Aberystwyth yn cynnal cynhadledd ar fudo
28 Mehefin 2019
Troseddau casineb, atgasedd ac ymateb cymdeithas sifil i fudo, dyma rai o’r pynciau fydd yn cael sylw mewn symposiwm undydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth 2 Gorffennaf 2019.
Trefnir An Unsettled status? Migration in a turbulent age, gan WISERD - Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru - a chaiff ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Medrus ar Gampws Penglais y Brifysgol.
Traddodir y prif anerchiad gan Dr Kathy Burrell o Brifysgol Lerpwl, a bydd yn siarad ar y pwnc Unsettling Freedom of Movement? Hostile Environments, Conditionality, and the Experiences of Polish migrants on the Eve of Brexit.
Bydd cyflwyniadau hefyd gan Dr Taulant Guma o Brifysgol Napier Caeredin, Yr Athro Stephen Drinkwater o Brifysgol Roehampton, Llundain, a Dr Rhys Dafydd Jones o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.
Yn ôl Dr Rhys Dafydd Jones, gellir crynhoi’r ddegawd ddiwethaf fel un gythryblus â miloedd o fudwyr yn chwilio am fywyd newydd wedi iddynt ffoi rhag rhyfel, erledigaeth neu am resymau economaidd.
“Mae llymder, gwleidyddiaeth boblogaidd, a hinsawdd gynyddol atgas ac estrongas wedi eu gweld ar draws Ewrop, gogledd America, a thu hwnt”, dywedodd.
“Mae’r wleidyddiaeth yma wedi dadsefydlogi’r normau a’r disgwyliadau hegemonaidd a fu yn yr arena wleidyddol, gyda goblygiadau i fudwyr rhyngwladol y mae eu bywydau’n gynyddol heriol a’u dyfodol yn fwyfwy ansicr. Er enghraifft, mae rhethreg atgas a pholisiau wedi eu targedu at fudwyr, eu teuluoedd, myfyrwyr rhyngwladol, ceiswyr lloches, a ffoaduriaid, gan osod cyfrifoldebau ac amodau ychwanegol arnynt, a chyfyngu ar eu hawliau.”
“At hyn, mae dychwelyd preswylwyr hirdymor i’w gwledydd gwreiddiol a diddymu dinasyddiaeth i’r graddau y gall ‘statws a gymerwyd yn ganiataol’ gael eu newid. Mae’r arferion hyn yn codi cwestiwn am y graddau y gall ‘denizenship’ – hawliau i breswylwyr nad ydynt yn ddinasyddion – barhau’n gysyniad ystyrlon, yn ogystal â phwysleisio’r goblygiadau ar gyfer hyrwyddo cymdeithas gydlynol, gynhwysol ac amrywiol.
“Rydym yn falch iawn o’r cyfle i drefnu’r digwyddiad hwn ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn edrych ymlaen yn fawr at drafodaethau pwrpasol a fydd yn cynnig mewnwelediad i hyn ac yn ein galluogi i ddeall yn well yr heriau a wynebir gan gymaint o bobl.”
Ymysg y themau fydd yn cael eu trafod yn y symposiwm mae llymder a bregusrwydd; negodi ansicrwydd ac atgasedd; perthyn, angori, a hunaniaeth; cymhathu, cydlyniad a dinasyddiaeth, troseddau atgasedd a thrais; lloches, ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Ceir mwy o wybodaeth am y digwyddiad arlein yma.