Adborth RhWN - Llety
Cliciwch ar y teitlau i weld yr adborth a'r ymateb
Noder: mae'n bosibl bod y sylwadau a'r ymatebion wedi'u golygu. Roedd y wybodaeth yn gywir ar y pryd ond gallai fod wedi'i disodli. Cyhoeddir y sylwadau yn yr iaith y derbyniwyd y sylw ac ymateb y Brifysgol yn ddwyieithog.
23/24 Semester 2
-
CYF: 66-2404-6686017 - Ffrydiau Gwastraff Newydd
Dy sylw: The new bin setup in hall flat kitchens is unworkable. The new bins are all too small and will need to be emptied every few days instead of weekly. They're also too large for small bin bags but too small for the bin bags we were using before. The general waste bin is far too small for the amount of rubbish needing to be put in it and to be shared between usually a minimum of 3 flatmates. I understand the emphasis on recycling, and do so wherever possible, however, there is currently still more much non-recyclable packaging than recyclable being sold and the new bin is unrealistically small, almost as if to blame students and not companies for the lack of recyclable goods in the world.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylw Rho Wybod Nawr o ran y ffrydiau gwastraff newydd o fewn ceginau preswyl.Mae'r Brifysgol wedi gweithio i weithredu newidiadau yn unol â newidiadau Deddfwriaeth Llywodraeth Cymru a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2024 (gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn https://www.aber.ac.uk/en/efr/facilities/waste/).Mae'r gofod sydd ar gael ym mhob neuadd yn amrywio, yn ogystal â nifer y preswylwyr, ac felly rydym wedi gweithio i geisio dod o hyd i'r bin mwyaf addas, gan werthfawrogi hefyd bod cydbwysedd rhwng capasiti'r bin a'r gofod sydd ar gael, a allai arwain at fod angen gwagio biniau yn amlach.Gwerthfawrogir eich cefnogaeth barhaus i ailgylchu cymaint â phosibl ac er bod pob un o'r biniau sy'n cael eu defnyddio wedi'u treialu mewn gwahanol ardaloedd cyn eu gweithredu, rydym wedi bwydo'ch adborth ynghylch bagiau bin yn ôl i'n timau Preswylfeydd i ystyried y dull gweithredu yn y tymor hwy.Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â mi ar cyfleusterau@aber.ac.uk.
23/24 Semester 1
-
CYF: 66-2312-4489831 - Raciau sychu dillad yn y Llety
Dy sylw: Hi, I live in PJM and I noticed that it is quite a problem to dry clothes that shall not be tumble-dried. We are not supposed to air-dry in our rooms, but unfortunately there is no alternative. I believe it would be worth to think about putting up some roofed laundry racks or clotheslines around accommodation! :)
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am godi hyn gyda ni. Gallwch sychu eich dillad o fewn y llety; fodd bynnag, pan fyddwch yn gwneud hyn, rydym yn eich cynghori i gadw ffenestr yr ystafell wely ar agor i sicrhau bod digon o awyr iach. Heb yr awyru gallai hyn achosi problemau gydag anwedd a llwydni yn yr ystafell wely. Diolch am eich awgrym o ardaloedd sychu dillad â tho, mae hwn yn awgrym gwych ac yn rhywbeth y byddwn yn ei gadw mewn cof ar gyfer unrhyw brosiectau adnewyddu yn y dyfodol yn ein holl safleoedd llety.
-
CYF: 66-2310-6924828 - Mwy o seddi o amgylch PJM
Dy sylw: More benches around PJM, particularly for people who struggle walking
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich cais Rho Wybod Nawr o ran y lleoedd i eistedd o amgylch Pentre Jane Morgan.
Yn anffodus, mae seddi ar safle PJM wedi'u cyfyngu i'r bloc cymunedol canolog ar hyn o bryd, fodd bynnag, byddwn yn ceisio ystyried opsiynau ar gyfer gwella'r safle yn y dyfodol pe bai hyn yn ymarferol.
Os oes gennych rai awgrymiadau penodol ar leoliadau addas ar y safle, cysylltwch â ni ar llety@aber.ac.uk a gallwn gynnwys mewn trafodaethau yn y dyfodol.
22/23 Semester 2
-
CYF: 66-2305-5866013 - Melin Draed y Sgubor
Dy sylw: It would be nice to have a proper treadmill in the Y Sgubour gym. Though I understand if it wasn’t feasible.
Ein hymateb:
Diolch am yr ymholiad ynghylch darparu melin draed ar gyfer campfa'r Sgubor.
