ychwanegol ar gyfer pob ysgoloriaeth am gostau teithio, offer a hyfforddiant i’ch helpu â’ch ymchwil. Nid yw deiliaid Ysgoloriaethau PhD KESS yn talu ffioedd. 

Amser: Amser llawn am 1 flwyddyn. (Rhaid cyflwyno traethodau ymchwil erbyn 3 mis ar ôl y flwyddyn astudio a ariannwyd). 

Hyfforddiant: Mae’n orfodol i bob ysgolhaig KESS gael y Cymhwyster Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig (PSDA). Mae’r PSDA yn werth 30 credyd, ac mae’n gymhwyster ychwanegol ar ben yr MPhil. 

Pwy sy’n cael ymgeisio: Er mwyn cael ysgoloriaeth KESS, rhaid i chi fod yn preswylio, ar adeg ymgeisio, yn Ardal Gydgyfeirio Cymru, ac mae rhaid i chi allu cymryd cyflogaeth yn yr adran Gydgyfeirio pan fyddwch wedi cwblhau’r ysgoloriaeth. 

Dyma’r siroedd yng Nghymru sydd yn yr Ardal Gydgyfeirio: 

Abertawe 

Blaenau Gwent 

Caerffili 

Castell Nedd Port Talbot 

Ceredigion 

Conwy 

Gwynedd 

Merthyr Tydfyl 

Pen-y-bont ar Ogwr 

Rhondda Cynon Taf 

Sir Benfro 

Sir Ddinbych 

Sir Gaerfyrddin 

Torfaen 

Ynys Môn 

Ynys Môn Am feini prawf pellach sy’n gysylltiedig â’r prosiectau unigol, gweler manylion y prosiectau unigol uchod. 

Os hoffech wneud ymholiadau anffurfiol, cewch gysylltu â Dr Bill Perkins (wwp@aber.ac.uk / 01970 622636). 

Cyfeiriad ar gyfer ceisiadau: 

Swyddfa Derbyn Graddedigion Canolfan Croesawu Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth Aberystwyth SY23 3FB 

Dyfynnwch y Cyfeirnod: AU50016 

Dyddiad cau am geisiadau: 12 Gorffennaf 2013 

Ysgoloriaeth KESS (pdf)