Dewislenni Delwedd

Gellir defnyddio dewislenni delwedd i arddangos sawl dolen mewn ffordd graffigol. Gall y defnyddwyr glicio ar y delweddau neu'r testun er mwyn mynd i'r dudalen yn y ddolen.

Mae tri prif fath o ddewislenni delwedd yn cael eu defnyddio yn y CMS:

Beth sydd ei angen?

Cyn creu eich dewislen delwedd safonol bach, dylech wneud y paratoadau canlynol:

  • Dewiswch y delweddau ar gyfer eich dewislen delwedd;
  • Cadarnhewch y testun dolen sydd ei angen ar gyfer eich dewislen delwedd;
  • Cadarnhewch y dolenni sydd eu hangen ar gyfer eich dewislen delwedd;
  • Golygwch y delweddau fel bod pob delwedd yn 120px o led;
  • Uwchlwythwch y delweddau i Lyfrgell Gyfryngau’r CMS.

Sut i?

Gall defnyddwyr y CMS greu eu dewislen delwedd safonol bach trwy ddilyn y cyfarwyddiadau a ddarperir yn Nhaflen Wybodaeth 15.

Beth sydd ei angen?

Cyn creu eich dewislen delwedd safonol mawr, dylech wneud y paratoadau canlynol:

  • Dewiswch y delweddau ar gyfer eich dewislen delwedd;
  • Cadarnhewch y testun dolen sydd ei angen ar gyfer eich dewislen delwedd;
  • Cadarnhewch y dolenni sydd eu hangen ar gyfer eich dewislen delwedd;
  • Golygwch y delweddau fel bod pob delwedd yn 250px o led
  • Uwchlwythwch y delweddau i Lyfrgell Gyfryngau’r CMS.

Sut i?

Gall defnyddwyr y CMS greu eu dewislen delwedd safonol bach trwy ddilyn y cyfarwyddiadau a ddarperir yn Nhaflen Wybodaeth 15.

Dewislen Delwedd Arddull Newydd

Beth sydd ei angen?

Cyn creu eich dewislen delwedd arddull newydd, dylech wneud y paratoadau canlynol:

  • Dewiswch y delweddau ar gyfer eich dewislen delwedd;
  • Cadarnhewch y testun dolen sydd ei angen ar gyfer eich dewislen delwedd;
  • Cadarnhewch y dolenni sydd eu hangen ar gyfer eich dewislen delwedd;
  • Golygwch y delweddau fel bod pob delwedd yn 336px o led a 388px o uchder;
  • Sicrhewch fod gennych ganiatâd Cymedrolwr yn y CMS, gan mai Cymedrolwyr yn unig all greu'r arddull hon;
  • Sicrhewch fod y templedi cynnwys canlynol ar gael yn yr adran lle’r hoffech osod eich dewislen delwedd:
    • Arddangos Dewislen Delwedd;
    • Eitem Dewislen Delwedd (mewnol);
    • Eitem Dewislen Delwedd (allanol);
    • Dewislen Delwedd + Eitem Testun (mewnol).

Sut i?

Gall defnyddwyr y CMS greu eu dewislen delwedd arddull newydd trwy ddilyn y cyfarwyddiadau a ddarperir yn Nhaflen Wybodaeth 15.