Diogelwch Trydanol a Phrofion PAT

Trydan sy’n achosi dros hanner y tanau mewn tai ym Mhrydain. I gael gwybodaeth ynglŷn â diogelwch trydan, ewch i we-ddalen ‘Electrical Safety First Webpage’.
Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol felly mae'n bosib na fydd y safle ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg
Rhaid profi diogelwch pob eitem drydanol sydd dros 12 mis oed cyn ei defnyddio yn Llety'r Brifysgol. Gelwir y prawf diogelwch perthnasol yn ‘PAT’ neu ‘Prawf Offer Cludadwy’.
Mae'n ofynnol i chi gael prawf PAT ar eich eitemau trydanol cyn cyrraedd fel eich bod chi'n gwybod eu bod nhw'n ddiogel i'w defnyddio. Gellir symud nwyddau trydanol heb dystysgrif PAT ddilys, neu dderbynneb yn cadarnhau eu bod o dan flwydd oed, o'ch preswylfa, a'u cadw i chi eu casglu ar ddiwedd eich Cytundeb Trwydded. Os oes tân trydanol neu ddifrod i'ch preswylfa oherwydd defnyddio eitem drydanol a oedd dros 12 mis oed ac nad oedd wedi cael prawf PAT, fe'ch delir yn gyfrifol am unrhyw ddifrod a achosir a gellir eich erlyn.
Os dewch ag eitemau trydanol gyda chi nad ydych wedi llwyddo i gael prawf PAT cyn cyrraedd, gallwch ddefnyddio ein Sioe Deithiol Profi PAT. Ni ellir defnyddio'r eitemau hyn yn eich preswylfa nes eu bod wedi'u profi a'u hardystio yn y Sioe Deithiol.