Myfyrwyr Rhyngwladol

Myfyrwyr yn eistedd ar y porfa yn mwynhau'r heulwen o flaen Cwrt Mawr.

P'un ai fel myfyriwr israddedig neu uwchraddedig, mae pob myfyriwr rhyngwladol yn gymwys* ar gyfer ein Grant Llety Myfyrwyr Rhyngwladol.

Mae'n bleser gennym ddarparu Grant Llety Myfyrwyr Rhyngwladol i’n myfyrwyr rhyngwladol newydd*, gan roi’r dewis o gynnwys cost eich llety ar y campws yn eich ffioedd dysgu neu i gael gostyngiad o £2000.   Mae'r ysgoloriaeth llety hon yn berthnasol drwy gydol yr elfen a addysgir o’ch astudiaethau p’un ai ydych chi’n astudio am radd Baglor, gradd Meistr neu gwrs Sylfaen.  Mewn rhai achosion gall myfyrwyr PhD hefyd fod yn gymwys. 

Mae gan y Brifysgol nifer o wahanol adeiladau preswyl. Mae'r ysgoloriaeth llety yn gwahaniaethu yn ôl yr adeilad rydych chi'n ei ddewis.  Mae’r lleoedd yng Nghwrt Mawr, yr adeilad llety cynhwysol, wedi'u cyfyngu ac yn cael eu rhannu ar sail y cyntaf i'r felin, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn talu eich blaendal cyn gynted â phosibl a gwneud cais am lety. Mae'r holl opsiynau eraill yn cynnwys y gostyngiad o £2,000.  

Mae pob ystafell ar y campws ar gyfer un person, sy'n golygu y bydd angen i chi ddod o hyd i lety preifat arall yn y dref os ydych yn bwriadu byw yn Aberystwyth gydag aelodau o'r teulu neu ddibynyddion. 

Mae pob ystafell ar y campws yn cynnwys biliau cyfleustodau a Wi-Fi, gyda thrigolion hefyd yn elwa o aelodaeth campfa Platinwm am ddim yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol.  

Dim ond os ydych yn dewis byw mewn llety a reolir gan y Brifysgol y mae’r Grant Llety Myfyrwyr Rhyngwladol yn berthnasol.

 

Costau llety

Mae'r tabl canlynol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/24:

Llety

Wythnosau

Cost Flynyddol Arferol

Cost Flynyddol Gostyngol

Cwrt Mawr

39

£4,302

Wedi'i gynnwys yn y ffioedd dysgu

Cwrt Mawr (PG)

50

£5,515

Wedi'i gynnwys yn y ffioedd dysgu

Trefloyne (Safonol)

39

£4,302

£2,302

Pentre Jane Morgan

39

£4,758

£2,758

Rosser (En-suite)

39

£5,400

£3,400

Rosser G (En-suite) Uwchraddedigion

50

£7,664

£5,664

Fferm Penglais (En-suite)

40

£6,717

£4,717

Fferm Penglais (Stiwdio)

40

£7,385

£5,385

Dim ond os ydych yn dewis byw mewn llety a reolir gan y Brifysgol y mae’r Grant Llety Myfyrwyr Rhyngwladol yn berthnasol.

Sut i wneud cais 

Ar gyfer myfyrwyr Baglor a Meistr: Unwaith y cewch gynnig lle amodol neu ddiamod i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, gofynnir i chi ddarparu unrhyw ddogfennau sy'n weddill ac i dalu blaendal (os yw'n berthnasol) i sicrhau eich lle.  

Unwaith y byddwch wedi derbyn eich cynnig (naill ai drwy UCAS neu drwy ddychwelyd eich ffurflen ymateb i gynnig) a Thalu eich blaendal, fe gewch hawl mynediad i'r Porth Llety, sy'n agor ym mis Ebrill ar gyfer ein rhaglenni sy’n dechrau ym mis Medi ac yn agor ym mis Tachwedd ar gyfer ein rhaglenni sy’n cychwyn ym mis Ionawr.  

