Adborth myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth

Yr ydym yn gweddnewid y ffordd yr ydym yn casglu ac ymateb i adborth myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fel rhan o’r adolygiad hwn, mae’r gwasanaeth Rhowch Wybod Nawr wedi dod i ben. 

Gan weithio’n agos ag UndebAber a’n cymuned ehangach o bartneriaid myfyrwyr, rydyn ni’n datblygu dull newydd a gwell i sicrhau bod eich llais yn parhau i lunio profiad y myfyriwr yn y brifysgol. 

Tra bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo, gallwch barhau i rannu eich meddyliau ac adborth gan ddefnyddio’r opsiynau isod. 

I rannu eich Adborth 

Eich profiad myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth 

  • Cysylltwch â’ch cynrychiolydd myfyrwyr.  
  • Mae’r myfyrwyr Cynrychiolwyr Academaidd Myyrwyr a Swyddogion Cyfadran wedi’u penodi fel y bobl orau i siarad ar ran myfyrwyr eraill.  
  • Ewch i Darganfod Cynrychiolwyr i gysylltu â chynrychiolydd eich cwrs. 

Adborth ar y profiad addysgu a dysgu 

Am sylwadau ar fodiwlau, dysgu neu eich profiad addysgu, cysylltwch yn gyntaf â  

  • chydlynydd eich modiwl neu  
  • Bennaeth yr Adran.  

Gallwch hefyd gysylltu â  

Cymorth gyda’ch cynlluniau astudio, modiwlau ac asesiadau  

Cysylltwch â’r Weinyddiaeth Addysg Myfyrwyr y Gyfadran (FSEA) neu ewch i’w gweld yn: 

  • LF2 Adeilad Hugh Owen 
  • 1.15 Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol 
  • 1.12 Adeilad Edward Llwyd 

Adborth cyffredinol Undeb y Myfyrwyr (gan gynnwys Clybiau a Chymdeithasau) Ebostiwch union@aber.ac.uk 

Am gymorth  gyda Gwasanaethau ac Chyfleusterau 

Ar gyfer materion yn ymwneud ag adeiladau, gan gynnwys tymheredd, gwaith cynnal a chadw/atgyweirio, difrod, peryglon a materion rheoli plâu, cysylltwch â Desg Gymorth Bywyd y Campws. 

Cymorth gyda’ch llety 

Cymorth a Chyngor 

Gwybodaeth bellach ar gael am gymorth a chyngor. 

Cymorth y tu allan i oriau,  

  • Cysylltwch â Llinell Gymorth 24/7 y Brifysgol ar 01970 622900.