Gwobr Cwrs Nodedig PA
Bob blwyddyn mae’r Grŵp E-ddysgu’n goruchwylio Gwobr Cwrs Nodedig PA. Diben y wobr yw dathlu’r arferion gorau wrth gynllunio cwrs Blackboard ar gyfer modiwlau ac addysgu ar draws y Brifysgol ac mae’n seiliedig ar Raglen Cwrs Nodedig Blackboard ei hun. Gall unrhyw aelod o staff gyflwyno cais am Gwobr Cwrs Nodedig. Yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw llenwi ffurflen hunanasesu a’i chyflwyno i’r Grŵp E-ddysgu (drwy e-bost: eddysgu@aber.ac.uk) cyn 12yp ar 31 Ionawr 2025.
Gofynnir i ymgeiswyr nodi eu harferion nodedig ar y modiwl a chânt farciau am bedwar o brif feini prawf:
- Cynllun y Cwrs
- Rhyngweithio a Chydweithio
- Asesu
- Cymorth i Ddysgwyr
Er mwyn cynorthwyo’r broses, mae’r Grŵp E-ddysgu’n cynnig sesiwn hyfforddi Rhagoriaeth E-ddysgu: Cyflwyno Cais GCN. Gallwch archebu lle yma.
Mae’r Wobr Cwrs Nodedig bellach yn ei chweched flwyddyn ac, ers ei sefydlu, rydym wedi gweld chwech o fodiwlau’n ennill Gwobr Cwrs Nodedig, pedwar ar ddeg o fodiwlau’n ennill statws Canmoliaeth Uchel a saith o fodiwlau’n ennill safonau Canmoliaeth.
Yn ogystal â gwobrwyo’r arferion gorau, mae Gwobr Cwrs Nodedig PA yn cynorthwyo staff i ehangu eu modiwlau ar Blackboard a rhannu arferion da ledled y Brifysgol. Mae enillwyr y Wobr Cwrs Nodedig yn aml yn mynd ymlaen i roi cyflwyniad yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol.
Os ydych chi’n ystyried cyflwyno Cais am Wobr Cwrs Nodedig:
- Lawrlwythwch gopi o’r ffurflen gais a’r Gwobr Cwrs Nodedig
- Cofrestrwch ar gyfer sesiwn hyfforddi Rhagoriaeth E-ddysgu: Cyflwyno Cais GCN
- Trefnwch ymgynghoriad ag aelod o’r Grŵp E-ddysgu i wneud MOT modiwl
- Llenwch y ffurflen gais hunanasesu a’i chyflwyno i’r Grŵp E-ddysgu cyn 12yp ar 31 Ionawar 2025.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi enillwyr cystadleuaeth 2024-25:
- Enillwyr: Mari Dunning, Dysgu Gydol Oes - XM18210, Writing Women: Feminism in Poetry and Prose
- Ganmoliaeth Uchel: Henni Tremlett, Dysgu Gydol Oes - XM15710, Autobiographical Writing
- Ganmoliaeth Uchel: Kathy Hampson, Gyfraith a Throseddeg - LC37120, Critical and Radical Criminology
- Ganmoliaeth Uchel: Yasir Saleem, Cyfrifiadureg - CSM0120, Programming for Scientists