Byddwch yn gallu gweld y mathau o ystafelloedd sydd ar gael i chi, yn ogystal â chost pob un, a gallwch ddewis yr adeilad a'r ystafell benodol yr hoffech fyw ynddi. Adolygwch ein dewisiadau llety ymlaen llaw fel bo gennych syniad clir o bob adeilad.  

Mae nifer cyfyngedig o ystafelloedd ar gael yng Nghwrt Mawr, sef yr adeilad sydd â llety yn gynwysedig yn y ffioedd, a bydd ystafelloedd yn cael eu rhannu ar sail y cyntaf i'r felin.  Dylech nodi, felly, bod yr opsiwn llety cynhwysol ar gael, ond heb ei warantu.

Efallai y bydd rhai myfyrwyr PhD yn gymwys ar gyfer y Grant Llety Myfyrwyr Rhyngwladol.  Gweler isod y Telerau ac Amodau.  Os ydych yn gymwys, dylech anfon e-bost at llety@aber.ac.uk gan nodi eich amgylchiadau ariannol a gofyn am fynediad i'r Porth Llety. 

Ar gyfer myfyrwyr Baglor a myfyrwyr PhD cymwys, bydd angen i chi ailymgeisio am lety bob blwyddyn i sicrhau eich ystafell.  Nodwch y dyddiadau cau i wneud cais (a fydd yn cael eu e-bostio atoch) a llenwch y cais cyn gynted â phosibl i sicrhau eich dewis cyntaf. 

Sylwer:

Os byddwch yn symud i mewn i Gwrt Mawr i ddechrau, ond yn ddiweddarach yn penderfynu symud i adeilad arall a reolir gan y brifysgol, yna bydd y gostyngiad o £2,000 yn cael ei roi ar gost y llety newydd ar sail pro-rata (ar gyfradd noson, namyn unrhyw gyfnod yn byw yng Nghwrt Mawr).  Mae symud llety yn amodol ar y llety sydd ar gael ac mae gofyn i chi gwblhau Cais Trosglwyddo.

Hyd

Mae’r nifer o wythnosau sydd yn eich Contract Meddiannaeth Llety yn bwysig, felly gwnewch yn siŵr bob amser eich bod yn gwirio ei fod yn parhau hyd ddiwedd eich cyfnod astudio. 

Myfyrwyr Gradd Baglor (Israddedig): Bydd eich llety ar gael i chi am 39 neu 40 wythnos.  Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi ddod o hyd i lety arall dros fisoedd yr haf cyn i'r tymor ddechrau eto ym mis Medi.  Gallai hyn fod mewn llety preifat yn y dref, neu ar y campws os oes lle ar gael - bydd y swyddfa llety yn gallu rhoi cyngor. 

Myfyrwyr Gradd Meistr (Uwchraddedig): fel rheol, bydd eich llety ar gael i chi am 50 wythnos.   Os ydych yn dymuno aros am fwy o amser yn Aberystwyth bydd angen i chi ddod o hyd i lety arall.  Gallai hyn fod mewn llety preifat yn y dref, neu ar y campws os oes lle ar gael. 

Myfyrwyr PhD (Uwchraddedig): Os ydych yn gymwys i gael yr ysgoloriaeth llety, bydd y pecyn trwydded am 50 wythnos.  Mae hyn yn golygu y bydd pythefnos ym mis Medi lle bydd angen i chi ddod o hyd i lety arall cyn i'r tymor nesaf ddechrau. 

