CYF:66-2106-189903 - Lladd gwair o gwmpas y neuaddau preswyl
Dy sylw: Please stop mowing the lawns around Pentre Jane Morgan so much. Surely it is unnecessary to destroy all the flowers that support pollinators every few weeks. We are in a biodiversity crisis and should be doing everything we can to help wildlife not mowing away sources of nectar. Plus, lawns full of wildflowers look far nicer than short grass and less disruption from people on mowers driving underneath my window would be highly appreciated. I would suggest management that maintains a strip of shorter mown lawn at the edges of paths for neatness, with longer wildflowers and grass in the middle that can be mown at the end of summer once the wildflowers are finished. This would be far greater for biodiversity.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylwadau a'ch adborth ynglŷn â thorri'r gwair ym Mhentre Jane Morgan.
O ran y sŵn, rydym yn torri'r gwair yn llai aml yn ystod cyfnod yr arholiadau ac yn sicrhau nad oes unrhyw strimio ymylon yn digwydd yn ystod y cyfnod tawel.
Gwerthfawrogir eich sylwadau a'ch awgrymiadau ynghylch gwarchod y blodau gwyllt yn fawr. Gan eich bod yn byw yn PJM, efallai eich bod yn ymwybodol ein bod eisoes wedi cymryd camau i’r cyfeiriad hwn drwy osod 'Rhwystr Bywyd Gwyllt Glaswellt’ o amgylch perimedr y safle. (Gweler y map ynghlwm). Gweithredwyd hyn yn 2019 gyda mewnbwn gan y myfyrwyr ac mae wedi gweithio’n dda.
Mae'n werth ystyried mynd â hyn ymhellach trwy dorri un lled yn unig o amgylch ymylon y brif lawnt a chadw'r blodau gwyllt yn y canol - yn enwedig yn rhai o'r ardaloedd mwy. Caiff yr ardaloedd eraill yn aml eu defnyddio gan drigolion at ddibenion hamdden felly byddai cadw'r gwellt yn fyrrach yma yn dal yn briodol ac yn fwy ymarferol.
Diolch i chi unwaith eto am eich sylwadau a bwriadwn edrych eto ar y rhwystrau bywyd gwyllt sydd gennym ni eisoes er mwyn gweld allwn ymestyn y rhain ymhellach o amgylch y safle.
Os hoffech chi drafod y materion a godwyd gennych ymhellach, mae pob croeso i chi gysylltu â ni trwy e-bost yn llety@aber.ac.uk