Ysgoloriaethau a Gwobrau Teilyngdod Prifysgol Aberystwyth - Mynediad yn 2025

Arholiadau Mynediad a Gwobrau Teilyngdod; myfyriwr yn llyfrgell

Gallwch ennill £3,000 a chynnig diamod i astudio gyda ni!

I gael eich ystyried ar gyfer ein Hysgoloriaethau Prifysgol a Gwobrau Teilyngdod bydd angen i chi sefyll dau bapur arholiad mewn pynciau o'ch dewis* gyda'r arholiadau yn cael eu cynnal yn eich ysgol/coleg.

*Sicrhewch eich bod yn dewis papurau arholiad sy'n dderbyniol i'r Adran(nau) yr ydych wedi gwneud cais i astudio ynddynt. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod wedi dewis pynciau priodol. Gall methu â gwneud hynny Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin isod cyn gwneud cais.

Sylwch nad yw ymgeiswyr Gwyddor Filfeddygol, Nyrsio Milfeddygol a Nyrsio yn gymwys i sefyll yr arholiadau.

Cwestiynau Cyffredin

Pa wobrau sydd ar gael?

Ysgoloriaeth y Brifysgol – £1,000 y flwyddyn

Mae gennym 50 o Ysgoloriaethau’r Brifysgol i’w dyfarnu i’r ymgeiswyr sy’n cael y marciau cyfunol uchaf yn y ddau bapur arholiad. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn £1,000 ym mhob blwyddyn o’u cwrs. Gweler hefyd rhif 3 isod.

Gwobr Teilyngdod – £1,000 yn y flwyddyn gyntaf

Rydym yn cynnig tua 100 o Wobrau Teilyngdod bob blwyddyn i fyfyrwyr sy’n gwneud yn dda yn yr Arholiadau Mynediad ond yn methu o drwch blewyn â chael Ysgoloriaeth. Bydd deiliaid Gwobrau Teilyngdod yn derbyn £1,000 yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Gweler hefyd rhif 3 isod.

Cynig Diamod

Gall perfformiad cryf yn yr Arholiadau Mynediad arwain at y Brifysgol yn cadarnhau lleoedd ymgeiswyr heb fwy o amodau gan arwain at gynnig diamod trwy UCAS. Mae’n bosib bydd ymgeiswyr sy’n colli allan ar wobr o drwch blewyn yn derbyn cynnig diamod ar sail perfformiad cryf yn yr Arholiadau.

Pryd a Ble mae'r Arholiadau?

Yn eich Ysgol neu Goleg yn y DU. Cysylltwch ysgoloriaethau@aber.ac.uk os nad yw eich Ysgol neu Goleg yn gallu cynnal yr arholiadau. 

Bydd ceisiadau y tu allan i'r DU yn cael eu hystyried yn unigol. Os nad yw ymgeiswyr rhyngwladol yn mynychu ysgol gymwys (e.e. Ysgol Ryngwladol), efallai y bydd opsiwn i sefyll yr arholiadau yn un o swyddfeydd y Cyngor Prydeinig. Byddai unrhyw drefniadau o'r fath ar draul yr ymgeisydd, a byddai angen iddo wneud yr holl drefniadau angenrheidiol yn uniongyrchol gyda'r Cyngor Prydeinig cyn cyflwyno eu ffurflen gais.

Bydd yr arholiadau ar gyfer mynediad 2025 yn cael eu cynnal ar y 7fed o Chwefror 2025.

Beth yw'r arholiadau Ysgoloriaethau a Gwobrau Teilyngdod Prifysgol Aberystwyth?

  1. Mae'r Arholiadau yn ddewisol i fyfyrwyr sy'n gwneud cais am gynllun gradd israddedig yn Aberystwyth.
  2. Cynhelir yr arholiadau ar-lein a bydd angen defnydd o gyfrifiadur eich ysgol/coleg gyda Microsoft Word, cysylltiad â’r rhyngrwyd, a phorwr gwe Chrome (neu Firefox) er mwyn cael mynediad at y papurau arholiad a’u cyflwyno. Byddwch chi, a’ch ysgol/coleg, yn derbyn cyfarwyddiadau llawn cyn diwrnod yr arholiadau. Os oes gennych chi amgylchiadau arbennig sy'n eich atal rhag gwneud hynny, nodwch hyn ar eich ffurflen gais.
  3. Gofynnir i bob ymgeisydd ar gyfer yr arholiad Mathemateg a Mathemateg Bellach ateb ar bapur, ei sganio a'i e-bostio i ysgoloriaethau@aber.ac.uk gan eich Swyddog Arholiadau.
  4. Byddwch yn sefyll dau arholiad o'r dewis o bynciau a gynigiwn (Strwythur yr Arholiadau a Chyn Papurau).
  5. Mae pob arholiad yn para am awr a hanner, a bydd y ddau ar yr un diwrnod.
  6. Caiff yr arholiadau eu gosod a'u marcio gan ein hadrannau academaidd, felly nid ydynt yn dilyn unrhyw faes llafur penodol, ond dylent fod yn safon debyg i arholiadau Safon Uwch.

