Cwrdd â'r Tîm

Cyfarfod â'ch Tîm Bywyd Preswyl 2023/24!

Jonny Davies

Jonny Davies

Swydd Rheolwr Bywyd Preswyl
Graddedig Aber Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Diddordebau Sglefrfyrddio, pêl-droed (gwylio a chwarae), gwylio ffilmiau / sioeau teledu, ParkRun, beicio
Hoff Ffilm(iau) Rogue One: A Star Wars Story

Gwilym Tootell

Lucy Gardner

Geiriau personol CP:

"Mae gweithio fel Cynorthwyydd Preswyl wedi bod yn brofiad gwych i mi, ac rwy'n ei argymell i unrhyw un sydd â diddordeb. Mae wedi fy ngalluogi i dyfu'n fwy hyderus fel person tra hefyd yn caniatáu i mi ddatblygu fy sgiliau ymhellach o ran rheoli amser, gwaith tîm a chyfathrebu. Mae'r swydd hefyd yn hynod hyblyg sydd wedi caniatáu i mi ei chydbwyso'n hawdd â’m hastudiaethau a'm bywyd cymdeithasol. Mae hefyd yn swydd hwyliog iawn wrth i chi gyfrannu at ddigwyddiadau creadigol a chymdeithasu gyda chyd-weithwyr a myfyrwyr cyfeillgar!"

- CP 2023-24

"Mae bod yn Gynorthwyydd Preswyl wedi bod yn brofiad anhygoel a buddiol, gan helpu i adeiladu cymuned brifysgol gref a chynhwysol. Mae meithrin cymaint o sgiliau megis gweithio mewn tîm a chyfathrebu yn 2 yn unig o'r manteision helaeth rwyf wedi'u cael o fod yn Gynorthwyydd Preswyl. Byddwn yn argymell yn fawr bod yn Gynorthwyydd Preswyl am y cyfle i gael effaith gadarnhaol ar brofiadau prifysgol preswylwyr a chwrdd â llawer o bobl newydd!"

- CP 2023-24

"Mae bod yn Gynorthwyydd Preswyl wedi bod yn brofiad rhagorol o ran datblygiad proffesiynol i mi, gan ganiatáu i mi arddangos a datblygu sgiliau rhyngbersonol sy'n hanfodol ar gyfer fy ngyrfa. Rwyf wedi cwrdd â chymaint o bobl hyfryd oherwydd y swydd hon, ac mae helpu rhywun trwy gyfnod anodd pan fyddant yn dod atom am gefnogaeth yn un o rannau mwyaf gwerth chweil y rôl. Mae'n rôl gyfoethog ac amrywiol, ac mae'r amrywiaeth o ddigwyddiadau rwyf wedi’u harwain a chymryd rhan ynddynt wedi fy ngalluogi i wella fy sgiliau celf yn fawr!"

- CP 2023-24

"Mae gweithio fel Cynorthwyydd Preswyl wedi bod yn brofiad gwych yn ystod fy ail flwyddyn yn y brifysgol. Roedd hi’n wych gweithio mewn tîm cefnogol i wella'r profiad i fyfyrwyr yn y llety. Fel Cynorthwyydd Preswyl, rwyf wedi datblygu sgiliau rheoli amser a chyfathrebu, yn enwedig wrth gynnal digwyddiadau a chynnal cytundebau cyd-letywyr. Roedd y swydd hon yn bwysig wrth wella fy sgiliau a’m cyflogadwyedd ac fe wnaeth fy helpu i sicrhau blwyddyn mewn lleoliad diwydiant, felly rwy'n ddiolchgar iawn am y profiad hwn!"

