Gwobr Cwrs Nodedig PA

Bob blwyddyn mae’r Grŵp E-ddysgu’n goruchwylio Gwobr Cwrs Nodedig PA. Diben y wobr yw dathlu’r arferion gorau wrth gynllunio cwrs Blackboard ar gyfer modiwlau ac addysgu ar draws y Brifysgol ac mae’n seiliedig ar Raglen Cwrs Nodedig Blackboard ei hun. Gall unrhyw aelod o staff gyflwyno cais am Gwobr Cwrs Nodedig. Yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw llenwi ffurflen hunanasesu a’i chyflwyno i’r Grŵp E-ddysgu (drwy e-bost: eddysgu@aber.ac.uk) cyn 12yp ar 2 Chwefror 2024. 

Gofynnir i ymgeiswyr nodi eu harferion nodedig ar y modiwl a chânt farciau am bedwar o brif feini prawf:

  • Cynllun y Cwrs
  • Rhyngweithio a Chydweithio
  • Asesu
  • Cymorth i Ddysgwyr

Er mwyn cynorthwyo’r broses, mae’r Grŵp E-ddysgu’n cynnig sesiwn hyfforddi Rhagoriaeth E-ddysgu: Cyflwyno Cais GCN. Gallwch archebu lle yma.  

Mae’r Wobr Cwrs Nodedig bellach yn ei chweched flwyddyn ac, ers ei sefydlu, rydym wedi gweld chwech o fodiwlau’n ennill Gwobr Cwrs Nodedig, pedwar ar ddeg o fodiwlau’n ennill statws Canmoliaeth Uchel a saith o fodiwlau’n ennill safonau Canmoliaeth. 

Yn ogystal â gwobrwyo’r arferion gorau, mae Gwobr Cwrs Nodedig PA yn cynorthwyo staff i ehangu eu modiwlau ar Blackboard a rhannu arferion da ledled y Brifysgol. Mae enillwyr y Wobr Cwrs Nodedig yn aml yn mynd ymlaen i roi cyflwyniad yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. 

Os ydych chi’n ystyried cyflwyno Cais am Wobr Cwrs Nodedig:

  • Lawrlwythwch gopi o’r ffurflen gais a’r Gwobr Cwrs Nodedig
  • Cofrestrwch ar gyfer sesiwn hyfforddi Rhagoriaeth E-ddysgu: Cyflwyno Cais GCN
  • Trefnwch ymgynghoriad ag aelod o’r Grŵp E-ddysgu i wneud MOT modiwl
  • Llenwch y ffurflen gais hunanasesu a’i chyflwyno i’r Grŵp E-ddysgu cyn 12yp ar 2 Chwefror 2024. 

Enillwyr GCN PA 2022-23

Enillwyr GCN PA 2022-23

Mae’r ystod amrywiol o arddulliau dysgu ac addysgu a welwyd yn y ceisiadau eleni yn adlewyrchu’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud ledled y sefydliad.

  • Enillwyr: Anna Udalowska o Ddysgu Gydol Oes am fodiwl XN16710: The Science of Wellbeing.
  • Ganmoliaeth Uchel: Alexander Taylor o Adran Seicoleg am fodiwl PS32120: Behavioural Neuroscience
  • Ganmoliaeth Uchel: Kathy Hampson o Adran Cyfraith a Throseddeg am fodiwl LC26120: Youth Crime ad Justice
  • Ganmoliaeth Uchel: Lara Kipp o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu am fodiwl TP30020: Contemporary Drama
  • Ganmoliaeth Uchel: Panna Karlinger o Ysgol Addysg am fodiwl ED20820: Making Sense of the Curriculum

Enillwyr GCN PA 2021-22

Enillwyr GCN PA 2021-22

Mae’r ystod amrywiol o arddulliau dysgu ac addysgu a welwyd yn y ceisiadau eleni yn adlewyrchu’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud ledled y sefydliad.

  • Enillwyr: Laura Stephenson, TFM0120: Gender and Media Production, Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
  • Ganmoliaeth Uchel: Andrew Filmer, TP33420: Performance and Architecture, Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
  • Ganmoliaeth Uchel: Maire Gorman, PGM4310: Quantiative Data Collection and Analysis, Ysgol y Graddedigion a Ffiseg
  • Ganmoliaeth Uchel: Claire Ward, XA01605, Natural History Illustration: Seed Heads, Dysgu Gydol Oes

Enillwyr GCN PA 2020-21

Enillwyr GCN PA 2020-21

Mae’r ystod amrywiol o arddulliau dysgu ac addysgu a welwyd yn y ceisiadau eleni yn adlewyrchu’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud ledled y sefydliad.

  • Enillwyr: Hanna Binks, PS11320: Introduction to Research Methods in Psychology, Seicoleg
  • Ganmoliaeth Uchel: Martine Garland, AB27120: Marketing Management, Ysgol Fusnes Abersytwyth
  • Ganmoliaeth Uchel: Rhianedd Jewell, CY10920: Trafod y Byd Cyfoes Twy'r Gymraeg, Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
  • Ganmoliaeth Uchel: Prysor Mason Davies, ED30620: Children's Rights, Addysgu
  • Ganmoliaeth Uchel: Mary Jacob, PDM0530: Action Research and Reflective Practice in HE, Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

Enillwyr GCN PA 2018-19

Mae’r ystod amrywiol o arddulliau dysgu ac addysgu a welwyd yn y ceisiadau eleni yn adlewyrchu’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud ledled y sefydliad.

