Llety yn y Sector Preifat

Gall dewis llety myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth fod yn benderfyniad mawr. Os nad ydych chi eisiau byw yn Llety’r Brifysgol bydd yn rhaid i chi chwilio am dŷ yn y sector preifat. Serch hynny, byddwch yn ymwybodol bod Prifysgol Aberystwyth yn sicrhau* lle mewn llety sy'n eiddo i'r Brifysgol neu a reolir ganddi ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af.
*Gosodir telerau ac amodau - ewch i'n Polisi Blaenoriaethau i gael rhagor o fanylion.
Peidiwch â phoeni oherwydd dydych chi ddim ar eich pen eich hun ac fe allwn ni eich helpu chi gymaint â phosibl i chwilio. Os oes gennych chi unrhyw amheuon ynghylch rhentu llety preifat, cysylltwch â’r Swyddfa Llety, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth neu Ganolfan Cyngor ar Bopeth Aberystwyth.
Peidiwch a chynhyrfu a pheidiwch a rhuthro!
Peidiwch â rhuthro i drefnu eich llety, mae digonedd o dai i fyfyrwyr yn Aberystwyth felly cymerwch eich amser. Mae mor bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr eich bod yn hapus gyda’r bobl yr hoffech fyw gyda nhw, ble rydych eisiau byw, a faint y gallwch chi fforddio ei dalu.
Efallai yr hoffech ystyried y canlynol wrth chwilio am lety preifat:
- Allwch chi fforddio’r rhent? Beth sydd wedi’i gynnwys yn y rhent? Byddwch yn realistig, peidiwch â mynd am rywbeth na allwch ei fforddio.
- Gall costau ychwanegol gynnwys nwy, trydan, dŵr, rhyngrwyd, ffôn, trwydded deledu
- Trefnwch Yswiriant
- A yw’r cytundeb tenantiaeth (neu’r contract) ar y cyd ac yn unigol? Mae gan bawb a enwir ar y cytundeb tenantiaeth gyfrifoldeb cyfartal am delerau’r contract gan gynnwys rhent (h.y. os bydd un unigolyn yn gadael mae gan y lleill gyfrifoldeb i dalu eu cyfran hwy).
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen a deall y cytundeb tenantiaeth cyn llofnodi bob tro.
- Pryd mae’r denantiaeth yn dechrau a gorffen? Cofiwch ddyddiad gorffen ble rydych chi’n byw nawr i sicrhau eu bod yn cyd-daro.
- A ydych chi angen gwarantwr? Rhywun fydd yn gorfod gwarantu y bydd eich rhent yn cael ei dalu ac os nad ydyw, yna maen nhw’n gyfrifol am dalu, fel rheol rhiant (rhaid iddynt fyw yn y DU)
- Byddwch yn ofalus gyda phwy yr ydych yn penderfynu byw – a fyddwch chi’n dal i fod yn ffrindiau ymhen 6 mis?
- Faint yw’r blaendal? Ni ddylai neb ofyn i chi dalu blaendal os nad ydych wedi gweld y cytundeb tenantiaeth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael derbynneb.
- Sicrhewch fod eich blaendal yn cael ei gadw mewn Cynllun Blaendal Tenantiaeth
- A oes rhent dros yr haf?
- A oes unrhyw ffioedd gweinyddol? Fel rheol ni chaiff y ffi hon ei had-dalu.
- Treth y cyngor – os yw’r holl breswylwyr yn fyfyrwyr yna nid oes raid talu Treth y Cyngor ar gyfer yr eiddo.
- Peidiwch â mynd i weld eiddo ar eich pen eich hun – cymerwch eich amser, edrychwch ar ddetholiad o dai i gael gwerth am eich arian.
- Peidiwch â bod ofn gofyn llawer o gwestiynau – dyna beth yw un o swyddogaethau’r asiant/landlord!
- Lleoliad yr eiddo – amser/costau teithio?
- A yw’r eiddo’n ddiogel? Peidiwch â bod ofn gofyn i gael gweld y tystysgrifau diogelwch.
- A ydych chi’n gwybod pwy yw’r landlord?
- Edrychwch ar y Dystysgrif Perfformiad Ynni – costau a faint o ynni mae’r eiddo’n ei ddefnyddio’n gyffredinol / ffyrdd o arbed arian!
- Gofynnwch i’r tenantiaid presennol sut le ydyw!
- Sicrhewch eich bod yn gwybod beth yw’ch hawliau a beth yw ymrwymiadau’r landlord.
- A oes angen Trwydded Amlfeddiannaeth ar yr eiddo? Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cadw cofrestr o Dai Amlfeddiannaeth Trwyddedig.
- Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i bob landlord ac asiantaeth yng Nghymru gofrestru â Rhentu Doeth Cymru, ac os ydynt yn rheoli eu heiddo eu hunain mae’n rhaid iddynt hefyd gael trwydded gan Rhentu Doeth Cymru.
- Gwiriwch a yw'r eiddo rydych chi'n ystyried ei rentu mewn perygl o lifogydd. Ewch i dudalen Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarganfod a chofrestru am rybuddion llifogydd am ddim.
Pryd i chwilio?
Yn draddodiadol mae myfyrwyr yn dechrau chwilio am dai tua mis Tachwedd/Rhagfyr a dyma pryd y byddwn yn rhyddhau’r rhestr o lety i fyfyrwyr yn y sector preifat drwy’r Gronfa Ddata o Lety yn y Sector Preifat yn ogystal ag agor ceisiadau am Lety Prifysgol (felly cadwch lygaid allan am y wybodaeth ddiweddaraf!).
Ble i chwilio?
StudentPad
Asiantau Gosod
Cambrian News
Ceir rhagor o gyfarwyddyd ynghylch beth i chwilio amdano yn y sector preifat ar:
- Rhestr Enghreifftiol o Eiddo.
- Canllawiau Tai'r Sector Preifat.