Yn anffodus gan fod y lle'n gyfyngedig, roeddem yn teimlo ei bod yn fwy ymarferol darparu rhywfaint o offer cryfder sy'n addas i bob un o'r prif grwpiau o gyhyrau a pheiriannau cardio sy'n helpu gyda hyfforddiant curiad y galon a chydsymud dwysedd isel. Gyda hynny mewn golwg, rydym wedi dewis peiriannau ymarfer corff cardiofasgwlaidd fel beiciau, peiriannau traws-hyfforddi a rhwyfo gan nad oes cwch na beic ar gael i bawb ond mae modd rhedeg neu gerdded yn yr awyr agored.
Mae gennym 12 o felinau troed yn y brif gampfa a thrac rhedeg ar gyfer cofnodi pellter ac amser.
Cysylltwch â ni os gallwn helpu mewn unrhyw ffordd arall
-
CYF: 66-2305-2057612 - System Archebu y Ffald
Dy sylw: I think you should be able to reserve the room in Y Ffald with the TV because you can't make any plans in advance with your friends because you don't know if someone else will already be using the TV and then you have to leave.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylwadau. Ar hyn o bryd nid oes gennym ni system archebu nac amserlennu ar gyfer y teledu yn Y Ffald, fodd bynnag rydym yn bwriadu rhoi ffurflen archebu anffurfiol a fydd yn cael ei chadw wrth ochr y teledu er mwyn i bobl ei llenwi i wneud cais. Byddwn yn monitro i weld a fydd yn gweithio.
Diolch yn fawr.
-
CYF: 66-2211-285228 - Peiriannau Rhwyfo yng Nghampfa'r Sgubor
Dy sylw: Please put a rowing machine into the sgubor gym.
Ein hymateb:
Diolch am yr e-bost, rydym ni nawr mewn sefyllfa i archebu peiriannau newydd felly mae dau beiriant rhwyfo newydd wedi eu gosod yng nghampfa’r Sgubor.
22/23 Semester 1
-
CYF: 66-2211-8326104 - Prisiau Peiriannau Golchi
Dy sylw: Laundry is so expensive.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylwadau ynglŷn â fforddiadwyedd y cyfleusterau golchi dillad ar y campws. Rydym wedi rhewi ein ffioedd golchi dillad dros y 4 blynedd ddiwethaf ac mae gennym bris cystadleuol iawn o’i gymharu â’r londretiau yn y sector preifat.
Mae’r Brifysgol yn chwilio ar hyn o bryd am ffyrdd o gefnogi ein myfyrwyr trwy’r argyfwng costau byw a byddaf yn rhoi sylw i’ch pryderon ynghylch pris presennol y cyfleusterau golchi dillad.
21/22 Semester 2
-
CYF:66-2205-3380625 - Biniau sbwriel yn PJM
Dy sylw: There’s very few bins in the PJM area, we would definitely benefit from a greater number. It would reduce litter and encourage people to recycle, helping to be more environmentally friendly.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich cais Rho Wybod Nawr o ran y biniau sbwriel ar Safle Pentre Jane Morgan.
Ar hyn o bryd, ar wahân i'r cyfansoddion gwastraff, gosodir biniau sbwriel yn y lleoliadau allanol canlynol:
- Bloc cymunedol
- Llwybr troed yn arwain i lawr i'r bont gyswllt
- Wrth droed y bont gyswllt
- Y ddau bwynt torri trwodd rhwng PJM a Fferm PenglaisAr ben hynny, gofynnir i dirlunwyr y safle, sy'n gyfrifol am gasglu sbwriel, roi adborth ar unrhyw ardaloedd sy'n peri pryder – er enghraifft rhannau o'r safle lle mae sbwriel yn aml yn bresennol a allai ddangos bwlch yn y ddarpariaeth biniau sbwriel. Byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw adborth ar ardaloedd o'r safle y teimlwch y byddent yn elwa o gael biniau ychwanegol oherwydd problemau sbwriel.
Noder ein bod hefyd yn ystyried y posibilrwydd o osod mannau eistedd allanol o amgylch PJM, ac os bydd y prosiect hwn yn mynd yn ei flaen, bydd angen ystyried darpariaeth biniau sbwriel.
Diolch eto am eich adborth
-
CYF:66-2204-3074428 - Goleuadau o gwmpas llety
Dy sylw: The path from PJM to Fferm (by block 21) is particularly poorly lit to the point where I couldn’t even see the path without using my phone torch. There doesn’t seem to be any lights at all on parts of this path. Additionally the street lights outside of Fferm Block 21 were also not functioning. As we are aiming to be a “well lit” and “safe” campus I feel it’s important to address areas where lighting, and therefore safety, is a concern.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am ddwyn yr uchod at ein sylw. Rydym wedi trefnu bod yn ein tîm diogelwch yn patrolio’r ardal y tu allan i oriau a byddant yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch goleuadau i’n pobl cynnal a chadw. Rydym wedi’u hysbysu am y golau stryd y tu allan i floc 21 a dylai gael ei newid yr wythnos nesaf.