 

 

Pam sefyll yr Arholiadau?

1. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn un o 3 gwobr:

  • Ysgoloriaethau’r Brifysgol – £1,000 y flwyddyn a chynnig diamod
  • Gwobrau Teilyngdod – £1,000 yn y flwyddyn gyntaf a chynnig diamod
  • Cynigion Diamod

    *Sylwch bod y Cynnig Diamod hwn ar gyfer y cwrs(cyrsiau) yr ydych eisoes wedi gwneud cais amdanynt. Ni fyddwch yn gallu addasu eich cwrs yn dilyn canlyniadau'r Arholiadau Mynediad. 

2. Gall lle gwarantedig gan Brifysgol dynnu'r pwysau oddi ar ganlyniadau arholiadau eraill.

3. Mae cael Ysgoloriaeth yn ychwanegiad gwych i'ch CV.

Pa bapurau arholiad ddylwn i eu dewis?

Sicrhewch eich bod yn dewis pynciau sy’n berthnasol i’r cynllun gradd rydych am ei astudio. Os na fyddwch yn sefyll arholiadau mewn pynciau priodol, gallai hynny olygu na fyddwch yn gymwys i gael gwobr a/neu gynnig gostyngol.

Mae’n syniad da edrych ar rai o Hen Bapurau’r Arholiadau Mynediad er mwyn cael syniad o’r math o gwestiynau sy’n debygol o gael eu gofyn, ac ar ba lefel, ond cofiwch y gall ffurf y papurau cwestiynau newid o flwyddyn i flwyddyn. 

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer gwobr a/neu gynnig diamod mae’n bwysig dewis papurau arholiad sy’n dderbyniol i’r Adran(nau) yr ydych wedi gwneud cais i astudio ynddi/ynddynt. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod wedi dewis pynciau priodol.

Os ydych yn ymgeisio am gwrs sy’n cynnwys blwyddyn sylfaen ac yn ansicr am ba bynciau i’w dewis, cysylltwch â ni: ysgoloriaethau@aber.ac.uk 

Sylwer nad yw ymgeiswyr Gwyddor Filfeddygol a Nyrsio yn gymwys i sefyll yr arholiadau.

Sut i ymgeisio

Gallwch wneud cais yn hawdd drwy’r Ffurflen Gais ar ein gwefan. Dylech dderbyn ebost yn cadarnhau ar ol ymgeisio, cysylltwch os nad ydych yn derbyn yr ebost hwn.

Mae'n RHAID i chi gael caniatâd eich Swyddog Arholiadau cyn cyflwyno'ch ffurflen gais i sicrhau eu bod yn gallu gwneud y trefniadau angenrheidiol.  Bydd angen eu cyfeiriad e-bost arnom fel rhan o'r broses ymgeisio er mwyn cael cadarnhad, ac anfon cyfarwyddiadau arholiad maes o law. 

Sylwer: Er bod yn rhaid i chi fod wedi gwneud cais i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth erbyn y dyddiad cau, nid oes rhaid i chi gael cynnig gennym cyn i chi sefyll yr Arholiadau.

 

*Bydd manylion ar sut i wneud cais am Arholiadau Mynediad 2025 ar gael yma yn fuan.

Sut fydd yr arholiadau ar-lein yn gweithio?

Sicrhewch eich bod yn darllen y Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr - Arholiadau Mynediad 2024 ac yn gwylio'r fideo ar Sut i Gwblhau'r Arholiadau Mynediad fel eich bod yn ymwybodol o drefn yr arholiadau ymlaen llaw. 

Gwnewch yn siwr hefyd eich bod wedi ymgyfarwyddo â'r Polisi ar Ymddygiad Academaidd Da

Beth os oes gennyf ofynion arholi arbennig?

Ymgynghorwch â'ch Swyddog Arholiadau ynghylch unrhyw drefniadau sydd gennych ar gyfer arholiadau ysgol/coleg arferol.

Gweler ein Polisi ar wneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr sy’n sefyll yr Arholiadau Mynediad.

Beth sydd hawl gennyf i fynd mewn i'r arholiadau?

