CYF:66-2011-3194216 - Cyfleusterau golchi dillad

Dy sylw: The dryers take more than 2 cycles to actually dry clothes. It is also incredibly expensive to wash and dry clothes, even when it works in one cycle - which it never has for me.

Ein hymateb:


Mae'r peiriannau sydd wedi'u gosod ar draws campws Aberystwyth wedi'u cynllunio i ailddosbarthu'r llwyth os yw'n anwastad. Pan fydd peiriant yn cael ei orlwytho neu ei dan-lwytho, mae'n anoddach gwneud hyn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y sticeri canllaw llwyth ar bob peiriant golchi. Hefyd, mae rhai cylchredau’n troelli'n gyflymach nag eraill. Felly mae dewis y cylchred cywir ar y peiriannau golchi a sychwyr dillad yn hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn sychu’n effeithiol. Efallai na fydd cylchredau sychu 60 munud yn ddigon o amser i sychu eitemau fel jîns a thyweli, ond oeddech chi’n gwybod y gallwch chi agor eich sychwr ar ganol cylchred i weld a yw'ch dillad yn sych? Os ydych chi am estyn eich cylchred sychu, daliwch eich cerdyn neu’r ap at god QR y peiriannau i ymestyn y cylchred mewn cynyddiadau o 10 munud yn lle talu am gylchred llawn arall.


Gellir dod o hyd i awgrymiadau ychwanegol ar ein gwefan golchi dillad 

Os ydych chi'n dal i gael problemau, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio llety@aber.ac.uk.