Glanhau

Rydym eisiau i'ch llety fod yn ddiogel, yn lân ac yn ddymunol – rhywle y gallwch deimlo'n gyfforddus.
Rhaid i bobman tu fewn a thu allan i’ch llety cael ei chadw i’r safon uchaf o lendid gennych chi, gan eich cydletywr, a ninnau hefyd. Mae safon uchel o gadw tŷ yn creu amgylchedd dymunol i bawb ac yn helpu i gadw eich llety’n ddiogel. Gall safon hylendid isel denu germau a phlâu a chynyddu’r risg o beryglon yn eich llety.
Cyfrifoldebau
Eich ystafell:
Chi sy'n llwyr gyfrifol am gadw'ch ystafell yn lân ac yn daclus bob amser. Bydd offer sylfaenol fel hwfer a mop ar gael i chi. Os oes gennych ystafell en-suite bydd raid ichi gadw'r ystafell ymolchi yn lân.
Ardaloedd cyffredin:
Chi a'r lleill yn y bloc, tŷ neu fflat sy'n gyd-gyfrifol am lanhau'r ardaloedd cyffredin fel ceginau, coridorau ac ystafelloedd ymolchi. Mae hynny'n cynnwys y mannau gweithio, y rhewgell, y popty a'r bin. Mae llunio rota glanhau, a chadw ati, yn ffordd dda o gadw eichardaloedd cyffredin yn lân. Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch i wneud hyn, cysylltwch â'r tîm llety. Eich cyfrifoldeb chi fel grŵp hefyd fydd cynnal a chadw'r offer glanhau sylfaenol; sicrhau bod bag yr hwfer yn cael ei wacáu'n rheolaidd a chadw mopiau, bwcedi ac ati yn lân ac yn daclus. Gellir casglu bagiau hwfer o'r Swyddfa Llety.
Ardaloedd allanol:
A fyddech cystal â sicrhau hefyd fod yr ardaloedd yn union y tu allan i'r bloc yn lân, heb ysbwriel na bonion sigarennau. Defnyddiwch y storfeydd bin allanol a'r biniau ysbwriel a ddarperir a'r biniau sigarennau a ddarperir.
Ein cyfrifoldeb:
Byddwn yn glanhau'r ardaloedd cyffy tu allan i'ch fflat (coridorau, grisiau, mynedfeydd). Mae'n bosib y gwelwch chi'r tîm glanhau yn ystod yr wythnos ac weithiau, efallai y byddant yn dod i mewn i'ch llety i ddefnyddio offer y Brifysgol, fel yr hwfer.
Gwastraff ac Ailgylchu
Mae gennych finiau yn eich cegin ar gyfer bwyd, gwastraff cyffredinol, gwydr ac ailgylchu. Dylech roi'r gwastraff hwn yn y biniau cywir yn y biniau allanol. Dylai'r gwastraff yn eich ystafell a'ch ystafell ymolchi en suite (lle bo'n berthnasol) gael ei roi'n syth yn y biniau allanol ac NID ym miniau cymunedol y fflat/tŷ. Lapiwch eitemau miniog neu eitemau sydd wedi torri (e.e. gwydr sydd wedi torri) mewn papur newyss cyn eu taflu.
Gellir casglu bagiau ailgylchu a bagiau gwastraff bwyd o'r Swyddfa Llety.
Gweler y siart isod sy'n nodi'r hyn y gellir ei ailgylchu - dylech roi popeth nad yw wedi ei restru ar y siart neu bethau na ellir eu hailgylchu yn y bin gwastraff cyffredinol.