Os ydych yn gweld unrhyw oleuadau sydd ddim yn gweithio neu os oes gennych unrhyw bryderon yn ymwneud â chynnal a chadw, rhowch wybod am hyn drwy ein desg gymorth yn ystod oriau swyddfa 09:00-17:00 ar 01970 622999, gallwch hefyd ddefnyddio Cofnodi Nam: Llety, Prifysgol Aberystwyth neu gallwch gysylltu â swyddogion diogelwch y tu allan i oriau i roi gwybod os oes angen gwaith cynnal a chadw brys.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach mae croeso cynnes i chi gysylltu â ni yn y swyddfa llety.
-
CYF:66-2203-1020724 - Socedi trydan yn Y Ffald
Dy sylw: Can we have more sockets in Y Ffald in Fferm please? It’s actually really hard to do stuff in there when there are so few sockets, all of which are in incredibly awkward locations and make charging tech/doing work when there are so few sockets. I think having charging towers around the room could be really useful for students
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth am yr angen i gael rhagor o socedi yn y Ffald. Rydym wrthi’n gweithio gyda’n darparwr cynnal a chadw i osod rhagor o socedi yn y Ffald.
-
CYF:66-2203-9765920 - Cysgodlen yn y gegin
Dy sylw: In recent times it has become very apparent that there is a need for some form of blind or curtain in the kitchen. Not only would this provide privacy to those who live in fferm, especially for those on ground floor. Other than this it is required to due to the sun shining in and making it rather unbearable to sit in there without shades which seems rather ridiculous as this is not ideal in your own flat.
Ein hymateb:
Diolch am gyflwyno ffurflen Rho Wybod Nawr, mae eich adborth yn werthfawr i’n helpu i wella profiad y myfyriwr. Wrth edrych i’r dyfodol byddwn yn codi eich awgrymiadau yn ein trafodaethau ynghylch gwelliannau i’r safle, i weld beth yw’r camau gorau i’w cymryd. Diolch eto am eich adborth, ac os oes gennych chi awgrymiadau eraill, rhowch wybod i ni
21/22 Semester 1
-
CYF:66-2111-9657514 - Rheol dim ysmygu
Dy sylw: The rule on people smoking having to do so at least 10m away from the block is not enforced at all, so I frequently find the disgusting stench coming in through my vent. Please may you ensure this is rectified and to help encourage this move benches to at least 10m away. It would also be nice if there could be designated outdoor study spaces where no smoking is allowed anywhere nearby, as this would allow people to feel able to go outside in nice weather to work without having to worry about putting their health at risk if people start smoking nearby.
Ein hymateb:
O ran ysmygu - ar hyn o bryd rydym yn anfon negeseuon at yr holl drigolion ynghylch y disgwyliad i gadw 10m oddi wrth yr adeilad wrth ysmygu. Nid yw'r meinciau yng nghefn blociau Fferm Penglais yn fannau ysmygu dynodedig. Mae'r biniau wedi'u lleoli yn yr yno i sicrhau bod gan bobl finiau i daflu eu stympiau sigarét yn hytrach na'u taflu ar y llawr. Gellir defnyddio'r ardal tu allan i bob neuadd breswyl i astudio. Os yw'r man eistedd lai na 10m oddi wrth adeilad, ni ddylai pobl fod yn ysmygu yno.
-
CYF:66-2111-1172710 - Ysmygu ger y llety
Dy sylw: Although people aren't meant to smoke within 10m of the accommodation blocks, this isn't reinforced so people are standing right outside the door, meaning that if my vent is open then the smoke frequently blows into my room, which isn't pleasant. Is it possible to either have people checking and reinforcing this rule, or building a dedicated smokers area which is at least 10m away from any buildings and encouraging people to go there to smoke so this problem doesn't happen?
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am godi'r mater hwn, mae'n ddrwg gennym ddarllen am y problemau cysylltiedig â phobl yn ysmygu'n uniongyrchol y tu allan i'ch ystafell. Os bydd hyn yn digwydd eto, cysylltwch â Llinell Gymorth 24/7 y Brifysgol ar 01970 622900 gan y bydd modd i'r tîm Diogelwch ymateb yn briodol ar y pryd a gallwn wedyn fynd ar drywydd yr unigolyn/unigolion dan sylw. Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth hefyd o ran enwau/rhifau ystafelloedd y rhai a allai fod yn ysmygu'n rhy agos at yr adeilad, rhowch wybod i ni drwy e-bostio llety@aber.ac.uk gan y gallwn geisio ymchwilio i'r mater. Os gallech chi hefyd gadarnhau pa floc rydych chi'n byw ynddo, gallwn ofyn i dîm Diogelwch y Campws wneud mwy o batrôl ar droed lle bo modd
-
CYF:66-2111-4535602 - Goleuadau stryd
Dy sylw: Streetlights along the path from Penglais campus to PJM and Fferm Penglais (after the bridge, through the wooded area) are very dim at night and the streetlights along the path from PJM to the road do not switch on at night. Would it be possible to make these streetlights brighter?