Ni chaniateir i ymgeiswyr fynd â ffonau symudol, oriawr digidol (smart watch) nag unrhyw ddyfeisiau digidol tebyg i fewn i'r Arholiadau Mynediad.  Oni noder yn wahanol isod, ni chaniateir defnyddio testunau, geiriaduron, atlas, nac ychwaith unrhyw ddogfennau neu gyfarpar ychwanegol yn yr arholiadau:

  • Busnes a Rheolaeth– gellir defnyddio cyfrifianellau nad oes modd eu rhaglennu.
  • Celf (Portffolio) – rhaid i ymgeiswyr drefnu i gyflwyno eu portffolio erbyn dyddiad yr arholiadau ysgrifenedig.
  • Cemeg– darperir tabl cyfnodol a gellir defnyddio cyfrifiannell.
  • Cyfrifeg a Chyllid – gellir defnyddio cyfrifianellau nad oes modd eu rhaglennu.
  • Economeg– gellir defnyddio cyfrifianellau nad oes modd eu rhaglennu.
  • Ffiseg– bydd yr holl wybodaeth berthnasol wedi’i chynnwys yn y papur, ond gall yr ymgeiswyr fynd ag unrhyw ‘Lyfrynnau Gwybodaeth’ a ganiateir gan eu Byrddau Arholi i’r ystafell arholiad i’w defnyddio yn yr arholiadau hynny os hoffent. Caiff yr ymgeiswyr ddefnyddio cyfrifianellau (os ydynt yn dawel, hunanbweredig, heb adnoddau cyfathrebu, ac yn methu dal testun neu ddeunydd arall y gellir ei ddefnyddio i ennill mantais annheg).
  • Ffotograffiaeth – rhaid i ymgeiswyr drefnu i gyflwyno eu portffolio erbyn dyddiad yr arholiadau ysgrifenedig.
  • Mathemateg– caniateir i ymgeiswyr ddefnyddio cyfrifianellau (os ydynt yn dawel, hunanbweredig, heb adnoddau cyfathrebu, ac yn methu dal testun neu ddeunydd arall y gellir ei ddefnyddio i ennill mantais annheg), dylai ymgeiswyr ddod â’u cyfrifianellau eu hunain. Gall ymgeiswyr ddod ag unrhyw ‘Lyfrynnau Gwybodaeth’ i’r arholiad os ydynt wedi’u cymeradwyo gan eu bwrdd arholi ar gyfer eu defnyddio mewn arholiadau (darperir Tablau Ystadegol ar gyfer y papur Mathemateg Bellach). 

Gwybodaeth i Ysgolion a Cholegau

Canllawiau ar gyfer Ysgolion/Colegau 2024

Mae gofyn i ymgeiswyr gwblhau'r ddau arholiad yn yr un diwrnod. Mae croeso i ysgolion/colegau benodi amser dechrau addas i'w amserlenni unigol. Mae'r arholiadau'n para awr a hanner.  

Anfonir deunyddiau’r arholiadau at y Swyddog Arholiadau enwebedig oddeutu wythnos cyn yr arholiadau.

Ni chodir tâl am sefyll yr Arholiadau Mynediad, ond ni all y Brifysgol gyfrannu at unrhyw gostau goruchwylio nac archebu ystafelloedd. Bydd trefniadau arholiadau arferol yn berthnasol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach mae croeso i chi gysylltu a ni drwy ebostio ysgoloriaethau@aber.ac.uk.

 

Gwybodaeth ar gyfer myfyrwyr hyn a gohirio mynediad

Ymgeiswyr Hŷn

Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn, ond sylwer na chaiff ymgeiswyr fod wedi bod yn fyfyrwyr gradd yn unrhyw brifysgol am fwy nag 
un semester unrhyw bryd yn y gorffennol.

Gohirio Mynediad

Os ydych yn bwriadu gohirio eich cais i’r Brifysgol cewch sefyll yr arholiadau a gohirio unrhyw ddyfarniad law yn llaw â’ch mynediad gohiriedig i’r Brifysgol. Cewch hefyd ddewis sefyll yr arholiadau yn ystod eich blwyddyn allan.

 

Canlyniadau a Thaliadau

Anfonir yr holl ganlyniadau at ymgeiswyr drwy e-bost o fewn 4-6 wythnos i gynnal yr arholiadau. 

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn taliadau mewn dau randaliad cyfartal (Rhagfyr a Mawrth) yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc ar ôl i chi gofrestru fel myfyriwr gyda ni. Sicrhewch eich bod wedi rhoi eich manylion banc ar eich porth myfyrwyr (o dan 'Gwybodaeth Bersonol') er mwyn i ni allu gwneud y taliadau.

Sylwch nad oes dyfarniad ariannol gyda’r Cynnig Diamod.

Cymwynaswyr

Cynigiwn ein Hysgoloriaethau Mynediad drwy garedigrwydd nifer o gymwynaswyr sydd wedi rhoi rhoddion hael i ni dros y blynyddoedd. Mae cyfyngiadau ar rai gwobrau o ran pwy gaiff eu derbyn. Nid oes raid gwneud cais am Ysgoloriaeth benodol – os bydd eich canlyniadau’n ddigon da byddwn yn dyfarnu Ysgoloriaeth addas i chi. Fodd bynnag, dylech roi gwybod i ni os ydych yn fab i Weinidog Anghydffurfiol ac felly’n gymwys i gael eich ystyried am Ysgoloriaeth Goffa David Morgan Thomas o Caterham. Mae rhestr o’n cymwynaswyr a’r telerau a’r amodau sydd ynghlwm wrth wobrau unigol ar gael ar-lein.