Ymadawyr Gofal, Gofalwyr Ifanc, a Myfyrwyr sydd wedi'u Dieithrio

£1,500 y flwyddyn a phecyn cymorth cynhwysfawr
Bwrsariaeth yw hon i ymgeiswyr sydd wedi bod mewn gofal, sydd â chyfrifoldebau gofalu, neu sydd wedi’u dieithrio oddi wrth eu teuluoedd neu eu gwarcheidwaid yn ystod eu harddegau.
Mae dechrau yn y brifysgol yn amser cyffrous: amgylchedd newydd, pobl newydd a phrofiadau newydd. Serch hynny, mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn teimlo ychydig yn bryderus pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, waeth beth fo'u cefndir, lle aethant i'r ysgol neu pa mor hyderus y maent yn ymddangos. Rydym wedi creu pecyn o gefnogaeth bwrpasol wedi'i gynllunio'n benodol i'ch helpu i symud ymlaen i Brifysgol Aberystwyth a llwyddo yma.
Ydw i'n gymwys i gael cymorth?
Os ydych wedi ticio'r blwch ar eich ffurflen gais UCAS i nodi eich bod yn rhywun sy'n gadael gofal, byddwn yn cysylltu â chi ar ôl i’ch cais ddod i law. Gallwch hefyd hunangyfeirio drwy lenwi ein furflen gais ar gyfer Bwrsariaeth Ymadawyr Gofal, Gofalwyr Ifainc, a Myfyrwyr sydd wedi'u Dieithrio oddi wrth eu teuluoedd.
Mae ein pecyn cymorth ar gael i'r categorïau canlynol o fyfyrwyr amser llawn sy'n hanu o'r DU:
Categori |
Diffiniad |
Y dystiolaeth sydd ei hangen |
Ymadawyr Gofal |
Myfyrwyr sydd yn iau na 25 oed ac sydd wedi bod yng ngofal eu Hawdurdod Lleol am gyfnod o 13 wythnos o leiaf yn yr adeg rhwng 14 oed a dechrau eu cwrs. |
Cadarnhad o'ch sefyllfa mewn llythyr oddi wrth eich Awdurdod Lleol neu Awdurdod Gofal, yn cadarnhau ichi fod dan ofal yr Awdurdod Lleol am o leiaf 13 wythnos ar ôl troi 14 oed, eich bod nawr wedi gadael gofal yr Awdurdod, a'ch bod yn unigolyn wedi gadael gofal yn ôl y diffiniad Deddf Plant (Ymadael â Gofal) |
Gofalwyr Ifainc |
Myfyrwyr sydd yn iau na 25 oed ac sy'n gyfrifol am roi gofal sylweddol heb dâl i aelod o’r teulu na allant ymdopi heb eu cymorth. Gall hyn fod o ganlyniad i salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau. |
Cadarnhad o'ch statws fel Oedolyn Ifanc sy'n Ofalwr trwy'r corff Cyllid Myfyrwyr perthnasol, neu lythyr oddi wrth eich Awdurdod Lleol/Gwasanaethau Cymdeithasol neu Grŵp Cefnogi Gofalwyr. Nid oes hawl gan fyfyrwyr derbyn Lwfans Gofalwr ar yr un pryd â'r Fwrsariaeth hon. |
Myfyrwyr wedi'u Dieithrio oddi wrth eu teuluoedd |
Myfyrwyr sydd yn iau na 25 oed ac nad ydynt yn cael cefnogaeth gan eu teulu bellach oherwydd rhwyg yn eu perthynas sydd wedi rhoi terfyn ar unrhyw gyswllt rhyngddynt. |
Cadarnhad o'ch sefyllfa yn eich asesiad Cyllid Myfyrwyr, neu mewn llythyr oddi wrth weithiwr proffesiynol sy'n gyfarwydd â'ch amgylchiadau teuluol. Os ydych yn ansicr am y dystiolaeth sydd ei hangen, cofiwch gysylltu â ni. |
Myfyrwyr Annibynnol / Heb Gefnogaeth |
Os nad ydych yn syrthio i unrhyw un o'r categorïau uchod ond eich bod yn awyddus i drafod pa gymorth ychwanegol y gallwn ei gynnig, cysylltwch â ni i drafod eich gofynion. |
Cysylltwch â ni |
Pwyntiau cyswllt
Mae gennym dîm ymroddedig a all eich helpu i ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnoch os ydych yn cael unrhyw broblemau:
- Teleri Lewis, Rheolwr Ehangu Cyfranogiad, yw eich pwynt cyswllt cyn i chi gyrraedd Prifysgol Aberystwyth - o lenwi eich ffurflen UCAS, i ymweld â'r Brifysgol, i gyrraedd ar gyfer Wythnos y Croeso Mawr ar ddechrau'r tymor – ehangu-cyfranogiad@aber.ac.uk / 01970 628786
- George Jones, Uwch Gynghorydd Myfyrwyr - gall eich helpu os oes angen cymorth arnoch i gwblhau eich cais Cyllid Myfyrwyr – student-adviser@aber.ac.uk / 01970 621761
- Bydd Doug Kerr, Mentor Ffordd Hyn a Chydlynydd Myfyrwyr sy'n Gadael Gofal, a'i dîm yn falch o'ch cefnogi drwy gydol eich taith fel myfyriwr ar ôl i chi gofrestru fel myfyriwr gyda ni – accessibility@aber.ac.uk / 01970 621761
Unwaith y cadarnheir eich bod yn gymwys, gallwch fanteisio ar ddarpariaeth amrywiol i'ch cynorthwyo drwy gydol eich amser gyda ni, gan gynnwys:
Gwneud cais ac ymweld â ni
Materion Ariannol
Ar ôl i chi gyrraedd Aberystwyth
Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
Yma i Helpu
Cyngor Gyrfaoedd a Phrofiad Gwaith
Graddio
Dolenni cyswllt defnyddiol
Sut fyddaf i’n cael fy nhalu?
Cewch eich talu mewn rhandaliadau cyfartal yn syth i’ch cyfrif banc bob blwyddyn – y cyntaf ddechrau mis Rhagfyr a’r ail ddechrau mis Mawrth.