Telerau ac Amodau

  1. Mae'r Grant Llety Myfyrwyr Rhyngwladol ar gael i fyfyrwyr sy'n talu ffioedd dysgu rhyngwladol yn unig. 
  2. Bydd myfyrwyr Gradd Baglor Israddedig yn gallu byw yn eu hystafell a roddwyd iddynt am 39 neu 40 wythnos y flwyddyn.  Os penderfynir aros yn Aberystwyth rhwng blynyddoedd academaidd, rhaid cael llety arall dros fisoedd yr haf rhwng mis Mehefin a mis Medi pan fydd y tymor nesaf yn dechrau, naill ai ar y campws neu yn breifat mewn man arall. 
  3. Bydd myfyrwyr Gradd Meistr Uwchraddedig yn gallu byw yn yr ystafell a neilltuwyd iddynt am 50 wythnos. Os ydynt yn dymuno aros yn Aberystwyth am fwy o amser, rhaid iddynt ddod o hyd i lety arall ar y campws neu mewn llety preifat mewn man arall.
  4. Nid yw myfyrwyr BSc Nyrsio yn gymwys i dderbyn y Grant Llety Myfyrwyr Rhyngwladol.
  5. Bydd myfyrwyr PhD Uwchraddedig yn gallu byw yn yr ystafell a neilltuwyd iddynt am 50 wythnos.  Bydd pythefnos ym mis Medi lle y bydd rhaid iddynt ddod o hyd i lety arall ar y campws neu mewn llety preifat mewn man arall. 
  6. Er mwyn dewis a sicrhau ystafell drwy'r Porth Llety, rhaid i fyfyrwyr fod wedi derbyn eu cynnig i astudio a rhaid iddynt dalu eu blaendal ffioedd dysgu er mwyn cadarnhau eu bod yn dymuno astudio yn y Brifysgol.  Rhaid i fyfyrwyr ymgyfarwyddo â pholisi blaendal y Brifysgol cyn gwneud taliad.  Mae'r blaendal hwn yn rhan o'r ffioedd dysgu. nyr
  7. Mewn achos annhebygol lle nad yw myfyriwr sydd â chynnig amodol i astudio yn y Brifysgol yn y pen draw yn bodloni’r amodau a nodir yn ei lythyr cynnig, neu’n methu bodloni’r amodau i gael CAS (Cadarnhad Derbyn i Astudio) ar gyfer ei fisa, yna bydd y blaendal yn cael ei ad-dalu’n llawn.  Fodd bynnag, ni ellir gwneud consesiwn ar gyfer amrywiadau yn y gyfradd gyfnewid.  Felly, cyn iddynt dalu eu blaendal, dylai myfyrwyr deimlo'n hyderus mai Aberystwyth yw’r dewis a ffafrir ganddynt ar gyfer astudio ac y byddant yn cyflawni'r graddau academaidd sydd eu hangen ac yn gallu darparu'r ddogfennaeth gywir a'r gallu i siarad Saesneg er mwyn sicrhau fisa. 
  8. Ni fydd blaendaliadau'n cael eu had-dalu os yw'r myfyriwr yn bodloni holl amodau'r Brifysgol, ond yn newid eu meddwl am astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. 
  9. Os nad yw'n ofynnol i fyfyrwyr dalu blaendal ffioedd dysgu i'r Brifysgol (oherwydd eu bod yn cael eu hariannu gan sefydliad allanol), byddant o hyd yn gallu cael mynediad i'r Porth Llety. 
  10. Nid oes llety ar y campws ar gyfer myfyrwyr â dibynyddion (aelodau o'r teulu).  Mae'r holl ystafelloedd ar y campws yn rhai sengl. Felly, bydd angen i fyfyrwyr sy'n bwriadu teithio gyda dibynyddion ddod o hyd i lety preifat yn nhref Aberystwyth ac ni fyddant yn gymwys am y Grant Llety Myfyrwyr Rhyngwladol.  Dysgwch fwy am y llety preifat sydd ar gael. 
  11. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y Grant Llety Myfyrwyr Rhyngwladol rhaid i fyfyrwyr PhD Uwchraddedig fodloni’r holl amodau isod: 
    1. Rhaid i’r myfyriwr hunan-ariannu o leiaf 50% o'u ffioedd dysgu  h.y. nid ydynt yn derbyn ysgoloriaeth arall sy'n cynnwys mwy na 50% o'u ffioedd dysgu. 
