Am Fywyd Preswyl

Tîm o Fyfyrwyr, ar gyfer Myfyrwyr!
Mae’ch Cynorthwyydd Preswyl (CP) yn gyd-fyfyrwyr sydd yma i roi cymorth ac arweiniad wrthych, gan anelu at greu amgylchedd byw a dysgu cadarnhaol ac i feithrin ymdeimlad o gymuned ar draws y brifysgol. Gall hyn gynnwys cyngor ar ddatrys dadleuon fflatiau, ar sut i guro straen arholiadau, gwybodaeth am ddigwyddiadau, gweithgareddau a chwaraeon o amgylch yr ardal, neu ond cyngor ar ble i ddod o hyd o’r cwpan gorau o goffi yn Aber! Os nad ydynt yn gallu helpu, byddant yn eich cyfeirio at rywun sy’n gallu.
Galwadau Cylchdaith Ardal Penodol
- Bydd cylchdaith eich man penodol yn cymryd lle drwy Microsoft TEAMs ac yn para hyd at 15 munud.
- Bydd eich apwyntiad yn cael ei e-bostio at bob aelod o'ch fflat/tŷ cyn y cyfarfod drwy wahoddiad TEAMs.
- Nid yw eich presenoldeb yn orfodol, ond mi fydd Cynorthwy-ydd Preswyl ar gael os ydych am ymuno!
- Gallwch ddefnyddio'r apwyntiad hwn i drafod unrhyw faterion rydych chi'n eu profi a bydd y CP yn gallu eich cyfeirio at y gwasanaethau mwyaf priodol.
- Hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw faterion i'w trafod, mae croeso i chi fewngofnodi os hoffech chi gael sgwrs!
Sgwrs Fyw CP
- Fel rhan o'n Gwasanaeth Bywyd Pres. rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth sgwrs fyw sydd ar gael rhwng 6yh a 9yh o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch ymuno drwy glicio ar y botwm porffor ‘live chat’ ar dudalen we’r Swyddfa Lety.
- Gallwch ddefnyddio’r sgwrs fyw hon i sgwrsio gyda’r tim CP am unrhyw fater sydd yn ymwneud â’ch llety.
Eisiau Gwybod Mwy?
Ewch i’n Tudalen Facebook Bywyd Pres.