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw Rho Wybod Nawr ynglŷn â goleuadau stryd o amgylch pont PJM. Mae arolwg bellach wedi'i gwblhau gan Dîm Diogelwch y Campws ac mae desg gymorth y Brifysgol wedi cael gwybod am bob golau diffygiol. Os byddwch yn sylwi ar unrhyw faterion eraill sy'n peri pryder mewn perthynas â goleuadau / cynnal a chadw / diogelwch, cysylltwch â Thîm Diogelwch y Campws ar linell gymorth 24/7 y Brifysgol (01970 622900) pan fo'r mater yn un brys, ac ar gyfer materion nad ydynt yn rhai brys, defnyddiwch https://www.aber.ac.uk/cy/accommodation/current-students/living-residences/fault/ Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â ni ar llety@aber.ac.uk
-
CYF:66-2111-7620501 - Gwiriadau diogelwch tân
Dy sylw: We have just received a visit from a Resident Assistant in House 8 around 8:30 in which the RA proceeded to conduct a fire safety check in our rooms without prior warning. We were told we would only be receiving fire safety checks in our communal area. This was an extremely stressful experience for us as none of us were warned beforehand so we could clean our rooms and it felt like an invasion on our safe space. If they are going to come into our rooms then they must tell us beforehand as it creates extreme unnecessary stress.
Ein hymateb:
Diolch am fynegi eich pryderon ynghylch gwiriadau diogelwch tân a gynhaliwyd gan ein Tîm Bywyd Preswyl. Rhaid imi ymddiheuro gan mai dryswch cyfathrebu oedd yn gyfrifol. Yn wir, bydd y Tîm Bywyd Preswyl yn cynnal archwiliad diogelwch tân gweledol o'r synhwyrydd, y llwybr dianc rhag tân a'r ataliad ffenestr (fel y bo'n briodol). Mae ein gwybodaeth bellach wedi ei diweddaru i ddangos y gwasanaeth a ddarperir yn fwy cywir. Ymddiheurwn am unrhyw straen diangen y gallai hyn fod wedi'i achosi.
-
CYF:66-2110-2718819 - Cadw drysau ar agor
Dy sylw: The bedroom doors in Cwrt Mawr are unable to be left ajar due to fire regulations. This is pretty isolating in the absence of a communal area, and may well have a negative effect on residents mental health.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am godi'r mater hwn. Mae drws eich ystafell wely yn ddrws tân. Er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau tân ni ddylid cadw'r drws hwn ar agor ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, yng Nghwrt Mawr mae'r gegin gymunedol a'r lle bwyta ar gael i chi er mwyn i chi gael cymdeithasu â'ch cyd-letywyr. Rydym hefyd bellach wedi agor ein mannau astudio/cymdeithasol ar draws y neuaddau preswyl – a chewch fynediad i'r rhain gyda'ch Cerdyn Aber. Mae’r mannau astudio/cymdeithasol canlynol ar agor 24/7, mae lolfa Rosser wedi’i lleoli o dan floc D Rosser, mae bloc cyfleusterau PJM yng nghanol PJM, mae’r ffald o dan floc 2 yn Fferm Penglais ac mae caffi’r Sgubor ar agor tan 10pm bob nos. Er eich bod yn byw yng Nghwrt Mawr, cewch ddefnyddio pob un o'r lleoedd hyn. Os hoffech chi drafod y mater hwn ymhellach, e-bostiwch llety@aber.ac.uk Diolch yn fawr
-
CYF:66-2110-5967705 - Cost o chwarae pŵl
Dy sylw: The hub in Fferm Penglais have recently gone up from 50p to 80p per game. I find this increase unjustifiable. The pool tables are not well looked after as they are, with the tables broken on a regular basis, the balls are in a bad state as well as the cues. The tables don't actually fit in the room in the most functional way either since you cannot play pool when someone is playing on the football table. As well as other things obstructing game play as well. I would also like to enquire if and when the hub will be open 24 hours again, since last year this was suspended even though the sign on the front door clearly states that it is a 24hr accessible study space throughout this.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw am bris y byrddau pŵl yn lolfa Sgubor, Fferm Penglais. Mae'r byrddau pŵl yn cael eu rhedeg gan gwmni allanol ac mae eu prisiau wedi eu cadw ar yr un lefel, 50c, am y 5 mlynedd diwethaf. Yn anffodus, bu'n rhaid iddynt godi'r pris eleni er mwyn adlewyrchu'r costau uwch a chostau bancio. Cynigiodd y cwmni £1 i ddechrau ond ar ôl trafodaethau cytunwyd i gyfyngu'r cynnydd i 80c.
