Arddangosfa newydd i ddatgelu sut mae tirwedd Cymru’n newid

(Chwith i’r dde) Dr Sarah Davies, Pennaeth Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth; Claire Horton, Rheolwr Arsylwi Geofodol a’r Ddaear, Llywodraeth Cymru; Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Amanda Smith o’r Ganolfan Dechnoleg Amgen a’r Athro Richard Lucas, Cadair Sêr Cymru, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, yn agoriad arddangosfa Cymru Fyw.

(Chwith i’r dde) Dr Sarah Davies, Pennaeth Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth; Claire Horton, Rheolwr Arsylwi Geofodol a’r Ddaear, Llywodraeth Cymru; Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Amanda Smith o’r Ganolfan Dechnoleg Amgen a’r Athro Richard Lucas, Cadair Sêr Cymru, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, yn agoriad arddangosfa Cymru Fyw.

24 Medi 2019

Delweddau lloeren sy’n dangos sut mae’r amgylchedd byd-eang wedi newid yn y 35 mlynedd ddiwethaf a’r effeithiau ar dirwedd Cymru yw canolbwynt arddangosfa newydd yn yr Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth.

Crëwyd arddangosfa Cymru Fyw gan yr Athro Richard Lucas a Grŵp Ymchwil Arsylwi’r Ddaear a Dynameg Ecosystemau Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth ar y cyd â’r Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT) a Llywodraeth Cymru.

Drwy ddefnyddio cyfuniad blaengar o arsyllu lloerennau, dadansoddi cyfrifiadurol a chyfraniadau gan y cyhoedd, mae tîm yr Athro Lucas wedi medru dal manylion a gwybodaeth anhygoel am gyflwr a dynameg tirwedd Cymru.

Mewn cyfres o arddangosfeydd rhyngweithiol hynod ddiddorol yn yr Hen Goleg, mae’r arddangosfa’n gosod y newidiadau hyn yng nghyd-destun y rhai a welir ar draws y byd.

Dywedodd yr Athro Lucas: “Mae Cymru Fyw yn arddangosfa ddynamig sy’n darparu persbectif newydd ar effaith dynolryw ar yr amgylchedd byd-eang dros y 35 mlynedd ddiwethaf ond hefyd sut maent wedi cyfrannu at y newidiadau yr ydym erbyn hyn yn clywed amdanynt a’u gweld bob dydd, gan gynnwys newid hinsoddol a cholli bioamrywiaeth.”

“Mae’r arddangosfa hon yn amserol iawn, o ystyried Streic Hinsawdd ddydd Gwener diwethaf ac agor Uwchgynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn yr Unol Daleithiau ddydd Llun 23 Medi, y ddau ddigwyddiad yn nodi problem newid hinsawdd a'r angen i weithredu.”

“Rydym am i’r cyhoedd ddeall ein hamgylchedd a sut mae’n newid, a sut y gallwn i gyd gyfrannu at greu gwell lle i ni a chenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru ac yn fyd-eang”, ychwanegodd.

Agorwyd yr arddangosfa gan yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, ddydd Llun 23 Medi a bydd yn parhau ar agor tan ddydd Gwener 20 Rhagfyr 2019.

Dywedodd yr Athro Treasure: “Rwy’n hynod falch o’r cyfle i agor arddangosfa Cymru Fyw yn yr Hen Goleg ac rwy’n annog pawb i fynd i weld sut mae’n byd ni’n newid. Mae ein planed yn wynebu sawl her sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth ac mae gweld Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rôl flaenllaw wrth fynd i’r afael â’r heriau hyn yn destun balchder. Fel Prifysgol rydym yn ymfalchïo yn rhagoriaeth ein haddysgu a’n hymchwil, ac mae Cymru Fyw yn un enghraifft o sut mae Aberystwyth yn arwain y byd mewn ansawdd, arloesedd ac allgymorth.”

Mae’r Athro Lucas yn un o ddau benodiad Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn aelod blaenllaw o dîm rhyngwladol sy’n defnyddio technoleg lloeren i fonitro newidiadau yn yr amgylchedd naturiol ar draws y byd.

Ef sefydlodd y cysyniadau y tu ôl i Cymru Fyw, prosiect ymchwil sydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Y nod yw cofnodi cyflwr a deinameg tirwedd Cymru, mor agos â phosibl at amser real, yn hanesyddol ac i’r dyfodol.

Mae Cymru Fyw yn adeiladu ar ymchwil helaeth a hir sefydlog yn Awstralia a gwledydd eraill sydd wedi canolbwyntio ar gyflwr a’r newid ar draws sawl degawd i lystyfiant yn lleol ac yn gyfandirol gan ddefnyddio data lloeren.

Agorwyd chwaer arddangosfa barhaol Cymru Fyw yn CAT ddiwedd mis Gorffennaf 2019. 

Cefnogir yr arddangosfa gan raglen Sêr Cymru sydd wedi’i hariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru a Sefydliad Joy Welch (Prifysgol Aberystwyth) yn ogystal â CAT.