Pan fyddwch yn creu deunyddiau ar eich modiwlau Blackboard, mae gan Ally amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i wella hygyrchedd eich cynnwys.
Gallwch gael help ac arweiniad pellach drwy dudalen Help Blackboard Ally.
Fformatau Amgen
Mae fformatau amgen (alternative formats) yn nodwedd sy’n galluogi myfyrwyr i lawrlwytho cynnwys eich cwrs mewn modd sy’n ei gwneud yn haws iddynt ymgysylltu ag ef. Er enghraifft, gall Ally gynhyrchu fersiwn mewn Braille Electronig ar gyfer myfyrwyr sydd â nam ar eu golwg. Pan fyddwch yn lanlwytho eitemau i’ch cyrsiau Blackboard, bydd Ally yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i greu fformatau amgen ar gyfer y cynnwys hwnnw’n awtomatig. Nid oes angen i chi wneud dim, ond os bydd angen i chi ddiffodd rhai fformatau neu bob un ohonynt, gallwch glicio ar yr eicon hwn i weld pa opsiynau sydd ar gael i’ch myfyrwyr ar hyn o bryd.
I ddysgu mwy am y nodwedd Fformatau Amgen, ewch i’r dudalen Blackboard.
Dangosyddion Sgôr Hygyrchedd
Gall Ally ddarparu sgôr hygyrchedd (accessibility score) er mwyn i chi allu pwyso a mesur a oes unrhyw broblemau’n gysylltiedig â’ch cynnwys. Bydd pob ffeil yn cael un o’r sgorau canlynol:
- Isel – Nid yw’r ffeil yn hygyrch ac mae angen rhoi sylw iddi ar unwaith.
- Canolig – Mae’r ffeil yn hygyrch i ryw raddau ond mae angen ei gwella.
- Uchel – Mae’r ffeil yn hygyrch ond gellid ei gwella.
- Perffaith – Mae’r ffeil yn hygyrch. Does dim angen ei gwella.
Oni bai bod ffeil yn cael y sgôr ‘Perffaith’, bydd Ally yn cynhyrchu canllaw cam wrth gam ynghylch sut mae gwneud gwelliannau iddi.
Dylech nodi mai dim ond addysgwyr fydd yn gweld y sgôr hygyrchedd; ni fydd myfyrwyr yn gallu ei gweld.
I ddysgu mwy am y Dangosyddion Sgôr Hygyrchedd, ewch i’r dudalen Blackboard.
Adborth i Addysgwyr
P’un a yw hygyrchedd yn faes newydd i chi neu’ch bod am wella eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth ohono, bydd yr adborth i addysgwyr a ddarperir gan Ally yn cael ei deilwra i’ch anghenion chi. O glicio ar Sgôr Hygyrchedd eich cynnwys, byddwch yn cael arweiniad ynghylch sut mae gwella ei hygyrchedd.
O ddewis ‘All issues’, byddwch yn cael eich tywys i drosolwg o’ch dogfen gyda’r argymhellion a ddarparwyd gan Ally, fel y gallwch benderfynu pa broblem yr hoffech fynd i’r afael â hi’n gyntaf.
I gael rhagor o wybodaeth am Adborth i Addysgwyr, ewch i’r dudalen Blackboard ar gyfer Dangosyddion Sgôr Hygyrchedd.
Adroddiad ar Hygyrchedd Cwrs
Mae’r nodwedd Adroddiad ar Hygyrchedd Cwrs (Course Accessibility Report) yn darparu trosolwg o gynnwys eich modiwl Blackboard, a bydd yn dangos y canlynol i chi:
- Sgôr hygyrchedd ar gyfer y modiwl yn gyffredinol.
- Dadansoddiad o gynnwys eich modiwl, yn ôl math.
- Rhestr o unrhyw broblemau hygyrchedd sy’n gysylltiedig â chynnwys eich modiwl.
Bydd Ally hefyd yn darparu arweiniad ynghylch sut mae datrys unrhyw broblemau a nodwyd. Gellir trefnu’r problemau mewn modd sy’n addas i’ch anghenion chi, er enghraifft drwy eu gosod yn nhrefn eu difrifoldeb fel y gallwch roi sylw i’r rhai mwyaf difrifol.
I ddysgu mwy am yr Adroddiad ar Hygyrchedd Cwrs, ewch i’r dudalen Blackboard.