Peidiwch ag anghofio ein bod hefyd yn cynnig nosweithiau pŵl am ddim i aelodau cymdeithas bŵl Undeb y Myfyrwyr. Os ydych chi'n mwynhau chwarae llawer o bŵl, dylech ystyried ymuno. Mae hefyd yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd i chwarae pŵl gyda nhw.
-
CYF:66-2110-706404 - Mynediad i gyfleusterau golchi dillad
Dy sylw: We need more washing and drying machines for rosser/treflyone as currently there is only 4 of each for 6 blocks and about 400 to 500 people. Last year, one or two machines were constantly not working and with that amount of people the machines that did work were almost always in use. It would be nice to get at least 6 of each machine total, but preferably maybe 8 of each. I feel like this would definitely benefit everyone living in rosser/trefloyne massively.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am fynegi eich pryderon ynglŷn â'r ddarpariaeth golchi dillad i fyfyrwyr sy'n byw yn Trefloyne a Rosser. Rwyf wedi siarad â'n cyswllt yn Circuit Laundry ac wedi cael gwybod nad yw'r ystafell olchi dillad yn Rosser/Trefloyne yn cael ei defnyddio ddigon ar sail y ffigurau defnydd. Gweler y ddolen isod i Circut View, lle gallwch weld pa bryd mae'r peiriant ar gael a gweld pa bryd y defnyddir y peiriannau amlaf er mwyn i chi gael cynllunio pa bryd i'w defnyddio. Dilynwch y ddolen hon i gael y wybodaeth: https://www.circuit.co.uk/circuit-view/laundry-site/?site=6529
Os byddwch yn cyrraedd i olchi eich dillad a dim peiriannau ar gael yn Rosser/Trefloyne – cewch hefyd ddefnyddio'r ystafell olchi dillad yng Nghwrt Mawr, a chewch hefyd weld oes peiriant ar gael yn y fan honno ar y ddolen uchod. O ran diffygion gyda'r peiriannau - rydym wedi cwblhau archwiliad ar y safle i weld pa beiriannau sydd wedi torri a mynd ar ôl hyn gyda'n cyswllt yn Circut Laundry. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw beiriannau nad ydyn nhw'n gweithio, defnyddiwch y ffôn yn yr ystafell olchi dillad i roi gwybod am y broblem - neu rhowch wybod i swyddfa'r llety dros e-bost a byddwn yn sicrhau bod Circut yn cael gwybod yn brydlon. Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio llety@aber.ac.uk
-
CYF:66-2109-1880407 - Symud allan o lety ôl-raddedigion
Dy sylw: Hi, I think it is quite ridiculous that we were required to leave post graduate specific university accommodation one month before our dissertations were due. The reason I had elected to stay in post graduate specific accommodation during my masters was so that I didn’t have to worry about moving in and out dates and landlords as I assumed, obviously mistakenly, that accommodation would cover the duration of the whole course. I understand that the license period dates were given prior to my accepting of the lease but that was prior to knowing the hand in date of my dissertation.
Ein hymateb:
Mae hyn wedi bod yn broblem i nifer fach iawn o fyfyrwyr Uwchraddedig ers tua blwyddyn bellach. Rydym wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda’r Ysgol Astudiaethau Uwchraddedig. Mae’r drwydded llety yn glir iawn o ran y cyfnod mae'n ei ganiatau, ac ni allwn gynnig llety am 52 wythnos am nifer o resymau. Rydym ni'n cynnig llety haf, sy'n cael ei hysbysebu o fis Ebrill ymlaen, i roi digon o rybudd ynglŷn ag archebu lle ac ati ac rydyn ni'n hyblyg iawn ynglŷn â gadael eiddo yn yr ystafell. Ar wahân i hynny mae arnaf ofn nad oes dim byd arall y gallwn ei wneud.
Rhaid i'r cyfnod o symud allan o'r llety gyd-fynd â'r flwyddyn academaidd. Diolch
20/21 Semester 2
-
CYF:66-2106-189903 - Lladd gwair o gwmpas y neuaddau preswyl
Dy sylw: Please stop mowing the lawns around Pentre Jane Morgan so much. Surely it is unnecessary to destroy all the flowers that support pollinators every few weeks. We are in a biodiversity crisis and should be doing everything we can to help wildlife not mowing away sources of nectar. Plus, lawns full of wildflowers look far nicer than short grass and less disruption from people on mowers driving underneath my window would be highly appreciated. I would suggest management that maintains a strip of shorter mown lawn at the edges of paths for neatness, with longer wildflowers and grass in the middle that can be mown at the end of summer once the wildflowers are finished. This would be far greater for biodiversity.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylwadau a'ch adborth ynglŷn â thorri'r gwair ym Mhentre Jane Morgan.
