Ysgoloriaeth CPD Tref Aberystwyth
![Llun awyr o glwb pêl droed Aberystwyth](/cy/study-with-us/ug-studies/scholarships/aber-town-fc/scholarship.jpg)
£4,000 yn y flwyddyn gyntaf, mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth.
I gynnig Ysgoloriaeth i bêl-droedwyr dawnus (gwrywaidd neu benywaidd) a fydd yn chwarae i garfan tîm cyntaf y dref.
Ymhlith y manteision eraill mae aelodaeth Blatinwm o Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol, cyfleoedd datblygu hyfforddi pêl-droed, yswiriant meddygol, gwasanaeth ffisiotherapi, cit ar gyfer gemau ac ymarfer.