Fferm Penglais Stiwdio
Trosolwg
Mae Stiwdios Fferm Penglais i'w cael wrth ymyl Pentre Jane Morgan, ar ochr arall y ffordd i Gampws Penglais, ac mae modd cyrraedd y campws yn ddiogel dros y bont droed. Mae'n cynnig y llety myfyrwyr diweddaraf oll, wedi'i godi'n unswydd, gydag ystafell ymolchi i bob ystafell wely. O fewn pellter cerdded hawdd i adeiladau academaidd y Brifysgol, mae'r llety yn darparu amgylchedd eithriadol i fyw ac astudio ynddo, gydag ystafelloedd gwely o faint da gydag ystafelloedd ymolchi preifat, a fflatiau stiwdio o ansawdd uchel, gan gynnwys cyswllt gwifr a diwifr â'r rhyngrwyd. Mae man gwasanaethau canolog cyfleus lle y ceir caffi gyda bwrdd pŵl, mannau astudio 24/7, siop, peiriant gwerthu, golchfa, storfa feiciau, ac adnoddau cymdeithasol a chwaraeon.
Llety
Mae Fferm Penglais yn gartref i ryw 1000 o fyfyrwyr rhwng 22 o flociau; 20 o flociau sy'n cynnwys ystafelloedd gyda'u cyfleusterau eu hunain, a 2 ohonynt sy'n cynnwys fflatiau stiwdio.
Mae pob bloc yn cynnwys naill ai 6 neu 9 fflat hunangynhwysol, a 6 neu 8 ystafell wely sengl ym mhob un.
Mae'r stwidios helaeth hyn ar gyfer un unigolyn yn hollol hunangynhwysol, yn cynnwys ystafell wely, ystafell gawod, a chegin gydag ardal fwyta.
Arlwyo
Mae myfyrwyr Fferm Penglais yn arlwyo ar gyfer eu hunain.
Mae gan Fferm Penglais siop ar y safle yn Yr Hwb sy’n cynnig yr eitemau sylfaenol am bris isel megis, bara ffres a llaeth, bwydydd wedi’u rhewi, pethau ymolchi a glanhau.
Mae Fferm Penglais wedi’i lleoli 5 munud ar droed o archfarchnad CK's, neu gall myfyrwyr siopa yn yr archfarchnadoedd mawr yn y dref.
Ond, os hoffech ddefnyddio ein cyfleusterau arlwyo gallwch roi arian ar eich Cerdyn Aber, neu gall teulu/ffrindiau ychwanegu ato ar eich rhan, i’w ddefnyddio yn unrhyw un o’r bwytai ar y campws – mi gewch ostyngiad o 10% yn ogystal!
Adnoddau
Dyma rai o'r brif gyfleusterau Fferm Penglais:
- Llety hunanarlwyo.
 - Stiwdios hunangynhaliol.
 - Cyswllt Di-wifr a Gwifredig.
 - Mynediad i'r Canolfannau Dysgu (Lolfa Rosser neu Lolfa PJM).
 - Gwasanaeth glanhau yn y mannau cyhoeddus y tu allan i'ch fflat - mynedfeydd, pen y grisiau, y grisiau a choridorau.
 - Adnoddau golchi dillad.
 - Caffi gyda siop ar y safle, Wi-Fi, soffas, peiriannau gwerthu ac ardaloedd astudio grŵp.
 - Ystafelloedd y Gellir eu Llogi.
 - Peiriannau gwerthu.
 - Storfa ddiogel i gadw beiciau.
 - Mannau casglu sbwriel ac ailgylchu.
 - Parcio (cyfyngedig, angen trwydded).
 - Mae Cynorthwywyr Preswylfa'n darparu cymorth a cyngor.
 
Beth sydd yn eich Stiwdio?
Ystafell wely:
- Gwely dwbl (4 troedfedd 6) a matres.
 - Cabinet ochr y gwely.
 - Cwpwrdd dillad.
 - Drych hir.
 - Rheilen hongian.
 - Desg a chadair cyfrifiadur.
 - Silffoedd llyfrau.
 - Hysbysfwrdd.
 - Bin gwastraff.
 
Ystafell ymolchi:
- Cawod.
 - Toiled.
 - Basn ymolchi.
 - Drych.
 - Bin pedal.
 
Cegin / Ardal fwyta:
- Ffwrn gyfunol.
 - Hob anwytho (Angen sosbenni a llestri coginio arbennig*)
 - Oergell / Rhewgell.
 - Sinc.
 - Cypyrddau.
 - Tegell.
 - Tostiwr.
 - Hwfer.
 - Haearn smwddio a bwrdd smwddio.
 - Bwced a mop.
 - Padell lwch a brwsh.
 - Bwrdd a 2 gadair.
 - Cadair dwba.
 
*Dim on sosbenni metel wedi’u magneteiddio, er enghraifft haearn bwrw neu ddur, y gallwch chi eu defnyddio. Ni fydd sosbenni alwminiwm na chopr yn gweithio oni bai bod y gwaelod wedi’i fondio â metel magnetig. Gwnewch yn sicr bod y sosbenni sydd gennych yn addas i’w defnyddio ar hob anwythiad – dylai hyn fod wedi’i ddangos yn glir ar y blwch mewn geiriau neu symbolau.
Lleoliad
  Cliciwch ar y map i weld union leoliad Fferm Penglais.
O fewn pum munud o gerdded o Fferm Penglais gallwch gyrraedd:
- Archfarchnad CK’s
 - Siop pysgod a sglodion
 - Arhosfan bws
 - Y mwyafrif o’r Adrannau Academaidd
 - Llyfrgelloedd y Brifysgol
 - Undeb y Myfyrwyr
 - Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
 - Canolfan Chwaraeon y Brifysgol
 - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
 
360 - Fferm Penglais, Fflat Stiwdio
Ffioedd
Fideo
Bloc 13

Bloc 14