O ran y sŵn, rydym yn torri'r gwair yn llai aml yn ystod cyfnod yr arholiadau ac yn sicrhau nad oes unrhyw strimio ymylon yn digwydd yn ystod y cyfnod tawel.
Gwerthfawrogir eich sylwadau a'ch awgrymiadau ynghylch gwarchod y blodau gwyllt yn fawr. Gan eich bod yn byw yn PJM, efallai eich bod yn ymwybodol ein bod eisoes wedi cymryd camau i’r cyfeiriad hwn drwy osod 'Rhwystr Bywyd Gwyllt Glaswellt’ o amgylch perimedr y safle. (Gweler y map ynghlwm). Gweithredwyd hyn yn 2019 gyda mewnbwn gan y myfyrwyr ac mae wedi gweithio’n dda.
Mae'n werth ystyried mynd â hyn ymhellach trwy dorri un lled yn unig o amgylch ymylon y brif lawnt a chadw'r blodau gwyllt yn y canol - yn enwedig yn rhai o'r ardaloedd mwy. Caiff yr ardaloedd eraill yn aml eu defnyddio gan drigolion at ddibenion hamdden felly byddai cadw'r gwellt yn fyrrach yma yn dal yn briodol ac yn fwy ymarferol.
Diolch i chi unwaith eto am eich sylwadau a bwriadwn edrych eto ar y rhwystrau bywyd gwyllt sydd gennym ni eisoes er mwyn gweld allwn ymestyn y rhain ymhellach o amgylch y safle.
Os hoffech chi drafod y materion a godwyd gennych ymhellach, mae pob croeso i chi gysylltu â ni trwy e-bost yn llety@aber.ac.uk
-
CYF:66-2105-9819125 - Problemau gyda'r golchdy
Dy sylw: Hi, I'd like to mention that on the whole my experience with accommodation has been really good. However, the launderettes have consistently been awful. They are very often broken down, or simply don't work for unknown reasons. They are open 24/7, but their maintenance department isn't, which means if you encounter an issue doing laundry later in the day you're completely out of luck. I understand that the contracts Circuit has with universities are difficult, but the standard of service they provide is absolutely awful. Again, I'd like to stress that I am happy with the accommodation overall, but the Circuit launderette, and lack of reasonable alternatives has been far and away the most negative aspect of the accommodation for me.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylwadau a'ch adborth ynglŷn â Circuit Laundry. Mae'n ddrwg gennym glywed eich bod wedi cael profiad gwael o ddefnyddio'r gwasanaeth.
Os ydych chi'n cael problemau gyda'r golchdy nad yw Circuit yn ymateb iddynt yn eich barn chi, anfonwch e-bost atom llety@aber.ac.uk a byddwn yn codi'r materion hyn yn uniongyrchol gyda Circut Laundry ac yn sicrhau eu bod yn datrys y materion mewn modd amserol.
Byddwn yn rhoi gwybod i Circut am eich pryderon ac yn gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn darparu'r gwasanaeth gorau i'n myfyrwyr.
Os hoffech chi drafod y materion a godwyd gennych ymhellach, cysylltwch â ni trwy e-bost yn llety@aber.ac.uk
-
CYF:66-2104-3581119 - Pantycelyn
Dy sylw: Dim ond cwpl o sylwadau o fyw ym mhantycelyn, Opsiwn fflat/ardal tawel pam yn ymgeisio am lety - dim pawb sydd eisiau parti, rhai fflatiau yn swnllyd tan oriau man y bore yn cadw myfyrwyr i fynu ac efallai yn amharu ar eu gwaith. Mae hyn yn bosib mewn prifysgolion eraill yn barod. Paneli sy'n asugno swn ar waliau'r ffreurur - modd ychwannegu lliw i wneud yn fwy cartrefol a hefyd ei wneud yn llai adleisiol (echo) fel bydd yn haws cael sgwrs amser bwyd pam mae'n brysyr. Efallai gwaith celf/photografiaeth ar wal y lolfa fawr hefyd i wneud o teimlo'n fwy cartrefol. Rhywun lleol efallai? Mwy o feinciau ar y blaen dim ond tua 3 sydd yno ar y fynud, bysa'n braf cael mwy ar gyfer yr haf
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am dy adborth ynglŷn â byw ym Mhantycelyn. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio tuag at gyflwyno system llety newydd a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddewis yr ardaloedd maen nhw am fyw ynddyn nhw – gan gynnwys neuaddau preswyl tawel. Diolch hefyd am dy adborth a dy awgrymiadau ynglŷn ag addurno’r ardaloedd cymunedol, byddwn yn cadw dy sylwadau mewn cof wrth wneud penderfyniadau ar sut y gallwn wneud Pantycelyn yn fwy cartrefol.