Enillwyr- Alison PierseXA15220: Figuratively Speaking: The History of Western Figurative Sculpture

Ganmoliaeth Uchel - IBERS Distance Learning TeamBDM0120: Research Methods

Ganmoliaeth Uchel - Stephen Chapman, BDM1320: The Future of Packaging

Ganmoliaeth Uchel - Alexandros KoutsoukisIP12620 Behind the Headlines

Ganmoliaeth Uchel - Jennifer Wood, SP10740 Spanish Language (Beginners)

Enillwyr GCN PA 2017-18

Ym marn y panel roedd hon yn gystadleuaeth arbennig o glos, a daeth y mwyafrif o ymgeiswyr i'r clwstwr 'Accomplished', sef yr ail lefel yn y cyfarwyddiadau yn union o dan 'Nodedig'. Er na farnwyd bod un o'r modiwlau'n 'nodedigymhob maesroedd rhai arferion nodedig i'w cael yn nifer o'r cyrsiau. Am y rheswm hwn, dim ond gwobrau 'Cymeradwyaeth Uchel' y mae'r panel wedi penderfynu eu cyflwyno. 

Mae'n bleser gennym gyhoeddi enillwyr cystadleuaeth GCN am 2017-18: 

  • Cymeradwyaeth Uchel - Adam Vellender, MA26620_AB0_2017-18 Applied Statistics (2017-18)  
  • Cymeradwyaeth Uchel - Catherine O'Hanlon, PS21310_AB0_2017-18 Quantitative Research Methods (2017-18)  
  • Cymeradwyaeth Uchel Daniel Low, BR14810_AB0_2017-18 Sport and Exercise Kinesiology (2017-18)  
  • Cymeradwyaeth Uchel - Stephen Chapman, BDM8620_AB0_2017-18 Waste Stream Valorisation (2017-18) 

Mae arferion enghreifftiol y modiwlau sy'n ennill yn gweld  hwn. 

Dyfyniadau gan y cyfranogwyr: 

“Rhoddodd canllawiau'r ECA rywbeth sylweddol imi feddwl amdano pan oeddwn i'n dylunio deunydd ategol ar-lein i'm modiwl. Yn ogystal â'r dulliau arloesol a chyffrous o ddefnyddio technoleg a wnaed gan fy nghydweithwyr yn yr adran fathemateg, gobeithio y bydd yr ymdrechion hyn yn sicrhau bod myfyrwyr mathemateg Aberystwyth yn dal i gael profiad ardderchog. Diolch yn fawr i'r myfyrwyr a gymerodd y modiwl, eleni a'r llynedd, am eu hadborth calonogol a defnyddiol.” - Adam Vellender, Cymeradwyaeth Uchel 

“A minnau'n gorfod cynllunio modiwl newydd eleni, manteisiais ar y cyfle i ddatblygu'r tudalennau Blackboard yn unol â chanllawiau'r Cwrs Eithriadol. Helpodd y broses i mi sylweddoli'r agweddau da rydw i'n eu darparu eisoes a bu'n help imi hefyd feddwl am sut y gallaf wella a datblygu fy mhresenoldeb ar Blackboard. Ces i'r broses gyfan yn amhrisiadwy.” - Daniel Low, Cymeradwyaeth Uchel 

Dyfyniadau gan y Panel 

Roedd pob un o'r cyrsiau a gyflwynwyd i'r gystadleuaeth eleni yn defnyddio dulliau gwahanol a blaengar o gyflwyno cyfran fawr o wybodaeth a chynnwys modiwl, mae'n dda gweld rhai dulliau gwirioneddol greadigol tuag at y broses.” - Aelod o'r Panel 

“Mae buddugwyr eleni yn dangos safon uchel y dysgu a'r addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae eu harferion nodedig yn ffordd o ysbrydoli eraill i fod yn ddyfeisgar ac ennyn diddordeb myfyrwyr mewn dysgu gweithredol.” - Aelod o'r Panel

Enillwyr GCN PA 2016-17

Enillwyr: Brieg Powel, IQ33420: Total War, Total Peace, Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Ganmoliaeth Uchel: Stephen Chapman, BDM7720, Biorefining Technologies, IBERS

Ganmoliaeth Uchel: Gareth Norris, PS21220: Forensic Psychology, Seicoleg

Enillwyr GCN PA 2015-16

Enillwyr GCN PA 2015-16

Ganmoliaeth Uchel: Dr Hannah Dee, Cyfrifiadureg- CS34110, Computer Vision

Ganmoliaeth Uchel: Chris Loftus, Cyfrifiadureg - SE31520, Building Internet-Based Applications

Ganmoliaeth Uchel: Dr David Wilcockson, IBERS - BR22410, Advances in Invertebrate Zoology

Ganmoliaeth: Dr Marco Arkesteijn, IBERS - SS21120, Biomechanical Analysis

Ganmoliaeth: Dr David Whitworth & Dr Neil McEwan, IBERS - BR12010, Metabolism

Ganmoliaeth: Alison Pierse & Dr Jacqueline Jeynes, Dysgu Gydol Oes - XA13510, Art in Wales: The Welsh Depicted, Portraiture 

  • Enillwyr: Rupert Marshall, IBERS: BR24310
  • Ganmoliaeth Uchel: Rosemary Cann, Addysg - ED20120
  • Ganmoliaeth Uchel: Adam Vellender, Mathemateg - MA34110
  • Ganmoliaeth: Neil Taylor, Cyfrifiadureg - CS31310
  • GanmoliaethJarrett Blaustein gyda Katherine Williams a Sarah Wydall, Gyfraith a Throseddeg - CR32920