CYF:66-2205-3380625 - Biniau sbwriel yn PJM

Dy sylw: There’s very few bins in the PJM area, we would definitely benefit from a greater number. It would reduce litter and encourage people to recycle, helping to be more environmentally friendly.

Ein hymateb:

Diolch yn fawr am eich cais Rho Wybod Nawr o ran y biniau sbwriel ar Safle Pentre Jane Morgan.

Ar hyn o bryd, ar wahân i'r cyfansoddion gwastraff, gosodir biniau sbwriel yn y lleoliadau allanol canlynol:
- Bloc cymunedol
- Llwybr troed yn arwain i lawr i'r bont gyswllt
- Wrth droed y bont gyswllt
- Y ddau bwynt torri trwodd rhwng PJM a Fferm Penglais

Ar ben hynny, gofynnir i dirlunwyr y safle, sy'n gyfrifol am gasglu sbwriel, roi adborth ar unrhyw ardaloedd sy'n peri pryder – er enghraifft rhannau o'r safle lle mae sbwriel yn aml yn bresennol a allai ddangos bwlch yn y ddarpariaeth biniau sbwriel. Byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw adborth ar ardaloedd o'r safle y teimlwch y byddent yn elwa o gael biniau ychwanegol oherwydd problemau sbwriel.

Noder ein bod hefyd yn ystyried y posibilrwydd o osod mannau eistedd allanol o amgylch PJM, ac os bydd y prosiect hwn yn mynd yn ei flaen, bydd angen ystyried darpariaeth biniau sbwriel. 

Diolch eto am eich adborth