Deunydd | Pa fin? | ![]() | × |
---|---|---|---|
Jariau a photeli gwydr | Bin gwydrau | Gwydr o bob lliw | Cerameg, Pyrex, gwydrau yfed, eitemaunad ydynt o wydr |
Cardfwrdd | Ailgylchu | Unrhyw fath o flychau cardfwrdd | Unrhyw gardfwrdd sy'n cynnwys cynnyrch na ellir ei ailgylchu, e.e. bwyd |
Papur | Ailgylchu | Papurau newydd, cylchgronau, padiau ysgrifennu, amlenni, llythyron neu unrhyw fath arall o bapur | Cartonau diodydd, e.e. sudd, eitemau nad ydynt o bapur |
Bwyd | Bin bwyd gwyrdd | Unrhyw fath o fwyd | Deynydd pacio, bagiau plastig, hylifau, olew |
Plastigau | Ailgylchu | Poteli gwag, capiau, gwelltynnau, potiau, tybiau, cwpanau a chaeadau | Tynlapio (Clingfilm), bagiau siopa, polystyren, eitemau nad ydynt o blastig |
Caniau | Ailgylchu | Caniau alwminiwm a dur, e.e. caniau cwrw, ffoil | Eitemau metel caled, e.e. cytleri, eitemau nad ydynt o fetel |
Beth i'w brynu
Gall fod yn syniad da i sirarad gyda'r bobl eraill sy'n byw yn eich tŷ ynglŷn â chyfrannu i brynu cynnyrch glanhau gyda'ch gilydd.
Dyma rai eitemau defnyddiol allai fod eu hangen arnoch i gadw pethau'n lân:
- Menig rwber
- Hylof golchi llestri
- Llieiniau llestri
- Llieiniau, padiau sgwrio, brwsh
- Glanhawr popty/hob
- Glanhawr gwrth-facteria amlbwrpas
- Glanhawr cawod ac ystafell ymolchi amlbwrpas
- Glanhawr toiled a menig a llieiniau glanhau gwahanol
- Bagiau sbwriel du
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y cyfarwyddiadau yn ofalus bob amser.
Templed rota glanhau
Gall y templed hwn amrywio gan ddibynnu ar y math o neuadd yr ydych yn byw ynddi. Rhaid golchi llestri a sosbenni ar ôl eu defnyddio, a'u sychu a'u cadw bob dydd.
Rhif ystafell/enw | Llun | Mawrth | Mercher | Iau | Gwener | Sadwrn | Sul |
---|---|---|---|---|---|---|---|
101 - Siôn | Mynd allan â'r biniau | Glanhau a hwfro'r coridor | Glanhau'r toiled a'r sinc | Glanhau'r gawod a llawr yr ystafell ymolchi | Glanhau mannau gwaith y gegin, y bwrdd a'r sinciau | Glanhau'r hobiau, y popty a'r ardal o amgylch y popty | Glanhau llawr y gegin a'r lolfa |
102 - Siân | Glanhau llawr y gegin a'r lolfa | Mynd allan â'r biniau | Glanhau a hwfro'r coridor | Glanhau'r toiled a'r sinc | Glanhau'r gawod a llawr yr ystafell ymolchi | Glanhau mannau gwaith y gegin, y bwrdd a'r sinciau | Glanhau'r hobiau, y popty a'r ardal o amgylch y popty |
103 - Pedr | Glanhau'r hobiau, y popty a'r ardal o amgylch y popty | Glanhau llawr y gegin a'r lolfa | Mynd allan â'r biniau | Glanhau a hwfro'r coridor | Glanhau'r toiled a'r sinc | Glanhau'r gawod a llawr yr ystafell ymolchi | Glanhau mannau gwaith y gegin, y bwrdd a'r sinciau |
104 - Gwion | Glanhau mannau gwaith y gegin, y bwrdd a'r sinciau | Glanhau'r hobiau, y popty a'r ardal o amgylch y popty | Glanhau llawr y gegin a'r lolfa | Mynd allan â'r biniau | Glanhau a hwfro'r coridor | Glanhau'r toiled a'r sinc | Glanhau'r gawod a llawr yr ystafell ymolchi |
105 - Elin | Glanhau'r gawod a llawr yr ystafell ymolchi | Glanhau mannau gwaith y gegin, y bwrdd a'r sinciau | Glanhau'r hobiau, y popty a'r ardal o amgylch y popty | Glanhau llawr y gegin a'r lolfa | Mynd allan â'r biniau | Glanhau a hwfro'r coridor | Glanhau'r toiled a'r sinc |
106 - Bethan | Glanhau'r toiled a'r sinc | Glanhau'r gawod a llawr yr ystafell ymolchi | Glanhau mannau gwaith y gegin, y bwrdd a'r sinciau | Glanhau'r hobiau, y popty a'r ardal o amgylch y popty | Glanhau llawr y gegin a'r lolfa | Mynd allan â'r biniau | Glanhau a hwfro'r coridor |