Cofnodi Nam

Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau bod eich llety'n ddiogel, o safon uchel ac yn rhoi gwerth da am eich arian. Ond, yn anffodus, weithiau gall pethau dorri.
Ni chewch wneud unrhyw atgyweiriadau eich hun i'r adeilad na gwneud unrhyw addasiadau iddo. Felly, os oes unrhyw beth angen ei atgyweirio neu'i addasu, mae'n rhaid rhoi gwybod amdanynt.
Gallwch roi gwybod am unrhyw faterion cynnal a chadw/atgyweiriadau, difrod, peryglon a materion yn ymwneud â rheoli pla drwy gyfrwng ein ffurflen rhoi gwybod am nam ar-lein. Caiff pob mater cynnal a chadw ei flaenoriaethu yn ôl brys. Rhowch wybod am unrhyw broblemau cyn gynted ag y byddwch yn sylwi arnynt.
Bydd adroddiadau nam ar-lein dim ond yn cael eu derbyn a'u prosesu rhwng Dydd Llun - Dydd Iau (8.30yb - 5.00yp) a dydd Gwener (8.30yb-4.00yp) ac eithrio Gwyliau Banc a Dyddiau Caeedig Y Brifysgol. Os oes gennych nam brys i adroddi, gallwch ffonio'r linell gymorth Prifysgol 24/7 - 01970 622900 (Opsiwn 5).
Wrth roi gwybod am nam, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich enw a manylion eich ystafell, yn ogystal â manylion llawn y nam. Nodwch yn union beth yw'r problem ac ymhle yn union y mae. Gall peidio â gwneud hyn arwain at gamddealltwriaeth o'r broblem.
Nid oes angen cofnodi nam ddwywaith. Unwaith y byddwch wedi ei gofnodi y tro cyntaf, nid oes angen rhoi gwybod i ni eto. Byddwch yn ymwybodol bod yr amser atgyweirio yn amrywio yn dibynnu ar y math o fai, gweler yr Amseroedd Ymateb Targed Cynnal a Chadw a geir yn y Llawlyfr ‘Llety’.