Arholiadau Mynediad a Gwobrau Teilyngdod - Mynediad yn 2022

Gwerth hyd at £2,000 y flwyddyn ynghyd â chynnig diamod
Mae ymgeiswyr ar gyfer ein Harholiadau Mynediad yn sefyll dau bapur arholiad sy'n para awr a hanner yr un. Yn dibynnu ar y marciau a gewch yn y ddau bapur, gallech dderbyn hyd at £2,000 y flwyddyn a lle gwarantedig i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Noder:
Bydd yr Arholiadau Mynediad yn arholiadau ar-lein. Gellir eu sefyll NAILL AI ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Sadwrn, 5 Mawrth 2022, NEU yn yr ysgol/coleg ar ddydd Mawrth, 8 Mawrth 2022. Oherwydd natur y prosesau dethol, sylwer nad yw ymgeiswyr Gwyddor Filfeddygol a Nyrsio yn gymwys i sefyll yr Arholiadau Mynediad.