Datblygu Cymwysiadau Gwe

Beth yw Cymwysiadau Gwe?

Cymwysiadau Gwe (a elwir weithiau’n webapps) fel arfer yw tudalennau rhyngweithiol sy’n ymdrin naill ai â chasglu data, dangos data neu weithiau’r ddau.

Gallant fod mor syml â chymhwysiad i gasglu a phrosesu’r data y mae defnyddiwr yn ei gyflwyno drwy ffurflen gwe, neu gallant fod yn dudalennau sy’n plygio i mewn i systemau cronfa ddata swyddfa ac yn cyflwyno data i’w arddangos ar y we.

Gallwn greu systemau gwe pwrpasol sy’n gwella profiad y defnyddiwr. Hefyd gallwn greu cyfuniadau o ddata lleol a gwybodaeth a thechnolegau trydydd parti.

Sut i gael Cymhwysiad Gwe

Siaradwch â ni yn gyntaf ac fe wnawn ein gorau i gynllunio system sy’n bodloni eich anghenion. Rhowch ddigon o rybudd i ni, gan fod cymwysiadau’n cymryd peth amser i’w dylunio, adeiladu a phrofi. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd angen i webapp integreiddio gyda systemau a chronfeydd data sy’n bodoli eisoes.

Os oes gennych chi gymhwysiad gwe eisoes, neu os ydych chi wedi comisiynu cwmni trydydd parti i ddatblygu un, gallwn ni helpu i integreiddio’r cymwysiadau hyn â’r CMS a sicrhau golwg a naws sy’n gyson â gweddill y safle. Os ydych chi’n meddwl am gomisiynu trydydd parti i ddatblygu cymhwysiad i chi, rhowch wybod iddyn nhw bod gennym ni systemau templedu fydd yn eu helpu i ddatblygu systemau sy’n cyd-fynd â’n golwg a’n naws.

Technoleg

Fel arfer rydym ni’n gwneud y rhan fwyaf o’n rhaglennu mewn PHP a JavaScript. Rydym ni’n defnyddio XML, XSLT, Sqlite, mySQL a shell scripting yn rheolaidd lle bo’n briodol. Os oes gennych chi dechnoleg benodol sydd angen i chi weithio gyda hi, siaradwch â ni, a chawn weld beth y gallwn ei wneud.