Sefydlu Safle Newydd

Os oes gennych chi wefan sydd angen ei chynnwys yn y CMS neu os ydych chi’n dymuno creu safle newydd o fewn y CMS, cysylltwch â ni yn gynnar yn y broses er mwyn i ni allu eich cynorthwyo a’ch cynghori.

Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, gallem argymell un o’r canlynol:

  • set o is-dudalennau o fewn safle eich adran
  • adran lefel uchaf newydd o fewn gwefan Prifysgol Aberystwyth

Os ydych chi angen creu gwefan y tu allan i wefan Prifysgol Aberystwyth, e.e. ar gyfer prosiect ymchwil, fe fyddem yn argymell defnyddio WordPress.