Mannau Cymdeithasol, Ardaloedd Astudio ac Ystafelloedd y Gellir eu Harchebu

Mae'r Brifysgol yn darparu ardaloedd yn rhad ac am ddim i chi gael cymdeithasu, gweithio ar brosiectau grŵp, neu weithio'n unigol.

Ar draws y Llety a reolir gan y Brifysgol, mae gennym nifer o fannau cymdeithasol, ardaloedd astudio, ac ystafelloedd y gellir eu harchebu i chi gael eu defnyddio a'u mwynhau tra’n fyfyriwr gyda ni.  Mae mannau cymdeithasol ac astudio ar gael 24/7 ym mhob safle. Mae’r ystafelloedd y gellir eu harchebu ond i’w cael ar lawr gwaelod Pantycelyn rhwng 9yb a 10yh yn ystod y tymor.  Mae'r holl fannau cymdeithasol a’r ystafelloedd y gellir eu harchebu ar gael i bob preswylydd drwy ddefnyddio eich cerdyn Aber.

Rydym wedi darparu'r ardaloedd yma i chi gael:

  • gweithio mewn grwpiau
  • bod yn greadigol
  • ymarfer a pherfformio
  • cynnal cyfarfodydd cymdeithasau
  • ymlacio
  • eistedd, astudio a myfyrio
  • gwneud ffrindiau newydd. 

 

Gofynnwn i chi ddefnyddio’r mannau hyn yn gall a gofalu amdanynt, fel y byddant bob amser ar gael i chi - ein preswylwyr eu defnyddio.

Porwch drwy’r tudalennau isod i gael gwybod mwy...

Y cyswllt ar gyfer y dudalen hon:

Llety’r Brifysgol, Y Swyddfa Llety, Y Sgubor, Fferm Penglais, Aberystwyth, SY23 3FH
Ffôn: Llinell Gymorth Bywyd Campws: 01970 622900 Ebost: llety@aber.ac.uk