CYF: 66-2501-5527828 - Llety i Fyfyrwyr sy'n Dychwelyd

Dy sylw: More rooms for returning students

Ein hymateb:

Diolch yn fawr am eich ebost.
Rydym yn ffodus yn Aberystwyth i gael mwy o lety sy'n eiddo i’r brifysgol neu a reolir ganddi na'r mwyafrif o brifysgolion eraill yn y DU.
Mae'r Brifysgol yn gwarantu llety i holl fyfyrwyr y Glas ond nid yw'n gwarantu llety i fyfyrwyr sy'n dychwelyd. Mae hyn yn arfer safonol yn y sector addysg uwch ac mae'n well gan y mwyafrif o fyfyrwyr yr ail a'r drydedd flwyddyn fyw yn y dref yn y sector preifat.
Bob blwyddyn rydym yn ystyried argaeledd y llety i fyfyrwyr sy'n dychwelyd yn seiliedig ar y rhagolygon o ran myfyrwyr y glas, ac ar gyfartaledd rydym yn agor tua thraean o'n llety i fyfyrwyr sy'n dychwelyd trwy gydol ein portffolio ac mae myfyrwyr yn mewngofnodi'n llwyddiannus ac yn sicrhau eu llety. Mae hwn yn gyfanswm hael iawn yn seiliedig ar ddata'r sector. Yn ogystal, rydym yn cynnig opsiwn i fyfyrwyr osod eu henwau ar restr aros pe bai llety ar gael. Yn 2024 fe wnaethom lwyddo i gynnig llety i'r holl fyfyrwyr a wnaeth gais amdano, er na allwn warantu y byddwch yn cael eich dewis cyntaf o lety.
Os hoffech ymuno â’n rhestr aros e-bostiwch llety@aber.ac.uk