Mae gennych finiau yn eich cegin ar gyfer bwyd, gwastraff cyffredinol, gwydr ac ailgylchu. Dylech roi'r gwastraff hwn yn y biniau cywir yn y biniau allanol. Dylai'r gwastraff yn eich ystafell a'ch ystafell ymolchi en suite (lle bo'n berthnasol) gael ei roi'n syth yn y biniau allanol ac NID ym miniau cymunedol y fflat/tŷ. Lapiwch eitemau miniog neu eitemau sydd wedi torri (e.e. gwydr sydd wedi torri) mewn papur newyss cyn eu taflu.

Gellir casglu bagiau ailgylchu a bagiau gwastraff bwyd o'r Swyddfa Llety.

Gweler y siart isod sy'n nodi'r hyn y gellir ei ailgylchu - dylech roi popeth nad yw wedi ei restru ar y siart neu bethau na ellir eu hailgylchu yn y bin gwastraff cyffredinol. 

Deunydd Pa fin? ×
Jariau a photeli gwydr Bin gwydrau Gwydr o bob lliw Cerameg, Pyrex, gwydrau yfed, eitemaunad ydynt o wydr
Cardfwrdd Ailgylchu Unrhyw fath o flychau cardfwrdd Unrhyw gardfwrdd sy'n cynnwys cynnyrch na ellir ei ailgylchu, e.e. bwyd
Papur Ailgylchu Papurau newydd, cylchgronau, padiau ysgrifennu, amlenni, llythyron neu unrhyw fath arall o bapur Cartonau diodydd, e.e. sudd, eitemau nad ydynt o bapur
Bwyd Bin bwyd gwyrdd Unrhyw fath o fwyd Deynydd pacio, bagiau plastig, hylifau, olew
Plastigau Ailgylchu Poteli gwag, capiau, gwelltynnau, potiau, tybiau, cwpanau a chaeadau Tynlapio (Clingfilm), bagiau siopa, polystyren, eitemau nad ydynt o blastig
Caniau Ailgylchu Caniau alwminiwm a dur, e.e. caniau cwrw, ffoil Eitemau metel caled, e.e. cytleri, eitemau nad ydynt o fetel

 

Mae storfeydd biniau allanol ar gael 24/7, a chaiff y gwastraff ei gasglu ar y diwrnodau canlynol:

 

Fferm Penglais:

 

Ffrwd Gwastraff

Diwrnod Casglu

Bwyd

Dydd Gwener

Gwydr

Dydd Mawrth

Ailgylchu Cymysg Sych

Dydd Llun/Mercher/Gwener

Gwastraff Cyffredinol

Dydd Llun/Mercher/Gwener

 

Pob Preswylfa arall:

 

Ffrwd Gwastraff

Diwrnod Casglu

Bwyd

Dydd Iau

Gwydr

Dydd Iau (bob pythefnos)

Ailgylchu Cymysg Sych

Dydd Mercher

Gwastraff Cyffredinol

Dydd Llun/Iau