Pantycelyn, neuadd breswyl enwocaf Cymru, yn cynnig llety en-suite ar gyfer hyd at 200 o fyfyrwyr, sy’n dymuno byw trwy gyfrwng y Gymraeg, gofod cymdeithasol cyffrous, cyfleusterau gemau ac ystafelloedd astudio gyda’r offer diweddaraf.
Bum munud ar droed o gampws Penglais ac o’r dref, Pantycelyn yw calon cymuned fywiog myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth.
Yn unol â thraddodiad Pantycelyn, bydd y breswylfa yn neuadd agored ac ar gael i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ac unrhyw fyfyrwyr sy'n edrych i ddysgu'r Gymraeg.
Neuadd Pantycelyn yw calon bywyd Cymraeg Prifysgol Aberystwyth a neuadd breswyl enwocaf Cymru. Mae Pantycelyn hefyd yn gartref i UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth). Mae UMCA yn cefnogi nifer o gymdeithasau Cymraeg poblogaidd megis Y Geltaidd, Plaid Cymru Ifanc, ac Aelwyd Pantycelyn i’r rheiny ohonoch sy’n mwynhau perfformio. Mae gweithgareddau’r Undeb yn amrywio o drefnu adloniant a digwyddiadau i ymgyrchu dros faterion addysgiadol, cymdeithasol ac ieithyddol yn y Brifysgol a’r tu hwnt. Yn bwysicaf oll mae UMCA yn awyddus i sicrhau eich bod chi’n gwneud yn fawr o’ch amser ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn academaidd, yn gymdeithasol ac ym mhob ffordd, ac os fydd unrhyw beth yn eich poeni chi, bydd dim rhaid ichi fynd yn bell i ofyn am gyngor.
Mae Pantycelyn yn unigryw gan ei bod neuadd arlwyo rhannol sy’n cynnig cyfle i breswylwyr gyd-fwyta a chymdeithasu amser bwyd yn y ffreutur ar y llawr gwaelod.
Hefyd ar y llawr gwaelod fe welwch nifer o ystafelloedd cymunedol amlbwrpas, sy'n cynnig ystod eang o gyfleusterau a gwasanaethau.
Pantycelyn, dy gartref oddi cartre, a llawer mwy.