Trosolwg

Saif Trefloyne ar ben uchaf Campws Penglais, ger neuaddau preswyl Cwrt Mawr a Rosser - sydd yn gartref i ryw 1000 o fyfyrwyr i gyd. Mae llawer o’r ystafelloedd yn cynnwys golygfeydd arbennig o’r dref a’r bae, sydd ond 10 munud i ffwrdd ar droed.

Llety

Ystafelloedd sengl sydd gan Trefloyne, wedi’u trefnu’n fflatiau hunangynhwysol gan rannu ceginau ac ystafelloedd ymolchi. Mae pob fflat yn lletya 7 o fyfyrwyr a cheir ystafell gawod, ystafell ymolchi ac ystafell toiled ar wahân gyda basn ymolchi. Ceir basn ymolchi yn yr ystafelloedd gwely/astudio hefyd.

Arlwyo       

Neuadd hunanarlwyo yw Trefloyne, gyda’r myfyrwyr yn rhannu ceginau mewn fflatiau hunangynhwysol.  Yn y ceginau ceir oergell/rhewgell, ffwrn â gril a phentan, ffwrn microdon, tegell, peiriant tostio, bwrdd a chadeiriau, hoover, haearn smwddio, bwrdd smwddio, mop a bwced a brwsh a phan ac ardal eistedd feddal fel eitemau safonol

Mae Trefloyne wedi’i lleoli o fewn 5 munud o gerdded i archfarchnad CK’s, neu gall preswylwyr siopa yn yr archfarchnadoedd mwy o faint yn y dref.

Ond, os hoffech ddefnyddio ein cyfleusterau arlwyo gallwch roi arian ar eich Cerdyn Aber, neu gall teulu/ffrindiau ychwanegu ato ar eich rhan, i’w ddefnyddio yn unrhyw un o’r bwytai ar y campws – mi gewch ostyngiad o 10% yn ogystal!

Adnoddau

Dyma rai o'r brif gyfleusterau Trefloyne:

  • Llety hunanarlwyo.
  • Cyswllt Di-wifr a Gwifredig.
  • Cyfleusterau Golchdy.
  • Gwasanaeth glanhau yn y mannau cyhoeddus tu allan i'ch fflat - mynedfeydd, pen y grisiau, y grisiau a choridorau.
  • Mynediad i'r canolfan ddysgu (Lolfa @ Rosser neu Lolfa @ PJM). 
  • Storfa ddiogel i gadw beiciau.
  • Mannau casglu sbwriel ac ailgylchu.
  • Parcio (cyfyngedig, angen trwydded).
  • Mae Cynorthwywyr Preswylfa'n darparu cymorth a chyngor.

Beth sydd yn eich ystafell?

  • Gwely sengl (3 troedfedd) a matres.
  • Cabinet ochr y gwely.
  • Cwpwrdd dillad.
  • Desg a chadair cyfrifiadur.
  • Lamp desg.
  • Silffoedd llyfrau.
  • Hysbysfwrdd.
  • Bin gwastraff.
  • Basn ymolchi gyda drych.

Beth sydd yn eich Lle Cymunedol?

Cegin

  • 1 Oergell ac 1 Rhewgell, neu 2 Oergell/Rhewgell.
  • 2 ffwrn â gril/hob.
  • Popty ping.
  • Tegell.
  • Tostiwr.
  • Hwfer.
  • Bwrdd cinio a chadeiriau.
  • Soffa.
  • Haearn.
  • Bwrdd smwddio.
  • Bwced a mop.
  • Padell lwch a brwsh.
  • Brwsh llawr.
  • Hysbysfwrdd.
  • Biniau – Ailgylchu sych cymysg, gwydr, bwyd a gwastraff cyffredinol.

Ystafell ymolchi

  • Toiled.
  • Basn ymolchi.
  • Baddon.
  • Cawod.

Lleoliad

map Cliciwch ar y map i weld union leoliad Trefloyne.

O fewn pum munud o gerdded o ‌Trefloyne gallwch gyrraedd:

Oriel

Sylwer bod rhain yn luniau cynrychiadol o ystafelloedd nodweddiadol yn Nhrefloyne. (Cliciwch i weld llun mwy)

Golygfa allanol
Golygfa allanol
Ystafell Wely
Ystafell Wely
Ystafell Wely
Ystafell Ymolchi
Ystafell Ymolchi
Cegin
Cegin

Ffioedd

Math o ystafell

Cost Wythnosol 2023 / 2024

Hyd y Contract 2023 / 2024

Cost Wythnosol 2024 / 2025

Hyd y Contract 2024 / 2025

Sengl £110.31 39 wythnos* £114.27 39 wythnos**

*O 10.00yb ar 22/09/2023 - 10.00yb ar 21/06/2024

**O 10.00yb ar 20/09/2024 - 10.00yb ar 20/06/2025

Darganfyddwch beth sydd wedi'i gynnwys yn y Ffioedd Llety