Trosolwg
Pantycelyn, neuadd breswyl enwocaf Cymru, yn cynnig llety en-suite ar gyfer hyd at 200 o fyfyrwyr, sy’n dymuno byw trwy gyfrwng y Gymraeg, gofod cymdeithasol cyffrous, cyfleusterau gemau ac ystafelloedd astudio gyda’r offer diweddaraf.
Bum munud ar droed o gampws Penglais ac o’r dref, Pantycelyn yw calon cymuned fywiog myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth.
Yn unol â thraddodiad Pantycelyn, bydd y breswylfa yn neuadd agored ac ar gael i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ac unrhyw fyfyrwyr sy'n edrych i ddysgu'r Gymraeg.
Mae hefyd yn gartref i UMCA – Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth – tîmau chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol Y Geltaidd, ac Aelwyd Pantycelyn.
Mae Pantycelyn yn unigryw gan ei bod neuadd arlwyo rhannol sy’n cynnig cyfle i breswylwyr gyd-fwyta a chymdeithasu amser bwyd yn y ffreutur ar y llawr gwaelod.
Hefyd ar y llawr gwaelod fe welwch nifer o ystafelloedd cymunedol amlbwrpas, sy'n cynnig ystod eang o gyfleusterau a gwasanaethau.
Pantycelyn, dy gartref oddi cartre, a llawer mwy.
Profiadau cyn-fyfyrwyr ym Mhantycelyn
Cyfleusterau a Gwasanaethau
Dyma rai o’r brif gyfleusterau Pantycelyn:
- Llety arlwyo rhannol gyda bwyty annatod ar y llawr gwaelod, ar gael dydd Llun - dydd Gwener ar gyfer:
- brecwast 8.00yb - 10.15yb
- swper 5.00yp - 6.30yp
- Yn ystod amseroedd eraill, gan gynnwys y penwythnosau, mae yna ystod eang o fwyd poeth ar gael yn Undeb y Myfyrwyr, Canolfan y Celfyddydau a Tamed Da. Ceir rhagor o fanylion ar dudalennau’r Gwasanaethau Croeso.
- Wi-Fi a chysylltiad gwifrau
- Ystafelloedd astudio tawel gyda chyfleusterau cyfrifiadurol
- Dwy ystafell gyfarfod fach
- Pedair ystafell gyffredin ar y llawr gwaelod:
Boed hynny ar gyfer gwaith grŵp, fel gofod perfformio, ymarferion cerdd, ar gyfer cyfarfodydd cymdeithas neu ddim ond lle arall i eistedd, astudio ac ymlacio - mae gennym ystafelloedd gyda cyfleusterau amlgyfrwng, piano, seddi meddal, byrddau, desg a chyfleusterau gemau - popeth y gallwch chi ei angen o dan yr un to!- Lolfa Fach
- Lolfa Fawr
- Ystafell Gyffredin Hŷn
- Ystafell Gyffredin Iau
- Mae rhai o‘r ystafelloedd uchod ar gael i’w harchebu gan fyfyrwyr a staff y Brifysgol nad ydynt yn breswylwyr ym Mhantycelyn. (Gweler Pantycelyn - Archebu Ystafell Gymunedol am fanylion)
- Swyddfa UMCA – Undeb Myfyrwyr Cymreig Aberystwyth
- Ystafell post gyda blychau post diogel
- Cyfleusterau golchi dillad
- Gwasanaeth glanhau a ddarperir ym mhob man cymunedol y tu allan i'ch ystafelloedd (ardal), gan gynnwys mynedfeydd, glaniadau, grisiau a choridorau a lleoedd cymdeithasol ar y llawr gwaelod.
- Cyfleusterau gwerthu
- Storfa ddiogel i gadw beiciau.
- Pwyntiau casglu Sbwriel ac Ailgylchu
- Parcio (cyfyngedig, angen trwydded)
- Cynorthwywyr Preswyl sy'n darparu cefnogaeth ac arweiniad i chi.
Beth sydd yn eich Ystafell?
- Gwely a matres
- Cabinet(au) storio
- Cwpwrdd dillad
- Desg a chadair cyfrifiadur
- Lamp desg
- Silffoedd llyfrau
- Hysbysfwrdd
- Bin gwastraff
Ystafell ymolchi en-suite
- Cawod
- Toiled
- Basn golchi gyda drych
- Bin
- Brwsh toiled
Beth sydd yn eich cegin?
Er bod Pantycelyn yn breswylfa arlwyo, mae nifer o geginau yn y neuadd - sy'n darparu 1 cegin ar gyfartaledd i bob 8 myfyriwr.
Cegin
- Oergell
- Popty ping
- Boeler dŵr poeth wedi'i osod ar wal
- Tostiwr
- Hwfer
- Haearn
- Bwrdd smwddio
- Bwced a mop
- Padell lwch a brwsh
- Brwsh llawr
- Biniau – Ailgylchu sych cymysg, gwydr, bwyd a gwastraff cyffredinol
* Sylwch fod rhewgelloedd at ddefnydd myfyrwyr ar gael ar y Llawr Gwaelod, yn y storfa wrth ymyl Lolfa Fawr.
Lleoliad
Cliciwch ar y map i weld lleoliad Pantycelyn.
Mae Pantycelyn o fewn taith gerdded dwy funud i:
- Arhosfan bws
- Y rhan fwyaf o’r Adrannau Academaidd
- Llyfrgelloedd y Brifysgol
- Undeb y Myfyrwyr
- Canolfan y Celfyddydau
- Canolfan Chwaraeon
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Galeri
360 - Pantycelyn: Y Brif Lolfa
360 - Pantycelyn: Y Ffreutur
360 - Pantycelyn: Ystafell Gyffredin Hŷn
Ffioedd
Math o Ystafell |
Cost Wythnosol 2021 / 2022 |
Hyd y Drwydded 2021/2022 |
Cost Wythnosol 2022/2023 |
Hyd y Drwydded 2022/2023 |
---|---|---|---|---|
Sengl | £170.78 (yn cynnwys lwfans bwyd o £50 yr wythnos) | 33 wythnos* | £176.25 (yn cynnwys lwfans bwyd o £51.60 yr wythnos) | 33 wythnos** |
*33 wythnos =
24/09/2021 - 18/12/2021
08/01/2022 - 02/04/2022
23/04/2022 - 24/06/2022
** 33 wythnos =
23/09/2022 – 17/12/2022 (12 wythnos)
07/01/2023 – 25/03/2023 (11 wythnos)
15/04/2023 – 23/06/2023 (10 wythnos)
Mae'r lwfans bwyd yn hyblyg - os na ddefnyddiwch y lwfans dyddiol / wythnosol, bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo a gellir ei ddefnyddio ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd eich Trwydded.
Darganfyddwch beth sydd wedi'i gynnwys yn y Ffioedd Llety