CYF:66-2104-4745216 - Adnewyddu cytundeb

Dy sylw: Need for automatic renewal for summer time. My current accommodation contract ends in June, but my course ends on September 30, 2020.

Ein hymateb:

Yn anffodus nid yw'n bosibl adnewyddu llety yn awtomatig y tu allan i'r tymor.  Mae'r cytundeb trwydded ar gyfer y flwyddyn academaidd ac oherwydd ein hymrwymiad i sicrhau bod y llety yr ydym yn ei ddarparu i’r safon uchaf, mae yna wiriadau cydymffurfio deddfwriaethol a gwaith cynnal a chadw sydd angen ei wneud bob haf.  Fodd bynnag, rydym yn agor ein cynnig llety haf ym mis Ebrill sy'n caniatáu i fyfyrwyr gynllunio eu llety haf ymlaen llaw.  Rydym yn ystyried ffyrdd o wella ein cynnig yn barhaus a byddwn yn cofio'ch sylwadau os bydd y sefyllfa’n newid o gwbl.