Trosolwg

Mae Stiwdios Fferm Penglais i'w cael wrth ymyl Pentre Jane Morgan, ar ochr arall y ffordd i Gampws Penglais, ac mae modd cyrraedd y campws yn ddiogel dros y bont droed. Mae'n cynnig y llety myfyrwyr diweddaraf oll, wedi'i godi'n unswydd, gydag ystafell ymolchi i bob ystafell wely. O fewn pellter cerdded hawdd i adeiladau academaidd y Brifysgol, mae'r llety yn darparu amgylchedd eithriadol i fyw ac astudio ynddo, gydag ystafelloedd gwely o faint da gydag ystafelloedd ymolchi preifat, a fflatiau stiwdio o ansawdd uchel, gan gynnwys cyswllt gwifr a diwifr â'r rhyngrwyd.  Mae man gwasanaethau canolog cyfleus lle y ceir caffi gyda bwrdd pŵl, mannau astudio 24/7, siop, peiriant gwerthu, golchfa, storfa feiciau, ac adnoddau cymdeithasol a chwaraeon.

Llety

Mae Fferm Penglais yn gartref i ryw 1000 o fyfyrwyr rhwng 22 o flociau; 20 o flociau sy'n cynnwys ystafelloedd gyda'u cyfleusterau eu hunain, a 2 ohonynt sy'n cynnwys fflatiau stiwdio.

Mae pob bloc yn cynnwys naill ai 6 neu 9 fflat hunangynhwysol, a 6 neu 8 ystafell wely sengl ym mhob un.

Mae'r stwidios helaeth hyn ar gyfer un unigolyn yn hollol hunangynhwysol, yn cynnwys ystafell wely, ystafell gawod, a chegin gydag ardal fwyta.

Arlwyo

Mae myfyrwyr Fferm Penglais yn arlwyo ar gyfer eu hunain.

Mae gan Fferm Penglais siop ar y safle yn Yr Hwb sy’n cynnig yr eitemau sylfaenol am bris isel megis, bara ffres a llaeth, bwydydd wedi’u rhewi, pethau ymolchi a glanhau.

Mae Fferm Penglais wedi’i lleoli 5 munud ar droed o archfarchnad CK's, neu gall myfyrwyr siopa yn yr archfarchnadoedd mawr yn y dref.

Ond, os hoffech ddefnyddio ein cyfleusterau arlwyo gallwch roi arian ar eich Cerdyn Aber, neu gall teulu/ffrindiau ychwanegu ato ar eich rhan, i’w ddefnyddio yn unrhyw un o’r bwytai ar y campws – mi gewch ostyngiad o 10% yn ogystal!

Adnoddau

Dyma rai o'r brif gyfleusterau Fferm Penglais:

  • Llety hunanarlwyo.
  • Stiwdios hunangynhaliol.
  • Cyswllt Di-wifr a Gwifredig.
  • Mynediad i'r Canolfannau Dysgu (Lolfa Rosser neu Lolfa PJM).
  • Gwasanaeth glanhau yn y mannau cyhoeddus y tu allan i'ch fflat - mynedfeydd, pen y grisiau, y grisiau a choridorau.
  • Adnoddau golchi dillad.
  • Caffi gyda siop ar y safle, Wi-Fi, soffas, peiriannau gwerthu ac ardaloedd astudio grŵp.
  • Ystafelloedd y Gellir eu Llogi.
  • Peiriannau gwerthu.
  • Storfa ddiogel i gadw beiciau.
  • Mannau casglu sbwriel ac ailgylchu.
  • Parcio (cyfyngedig, angen trwydded).
  • Mae Cynorthwywyr Preswylfa'n darparu cymorth a cyngor.

Beth sydd yn eich Stiwdio?

Ystafell wely:

  • Gwely dwbl (4 troedfedd 6) a matres.
  • Cabinet ochr y gwely.
  • Cwpwrdd dillad.
  • Drych hir.
  • Rheilen hongian.
  • Desg a chadair cyfrifiadur.
  • Silffoedd llyfrau.
  • Hysbysfwrdd.
  • Bin gwastraff.

Ystafell ymolchi:

  • Cawod.
  • Toiled.
  • Basn ymolchi.
  • Drych.
  • Bin pedal.

Cegin / Ardal fwyta:

  • Ffwrn gyfunol.
  • Hob anwytho (Angen sosbenni a llestri coginio arbennig*)
  • Oergell / Rhewgell.
  • Sinc.
  • Cypyrddau.
  • Tegell.
  • Tostiwr.
  • Hwfer.
  • Haearn smwddio a bwrdd smwddio.
  • Bwced a mop.
  • Padell lwch a brwsh.
  • Bwrdd a 2 gadair.
  • Cadair dwba.

*Dim on sosbenni metel wedi’u magneteiddio, er enghraifft haearn bwrw neu ddur, y gallwch chi eu defnyddio. Ni fydd sosbenni alwminiwm na chopr yn gweithio oni bai bod y gwaelod wedi’i fondio â metel magnetig. Gwnewch yn sicr bod y sosbenni sydd gennych yn addas i’w defnyddio ar hob anwythiad – dylai hyn fod wedi’i ddangos yn glir ar y blwch mewn geiriau neu symbolau.

 

Lleoliad

Map  Cliciwch ar y map i weld union leoliad Fferm Penglais.

O fewn pum munud o gerdded o Fferm Penglais gallwch gyrraedd:

Oriel

Lluniau ac Artistiaid Argraffiadau o Fferm Penglais. (Cliciwch i weld llun mwy)

Cegin
Cegin
Ystafell Ymolchi

Ffioedd

Math o ystafell

Cost Wythnosol 2023/ 2024

Hyd y Contract 2023/ 2024

Cost Wythnosol 2024/ 2025

Hyd y Contract 2024/ 2025

Sengl Stiwdio
£184.63
40 wythnos*
£192.02
40 wythnos**

*O 10.00yb ar 23/09/2023 - 10.00yb ar 28/06/2024

**O 10.00yb ar 20/09/2024 - 10.00yb ar 27/06/2025

Darganfyddwch beth sydd wedi'i gynnwys yn y Ffioedd Llety

Fideo