Diogelwch yn y Dŵr

Diogelwch ar y Traeth

Rydyn ni'n hynod ffodus yn Aberystwyth i fyw ar arfordir godidog Bae Ceredigion a hynny o fewn cyrraedd y môr a nifer o draethau.

Cadwch at yr awgrymiadau hyn i wneud yn sicr eich bod yn cadw'n ddiogel wrth fwynhau'r dŵr - 

  1. Cadwch lygad ar agor am achubwyr bywyd - nofiwch yn y mannau sy'n cael eu harolygu ganddynt
  2. Mae'n oerach nag y tybiwch - mae dŵr agored a dŵr mewn mannau mewndirol yn aml lawer yn oerach nag y mae'n edrych, a gall yr oerfel effeithio ar eich gallu i nofio ac i'ch achub eich hun
  3. Peidiwch â mynd yn rhy bell - nofiwch yn gyfochrog â'r lan, er mwyn peidio â mynd allan yn rhy bell fel y gallwch gyrraedd man diogel yn hawdd.
  4. Mae'n gryfach nag y tybiwch - gall cerrynt y dŵr fod yn nerthol iawn. Os cewch eich dal mewn llanw deufor (riptide) - peidiwch â nofio yn ei erbyn oherwydd byddwch yn ymlâdd. Nofiwch gyda'r cerrynt a galwch am gymorth
  5. Dewch â chyfaill - nofiwch gyda ffrindiau neu deulu, fel y bydd gennych gymorth os oes angen
  6. Arhoswch ac ystyried - Edrychwch am beryglon a darllenwch arwyddion a chyngor ynglŷn â pheryglon penodol yn y man lle'r ydych chi'n nofio
  7. Galwch 999 - Mewn argyfwng, gwaeddwch am gymorth a ffonio 999

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch yn y dŵr, ewch i wefan Cymdeithas Frenhinol Achub Bywydau - https://www.rlss.org.uk/Pages/Category/water-safety-information

Peidiwch ag Yfed a Boddi 

Os ydych chi'n mynd am noson allan, cofiwch na ddylech chi a'ch ffrindiau gerdded nôl ger ymyl y dŵr.

Ein cyngor ni yw -

  1. Gofalwch an eich ffrindiau, gwnewch yn sicr eu bod yn cyrraedd adre'n ddiogel
  2. Os ydych chi wedi cael diod, cadwch yn glir o'r dŵr
  3. Cymerwch lwybr arall, peidiwch â cherdded nôl ger y dŵr
  4. Cadwch draw o'r dŵr yn y gaeaf, mae sioc dŵr oer yn gallu bod yn farwol