Cynlluniwyd Rosser G yn benodol i ôl-raddedigion. Saif ar ben uchaf Campws Penglais wrth ymyl blociau eraill Rosser, a neuaddau preswyl Cwrt Mawr a Threfloyne - sydd yn gartref i ryw 1000 o fyfyrwyr i gyd. Mae gan lawer o'r ystafelloedd olygfeydd braf ar y dref a'r bae, sydd ryw gwta ddeng munud o dro i ffwrdd ar droed.
Llety
Mae Rosser G yn gartref i hyd at 60 o fyfyrwyr o fewn 1 bloc. Mae'r bloc yn cynnwys 6 fflat hunangynhwysol, a 10 ystafell wely sengl ym mhob un. Bydd gan y preswylwyr eu hystafell ymolchi eu hunain, a byddant yn rhannu cegin a man seddi esmwyth.
Arlwyo
Mae myfyrwyr yn Rosser G yn hunanarlwyo.
Mae Rosser G wedi’i lleoli o fewn 5 munud o gerdded i archfarchnad CK’s, neu gall preswylwyr siopa yn yr archfarchnadoedd mwy o faint yn y dref.
Ond, os hoffech ddefnyddio ein cyfleusterau arlwyo gallwch roi arian ar eich Cerdyn Aber, neu gall teulu/ffrindiau ychwanegu ato ar eich rhan, i’w ddefnyddio yn unrhyw un o’r bwytai ar y campws – mi gewch ostyngiad o 10% yn ogystal!