- CP 2023-24

"Rwyf wedi mwynhau fy amser fel Cynorthwyydd Preswyl yn fawr yn ystod fy astudiaethau. Mae'r oriau'n cyd-fynd â'm hastudiaethau, ac roedd hi’n wych meithrin profiad, dod i adnabod pobl newydd anhygoel, ac ennill rhywfaint o arian wrth astudio. Fy hoff ran am fod yn Gynorthwyydd Preswyl oedd cymryd rhan yn y digwyddiadau. Cawsom gyfle i ymuno â'r myfyrwyr a gwneud y gwaith celf ein hunain hefyd! Byddwn yn argymell bod yn Gynorthwyydd Preswyl, gan ei fod yn brofiad hwyliog ac yn gyfle gwych i unrhyw fyfyriwr!"

- CP 2023-24

"Mae bod yn Gynorthwyydd Preswyl wedi fy ngalluogi i gael profiadau anhygoel o weithio o fewn ein tîm a thrwy ein rhyngweithio dirifedi gyda'n preswylwyr. Mae'r cyfle hwn wedi fy ngalluogi i ddod yn fersiwn well ohonof fy hun o ran fy sgiliau trefnu, rheoli amser ac arwain, nid yn unig er budd y gwasanaeth a'n derbynwyr, ond er budd cydweithwyr a minnau. Mae'n brofiad y byddaf yn ei werthfawrogi'n barhaus a byddaf yn defnyddio'r amrywiaeth o sgiliau a ddysgais drwy gydol fy amser ar y tîm tuag at fy nghyfleoedd yn y dyfodol."

- CP 2023-24

"Mae gweithio fel Cynorthwyydd Preswyl wedi bod yn brofiad gwych ar y cyfan. Roedd yn un o'r penderfyniadau gorau a wnes i yn ystod fy nghyfnod fel myfyriwr gan ei fod yn caniatáu i mi ddatblygu sgiliau newydd a gwella fy hyder a fydd o fudd mawr i mi wrth symud ymlaen. Gan fod y rôl mor hyblyg, nid oedd yn effeithio ar fy astudiaethau, felly ni allaf argymell y swydd hon ddigon i'r rhai sydd â diddordeb mewn gweithio yn ystod eu hamser yn y brifysgol. Rwy'n ddiolchgar am y profiadau a'r twf amhrisiadwy a roddodd y rôl hon i mi."

- CP 2022-24

"Mae bod yn Gynorthwyydd Preswyl wedi rhoi cyfle i mi weithio tra byddaf yn astudio fel myfyriwr. Mae wedi rhoi'r cyfle i mi ryngweithio â myfyrwyr o wahanol flynyddoedd ac adrannau, gyda chyd-weithwyr a chyda myfyrwyr sydd wedi mynychu digwyddiadau. Mae wedi rhoi'r hyder i mi ryngweithio ag eraill ac wedi dysgu mwy imi am sgiliau hanfodol megis rheoli amser a chynllunio."

- CP 2021-23

"Mae gweithio fel Cynorthwyydd Preswyl wedi bod yn brofiad hynod foddhaus. Mae cyfrannu at gymuned ddeinamig a chefnogol wedi galluogi i mi gael effaith ar fywydau fy nghyd-fyfyrwyr a datblygu sgiliau gwerthfawr ar gyfer fy nhwf personol a phroffesiynol."

- CP 2022-23

"Mae bod yn Gynorthwyydd Preswyl wedi bod yn brofiad anhygoel. Mae wedi fy helpu i wella pob agwedd ar fy mywyd megis fy hyder a'm gwybodaeth am eraill. Mae wedi bod yn werth chweil gwybod fy mod wedi cael effaith gadarnhaol ar y myfyrwyr ar y campws ac wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl."

- CP 2022-23

‘Roedd dewis ymgeisio ar gyfer y rôl Cynorthwyydd Preswyl yn un o'r penderfyniadau gorau a wnes i yn y brifysgol. Mae wedi rhoi cyfle gwych i mi gydbwyso gwaith ac astudio a hefyd meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb a rheoli amser. Mae bod yn Gynorthwyydd Preswyl wedi magu hyder newydd ynof wrth ryngweithio ag eraill trwy ddatblygu fy sgiliau rhyngbersonol wrth gynnig arweiniad a chynnal digwyddiadau i fyfyrwyr eu mwynhau. Byddwn yn argymell y rôl hon yn fawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio ochr yn ochr â'u hastudiaethau."