    2. Bydd y myfyriwr yn talu am ei gostau byw ei hun. h.y. nid ydynt yn derbyn unrhyw gymorth ariannol am eu costau byw. 
    3. Nid yw'r myfyriwr yn dod ag unrhyw deulu na dibynyddion gyda nhw.  
  12. Os yw myfyriwr PhD uwchraddedig yn bodloni'r holl amodau uchod, rhaid iddynt e-bostio llety@aber.ac.uk gyda'u henw, rhif adnabod yr ymgeisydd, a chadarnhad eu bod yn bodloni'r amodau uchod.  Bydd y tîm llety yn gwirio bod y myfyriwr yn gymwys ac, os felly, byddant yn rhoi mynediad iddynt i'r Grant Llety Myfyrwyr Rhyngwladol.  
  13. Rhaid i fyfyrwyr y mae eu rhaglenni gradd yn para mwy na blwyddyn ailymgeisio am lety yn flynyddol.  Unwaith eto, bydd y polisi cyntaf i'r felin yn berthnasol.  Bydd myfyrwyr rhyngwladol sy'n dychwelyd yn dal yn gymwys ar gyfer y Grant Llety myfyrwyr Rhyngwladol, ond nid oes sicrwydd y byddant yn aros yn yr un ystafell neu adeilad.  
  14. Ni ellir rhoi gostyngiadau ar gyfer llety nad yw'n cael ei reoli gan y Brifysgol. 
  15. Pan fydd myfyrwyr cymwys i gael y grant yn y lle cyntaf yn newid eu statws ac nid ydynt bellach yn talu ffioedd dysgu rhyngwladol, yna tynnir Grant Llety Myfyrwyr Rhyngwladol oddi arnynt a byddant yn atebol am y ffioedd llety llawn am y cyfnod dan gontract.
  16. Mae'r holl reoliadau arferol sy'n ymwneud â thrwyddedau llety a therfynau amser ymgeisio yn berthnasol. 
  17. Mae gan fyfyrwyr ar gyrsiau Cyn-sesiynol, Sylfaen Ryngwladol a Chyn-Feistr Y Ganolfan Saesneg Ryngwladol hawl i lety yng Nghwrt Mawr sy’n gynwysedig yn y ffioedd. 
  18. Nid yw’r myfyrwyr nad ydynt yn talu ffioedd dysgu ar raglenni cyfnewid yn gallu cael llety gostyngedig neu gynhwysol ar y Grant Llety Myfyrwyr Rhyngwladol, ond gallant gael llety ar y campws yn yr un modd â myfyrwyr cartref sy'n talu ffioedd dysgu. 
  19. Mae myfyrwyr ar raglenni astudio dramor sy’n talu ffioedd dysgu rhyngwladol yn gymwys am y Grant Llety Myfyrwyr Rhyngwladol.   Bydd y lleoedd yn cael eu rhoi ar sail y cyntaf i'r felin.  Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: bydeang@aber.ac.uk   
  20. Rhaid i fyfyrwyr hysbysu’r swyddfa llety a dychwelyd eu hallwedd os ydynt yn dewis cymryd y Grant Llety Myfyrwyr Rhyngwladol ond wedyn yn penderfynu symud i lety preifat mewn man arall.  Ar yr adeg honno ni fydd ganddynt hawl i'r Grant Llety Myfyrwyr Rhyngwladol mwyach. 
  21. Pan fydd myfyrwyr yn symud i un adeilad llety yn y lle cyntaf, ond yn ddiweddarach yn penderfynu symud i adeilad gwahanol a reolir gan y Brifysgol, yna telir am y llety gan eu ffi dysgu neu bydd y gostyngiad o £2,000 yn cael ei roi ar y llety newydd ar sail pro-rata (ar gyfradd noson).  
  22. Mae symud llety yn amodol ar y llety sydd ar gael ac mae gofyn i chi gwblhau Cais Trosglwyddo.  
  23. Nodwch fod llawer o fyfyrwyr rhyngwladol yn dewis byw yng Nghwrt Mawr.  Mae'n debygol y bydd myfyrwyr sy'n dewis yr adeilad llety hwn yn byw gyda myfyrwyr rhyngwladol eraill o gymysgedd o wledydd ledled y byd.  

*Rhaid i fyfyrwyr fodloni'r telerau ac amodau i fod yn gymwys am y cynnig.