CYF: 66-2305-5866013 - Melin Draed y Sgubor

Dy sylw: It would be nice to have a proper treadmill in the Y Sgubour gym. Though I understand if it wasn’t feasible.

Ein hymateb:

Diolch am yr ymholiad ynghylch darparu melin draed ar gyfer campfa'r Sgubor. 

Yn anffodus gan fod y lle'n gyfyngedig, roeddem yn teimlo ei bod yn fwy ymarferol darparu rhywfaint o offer cryfder sy'n addas i bob un o'r prif grwpiau o gyhyrau a pheiriannau cardio sy'n helpu gyda hyfforddiant curiad y galon a chydsymud dwysedd isel. Gyda hynny mewn golwg, rydym wedi dewis peiriannau ymarfer corff cardiofasgwlaidd fel beiciau, peiriannau traws-hyfforddi a rhwyfo gan nad oes cwch na beic ar gael i bawb ond mae modd rhedeg neu gerdded yn yr awyr agored. 

Mae gennym 12 o felinau troed yn y brif gampfa a thrac rhedeg ar gyfer cofnodi pellter ac amser. 

Cysylltwch â ni os gallwn helpu mewn unrhyw ffordd arall