- CP 2022-23

"Mae cael y cyfle i weithio fel Cynorthwyydd Preswyl wedi rhoi cymaint o atgofion cadarnhaol i mi edrych yn ôl arnynt. Mae gweithio o fewn y tîm wedi fy ngalluogi i wella fy sgiliau trefnu, rheoli amser a chyfathrebu, ac rwyf wedi gallu addasu'r sgiliau hyn wrth weithio gyda'n preswylfeydd. Bydd y profiadau rwyf wedi'u meithrin o’r rôl hon yn fy helpu ymhellach yn fy llwybr gyrfa i’r dyfodol gan fod y rôl fel Cynorthwyydd Preswyl wedi fy ngwthio i weithio i orau fy ngallu."

- CP 2022-23

"Roedd y rôl hon yn sicr yn fy nghymell i gamu y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfforddus, ond roedd mor werth chweil gan fy mod wedi cael cyfle i dyfu a datblygu sgiliau newydd!"

- CP 2022-23 

 

“Mae bod yn CP wedi rhoi'r cyfle i mi weithio tra byddaf yn astudio fel myfyriwr. Mae wedi rhoi cyfle i mi ryngweithio gyda myfyrwyr o wahanol flynyddoedd ac adrannau gyda chydweithwyr a gyda myfyrwyr sydd wedi mynychu digwyddiadau. Mae wedi rhoi'r hyder i mi ryngweithio ag eraill ac wedi dysgu mwy i mi am sgiliau hanfodol fel rheoli amser a chynllunio.”

– Hannah Francis CP 2021-23.

"Mae bod yn Gynorthwyydd Preswyl wedi bod yn brofiad anhygoel. Mae wedi fy helpu i wella pob agwedd ar fy mywyd megis fy hyder a'm gwybodaeth am eraill. Mae wedi bod yn werth chweil gwybod fy mod wedi cael effaith gadarnhaol ar y myfyrwyr ar y campws ac wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl."

- CP 2022-23

‘Roedd dewis ymgeisio ar gyfer y rôl CP yn un o'r penderfyniadau gorau a wnes i yn y brifysgol. Mae wedi rhoi cyfle gwych i mi gydbwyso gwaith ac astudio a hefyd meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb a rheoli amser. Mae bod yn Gynorthwyydd Preswyl wedi magu hyder newydd ynof wrth ryngweithio ag eraill trwy ddatblygu fy sgiliau rhyngbersonol wrth gynnig arweiniad a chynnal digwyddiadau i fyfyrwyr eu mwynhau. Byddwn yn argymell y rôl hon yn fawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio ochr yn ochr â'u hastudiaethau."

- CP 2022-23

"Mae cael y cyfle i weithio fel CP wedi rhoi cymaint o atgofion cadarnhaol i mi edrych yn ôl arnynt. Mae gweithio o fewn y tîm wedi fy ngalluogi i wella fy sgiliau trefnu, rheoli amser a chyfathrebu, ac rwyf wedi gallu addasu'r sgiliau hyn wrth weithio gyda'n preswylfeydd. Bydd y profiadau rwyf wedi'u meithrin o’r rôl hon yn fy helpu ymhellach yn fy llwybr gyrfa i’r dyfodol gan fod y rôl fel Cynorthwyydd Preswyl wedi fy ngwthio i weithio i orau fy ngallu."

- CP 2022-23

"Roedd y rôl hon yn sicr yn fy nghymell i gamu y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfforddus, ond roedd mor werth chweil gan fy mod wedi cael cyfle i dyfu a datblygu sgiliau newydd!"

- CP 2022-23 

 

Eisiau ymuno â'n tîm CP ar gyfer y flwyddyn nesaf?

Cadwch lygad am ein diweddariadau recriwtio o fis Ionawr!