-
CYF:66-2104-4745216 - Adnewyddu cytundeb
Dy sylw: Need for automatic renewal for summer time. My current accommodation contract ends in June, but my course ends on September 30, 2020.
Ein hymateb:
Yn anffodus nid yw'n bosibl adnewyddu llety yn awtomatig y tu allan i'r tymor. Mae'r cytundeb trwydded ar gyfer y flwyddyn academaidd ac oherwydd ein hymrwymiad i sicrhau bod y llety yr ydym yn ei ddarparu i’r safon uchaf, mae yna wiriadau cydymffurfio deddfwriaethol a gwaith cynnal a chadw sydd angen ei wneud bob haf. Fodd bynnag, rydym yn agor ein cynnig llety haf ym mis Ebrill sy'n caniatáu i fyfyrwyr gynllunio eu llety haf ymlaen llaw. Rydym yn ystyried ffyrdd o wella ein cynnig yn barhaus a byddwn yn cofio'ch sylwadau os bydd y sefyllfa’n newid o gwbl.
-
CYF:66-2102-2125322 - Biniau sbwriel
Dy sylw: I think there should be more waste bins in Pentre Jane Morgan, especially due to the high amount of smokers and the fact that many smoke right outside their house. Perhaps there could be designated smoking areas to incentivise smokers to be 10m away from buildings and not cause littering.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich adborth. Byddwn yn ymchwilio i hyn ar gyfer adnewyddu'r safle yn y dyfodol
20/21 Semester 1
-
CYF:66-2011-3194216 - Cyfleusterau golchi dillad
Dy sylw: The dryers take more than 2 cycles to actually dry clothes. It is also incredibly expensive to wash and dry clothes, even when it works in one cycle - which it never has for me.
Ein hymateb:
Mae'r peiriannau sydd wedi'u gosod ar draws campws Aberystwyth wedi'u cynllunio i ailddosbarthu'r llwyth os yw'n anwastad. Pan fydd peiriant yn cael ei orlwytho neu ei dan-lwytho, mae'n anoddach gwneud hyn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y sticeri canllaw llwyth ar bob peiriant golchi. Hefyd, mae rhai cylchredau’n troelli'n gyflymach nag eraill. Felly mae dewis y cylchred cywir ar y peiriannau golchi a sychwyr dillad yn hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn sychu’n effeithiol. Efallai na fydd cylchredau sychu 60 munud yn ddigon o amser i sychu eitemau fel jîns a thyweli, ond oeddech chi’n gwybod y gallwch chi agor eich sychwr ar ganol cylchred i weld a yw'ch dillad yn sych? Os ydych chi am estyn eich cylchred sychu, daliwch eich cerdyn neu’r ap at god QR y peiriannau i ymestyn y cylchred mewn cynyddiadau o 10 munud yn lle talu am gylchred llawn arall.
Gellir dod o hyd i awgrymiadau ychwanegol ar ein gwefan golchi dilladOs ydych chi'n dal i gael problemau, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio llety@aber.ac.uk.
-
CYF:66-2011-6835305 - Bin ger golchdy PJM
Dy sylw: Please move the bin next to entrance to PJM launderette, it is very difficult to see when dark as nothing illuminates it - and it is in the middle of the path. I have walked into it multiple times and would guess others too.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylw Rho Wybod Nawr o ran y bin ger golchdy PJM. Bydd aelod o'r tîm yn adolygu ei leoliad yr wythnos hon ac yn asesu unrhyw oblygiadau Iechyd a Diogelwch.Gallwn drefnu wedyn i'r bin gael ei adleoli os bernir bod angen hynny, neu fel arall gallwn adolygu'r goleuadau yn yr ardal.
-
CYF:66-2010-1930721 - Golchi dillad a Covid
Dy sylw: With Covid becoming an ever increasing issue within Aberystwyth, the university should be pressed to deal with the issue even more. Scientists have provided evidence, which has then been shared via media outlets, that Covid is able to stay on surfaces and clothing for an extended period of time. Whilst anti-bacterial wipes are able to deal with the surfaces, what about clothes? with the prices of Circuit Laundry being roughly £3.80 for a full wash, it would make sense to reduce this price to a more economically viable price so that students who are incredibly worried or are isolating can wash their clothes more often, reducing the chances of Covid continuing to exist on their clothing. I ask for the Accommodation department to reduce prices or request a reduction in prices by Circuit, so that students are able to do their part, together, in reducing Covid clinging onto clothing.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylwadau am y peiriannau golchi a sychu. Fel y gwyddoch, y prisiau ar gyfer golchi a sychu yw £2.50 am bob golch a £1.30 ar gyfer y sychwr. Nid y brifysgol sy'n berchen ar y peiriannau golchi a sychu, ond cwmni preifat o'r enw Circuit. Rydym wedi trafod gyda Circuit dros y tair blynedd diwethaf ac wedi llwyddo i gadw'r prisiau yr un fath, ond mae pob Prifysgol arall wedi cynyddu'r prisiau. Rydym hefyd wedi llwyddo i gynyddu'r amser sychu o 50 munud i un awr, heb gynyddu'r pris. Byddwn yn parhau i weithio gyda Circuit i gadw ein prisiau mor isel â phosibl.
