Pentre Jane Morgan - tai hygyrch

 

Trosolwg

Mae Pentre Jane Morgan (PJM), y 'Pentre Myfyrwyr', i'w gael wrth ymyl Fferm Penglais, ar ochr arall y ffordd i Gampws Penglais, ac mae modd cyrraedd y campws yn ddiogel dros y bont droed. Mae gan lawer o'r ystafelloedd lan y grisiau yn y tai olygfeydd braf ar y dref a'r bae, sydd ryw gwta ddeng munud o dro i ffwrdd ar droed.

Llety

Mae Pentre Jane Morgan yn gartref i ryw 1000 o fyfyrwyr rhwng 177 o dai.

Mae gan bob tŷ 5 ystafell wely. Mae gan 2 o’r tai DDA fflat hunan-gynhwysol sy’n cynnwys ystafell ymolchi a chegin addasadwy gydag ystafell i ofalwr drws nesaf os oes angen. Mae gan yr ystafelloedd gwely eraill yn y tŷ fynediad i ystafell ymolchi a chegin a rennir. Mae’r tŷ arall yn cynnwys un ystafell wely sengl gydag ystafell wely en-suite, 4 ystafell wely safonol gydag ystafell wely a rennir; mae gan yr holl ystafelloedd gwely fynediad i gegin addasadwy a rennir.

Arlwyo

Mae myfyrwyr yn PJM yn hunanarlwyo.

Mae Pentre Jane Morgan wedi’i leoli o fewn 5 munud o gerdded o archfarchnad CK’s, neu gall preswylwyr siopa yn yr archfarchnadoedd mwy o faint yn y dref.

Ond, os hoffech ddefnyddio ein cyfleusterau arlwyo gallwch roi arian ar eich Cerdyn Aber, neu gall teulu/ffrindiau ychwanegu ato ar eich rhan, i’w ddefnyddio yn unrhyw un o’r bwytai ar y campws – mi gewch ostyngiad o 10% yn ogystal!

Adnoddau

Dyma rai o'r brif gyfleusterau Pentre Jane Morgan:

• Llety hunanarlwyo.
• Cyswllt Di-wifr a Gwifredig.
• Mynediad i'r Canolfannau Dysgu (Lolfa @ PJM neu Lolfa @ Rosser).
• Cyfleusterau golchi dillad.
• Mannau casglu sbwriel ac ailgylchu.
• Storfa ddiogel i gadw beiciau.
Parcio (cyfyngedig, angen trwydded).
• Mae Cynorthwywyr Preswylfa'n darparu cymorth a cyngor.

Lleoliad

map Cliciwch ar y map i weld union leoliad Pentre Jane Morgan

O fewn pum munud o gerdded o Bentre Jane Morgan gallwch gyrraedd:

Oriel

Sylwer bod rhain yn luniau cynrychiadol o ystafelloedd nodweddiadol yng Nghwrt Mawr. (Cliciwch i weld llun mwy)

Ystafell Wely
Cegin
Ystafell Ymolchi

Ffioedd

Math o ystafell

Cost Wythnosol 2023/ 2024

Hyd y Contract 2023/ 2024

Cost Wythnosol 2024/ 2025

Hyd y Contract 2024/ 2025

Sengl £121.99 39 wythnos* £130.55 39 wythnos**

*O 10.00yb ar 22/09/2023 - 10.00yb ar 21/06/2024

**O 10.00yb ar 20/09/2024 - 10.00yb ar 20/06/2025

Darganfyddwch beth sydd wedi'i gynnwys yn y Ffioedd Llety