Tymheredd iâ yn gynhesach na’r disgwyl ar relwif ucha’r byd
Yr Athro Bryn Hubbard, Cyfarwyddwr Canolfan Rhewlifeg ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r fyfyrwraig PhD Katie Miles ar Rewlif Khumbu yn 2017.
19 Tachwedd 2018
Mae tymheredd yr iâ o fewn rewlif ucha’r byd ar lethrau Mynydd Everest yn gynhesach na'r disgwyl, yn ôl ymchwil newydd gan rewlifegwyr o brifysgolion Aberystwyth, Kathmandu, Leeds a Sheffield.
Cafodd y canfyddiadau eu datgelu mewn papur a gyhoeddwyd yn Scientific Reports - cyfnodolyn mynediad agored ac uchel ei barch a gyhoeddir gan Nature.
Fe deithiodd prif awdur yr adroddiad Katie Miles a’r Athro Bryn Hubbard o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, i Rewlif Khumbu yn Nepal yn 2017 a 2018 fel rhan o brosiect ymchwil EverDrill.
Tra’n gweithio ar uchder o hyd at 5,000 metr, bu Katie Miles, sy’n ymgeisydd PhD, a'r Athro Hubbard yn drilio'n ddwfn i grombil y rhewlif gan ddefnyddio uned golchi ceir wedi'i haddasu'n arbennig.
Ym mis Mai 2017, nhw oedd yn cyntaf i dyllu’n llwyddiannus i waelod yr Rhewlif Khumbu. Nhw hefyd oedd y cyntaf i gofnodi tymhered y rhewlif islaw’r haenen sydd yn cael ei heffeithio gan y tymhorau.
Yn ystod y gwaith gosodwyd synwyryddion tymheredd a adeiladwyd gyda chymorth Dr Samuel Doyle o Brifysgol Aberystwyth, yn y tyllau yn yr ia yn ardal abladiad is y rhewlif a’u gadael yno am rhai misoedd i gasglu data.
Dangosodd y mesuriadau a ddeillio o hyn isafbwynt tymheredd rhew o −3.3°C yn unig ac roedd hyd yn oed tymheredd yr iâ oeraf a fesurwyd 2°C yn gynhesach na thymheredd cymedrol blynyddol yr awyr.
Dywedodd Katie Miles: “Mae'n canlyniadau ni'n dangos bod hyd yn oed newidiadau bach o ran cynhesu atmosfferig yn gallu cael effaith ar rewlifoedd uchel yr Himalaya ac mae goblygiadau pwysig yma i bobl yn ogystal ag i'r blaned. Mae miliynau o bobl sy’n byw wrth odre’r Hindŵ-Kush-Himalaya yn dibynnu ar rewlifau fel rhan o'u hadnodd dŵr. Gallai cynnydd mewn tymheredd ar y wyneb arwain at leihad dros y 30 mlynedd nesaf yn y llifeiriant o ddŵr sy'n toddi ar y rhewlifoedd ac yn cyfrannu at adnoddau dŵr yn is i lawr.”
Dywedodd yr Athro Bryn Hubbard, Cyfarwyddwr Canolfan Rhewlifeg Prifysgol Aberystwyth a deiliad Medal Pegynnau’r Frenhines: "Mae ein gwaith yn yr Himalaya yn adeiladu ar ymchwil ehangach gan yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn Aberystwyth, lle rydym wedi bod yn mesur ac yn modelu sut mae iâ rhewlifol yn llifo ers sawl degawd – yn yr Arctig a'r Antarctig yn ogystal â'r Alpau ac yn fwy diweddar, yn Nepal. Mae deall yr hyn sy'n digwydd o fewn y rhewlifoedd hyn yn hanfodol i ddatblygu modelau cyfrifiadurol i’n helpu i broffwydo sut maent yn debygol o ymateb i’r newid a ragwelir yn yr hinsawdd.
“Un o briodweddau allweddol yr iâ 'cynnes' rydym wedi'i fesur o fewn Rhewlif Khumbu yw bod unrhyw fewnbwn egni ychwanegol, megis o belydrau'r haul ac aer cynnes, yn toddi'r iâ hwnnw, gan gynhyrchu dŵr ac ma hyn yn golygu y bydd y rhewlif yn arbennig o sensitif i unrhyw gynhesu yn yr hinsawdd yn y dyfodol. Mewn cyferbyniad, mae mewnbwn egni pellach i iâ ' oer ' (sydd ar unrhyw dymheredd islaw ei ymdoddbwynt) ond yn cynhesu'r rhew hwnnw ymhellach tuag at sero, heb gynhyrchu unrhyw ddŵr toddedig.”
Mae'r Athro Bryn Hubbard a Miss Katie Miles yn cydweithio ar brosiect EverDrill gyda Dr Duncan Quincey (arweinydd y prosiect) a Dr Evan Miles o Brifysgol Leeds, a Dr Ann Rowan o Brifysgol Sheffield. Mae Dr Quincey a Dr Rowan ill dau yn gyn-fyfyrwyr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.
Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol y DU, NERC, sy’n ariannu’r gwaith ymchwil.