-
CYF:66-2010-9839406 - Peiriannau hylif diheintio dwylo
Dy sylw: When we were told we could come back to uni, we were told that there would be handsanitiser in the entrance and exit of every block. However, some of the dispensers are broken, like the one in block 17 in Fferm, others are empty and have not been filled in two weeks. I filled out a report a fault form about the dispenser in block 17 over a week ago but it has not been fixed. I understand that this is a difficult and large task to handle but is there anyway improvements could be made? Thank you
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylw Rho Wybod Nawr o ran y peiriant hylif diheintio dwylo ym Mloc 17 Fferm Penglais. Ymddiheuriadau am unrhyw oedi a allai fod wedi digwydd wrth gywiro’r nam hwn. Yn anffodus rydym wedi cael rhai problemau gydag un o'r peiriannau hylif diheintio a brynwyd ar gyfer Fferm Penglais, ac rydym yn gweithio i newid unrhyw rai sydd wedi torri. Rydym wedi gwirio'r bloc y prynhawn yma ac yn gallu gweld bod yr uned yn gweithio’n iawn. Os ydych chi’n cael mwy o broblemau rhowch wybod yma neu am bryderon brys, ffoniwch ein llinell gymorth 24/7 ar 01970 622900
-
CYF:66-2009-7816930 - Wrth fy modd efo fy ystafell!
Dy sylw: I have been at the university for a week and I’m absolutely loving my spacious and clean room. I really do like how all the facilities are well maintained and are up to date with modern furnishings. I LOVE my room!
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am anfon yr adborth hyfryd hwn, rwyf wedi’i rannu â’n timau Preswylfeydd a Chyfleusterau. Rwy'n falch iawn o ddarllen eich bod chi mor hoff o’ch ystafell. Cofiwch, os oes unrhyw beth yr ydych ei angen ar unrhyw adeg yn ystod eich amser yn byw gyda ni, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio llety@aber.ac.uk neu ffonio Llinell Gymorth 24/7 y Brifysgol ar 01970 622900.
19/20 Semester 2
-
CYF:66-2006-7945711 - Post yn Fferm Penglais
Dy sylw: i think fferm penglais should have doorbell or intercom system for the flats as parcels are just left downstairs where anyone could take them and you don't know when people are at the door waiting for you. would be a small thing but think it would would make a difference.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylw Rho Wybod Nawr o ran dosbarthu parseli yn Fferm Penglais. Ymddiheuriadau ei bod wedi cymryd amser hir i ymateb, ac yn yr amser hwnnw mae dosbarthu post wedi newid ychydig, sy’n golygu bod y Post Brenhinol a’r mwyafrif o ddosbarthwyr bellach yn danfon yn uniongyrchol i fynedfeydd y blociau. Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni
-
CYF:66-2002-3833304 - Paru pobl i gyd-fyw
Dy sylw: To make the living experience at Uni even better, why not match flatmates based on their living habits and interests? I was excited about living in a flat with people I can get to know but realised that we are such different personalities who do not necessarily combine well. In the future, you could try and make a questionnaire about living situation, habits and interests to try and match the students better and based on what they are like. The questions could be about sleeping times, tidiness, going out versus staying at home, etc. There could also be a section about hobbies and interests so that students can be paired with like-minded people.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich adborth drwy Rho Wybod Nawr. Mae'r Swyddfa Llety’n edrych i weld a allwn estyn nifer y dewisiadau y gallwn eu rhoi i fyfyrwyr sy'n ymgeisio am lety yn y blynyddoedd i ddod. I wneud hynny mae angen i ni wneud newidiadau i, neu ddisodli meddalwedd ein system clustnodi llety gyfredol. Byddwn yn sicr yn ystyried eich adborth fel rhan o'n llif gwaith cyfredol i wella'r dewisiadau sydd ar gael ar hyn o bryd.
19/20 Semester 1
-
CYF:66-1911-2648026 - Drysau yn Lolfa Astudio PJM
Dy sylw: The doors within the PJM study lounge are not soft closure. It is very annoying and distracting having doors slamming when people walk into and out of the two study rooms.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylwadau Rho Wybod Nawr ynghylch y drysau ym Mloc Cymunedol PJM ac am dynnu ein sylw at hyn. Mae ein tîm cynnal a chadw ar y safle wedi newid y drysau hyn. Gobeithiwn y bydd hyn yn datrys y problemau a'ch bod yn gallu mwynhau'r cyfleusterau.