CYF:66-2104-3581119 - Pantycelyn

Dy sylw: Dim ond cwpl o sylwadau o fyw ym mhantycelyn, Opsiwn fflat/ardal tawel pam yn ymgeisio am lety - dim pawb sydd eisiau parti, rhai fflatiau yn swnllyd tan oriau man y bore yn cadw myfyrwyr i fynu ac efallai yn amharu ar eu gwaith. Mae hyn yn bosib mewn prifysgolion eraill yn barod. Paneli sy'n asugno swn ar waliau'r ffreurur - modd ychwannegu lliw i wneud yn fwy cartrefol a hefyd ei wneud yn llai adleisiol (echo) fel bydd yn haws cael sgwrs amser bwyd pam mae'n brysyr. Efallai gwaith celf/photografiaeth ar wal y lolfa fawr hefyd i wneud o teimlo'n fwy cartrefol. Rhywun lleol efallai? Mwy o feinciau ar y blaen dim ond tua 3 sydd yno ar y fynud, bysa'n braf cael mwy ar gyfer yr haf

Ein hymateb: 

Diolch yn fawr am dy adborth ynglŷn â byw ym Mhantycelyn. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio tuag at gyflwyno system llety newydd a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddewis yr ardaloedd maen nhw am fyw ynddyn nhw – gan gynnwys neuaddau preswyl tawel. Diolch hefyd am dy adborth a dy awgrymiadau ynglŷn ag addurno’r ardaloedd cymunedol, byddwn yn cadw dy sylwadau mewn cof wrth wneud penderfyniadau ar sut y gallwn wneud Pantycelyn yn fwy cartrefol.