Mae Pentre Jane Morgan (PJM), y 'Pentre Myfyrwyr', i'w gael wrth ymyl Fferm Penglais, ar ochr arall y ffordd i Gampws Penglais, ac mae modd cyrraedd y campws yn ddiogel dros y bont droed. Mae gan lawer o'r ystafelloedd lan y grisiau yn y tai olygfeydd braf ar y dref a'r bae, sydd ryw gwta ddeng munud o dro i ffwrdd ar droed.
Llety
Mae Pentre Jane Morgan yn gartref i ryw 1000 o fyfyrwyr rhwng 177 o dai.
Mae pob tŷ yn cynnwys naill ai 5 neu 6 ystafell wely sengl. Bydd y preswylwyr yn rhannu ystafell ymolchi, tai bach, cegin ac mewn rhai ohonynt byddant yn rhannu man seddi esmwyth.
Arlwyo
Llety hunanarlwyo yw PJM, gyda’r myfyrwyr yn rhannu ceginau yn eu tai hunangynhwysol.
Mae Pentre Jane Morgan wedi’i leoli o fewn 5 munud o gerdded o archfarchnad CK’s, neu gall preswylwyr siopa yn yr archfarchnadoedd mwy o faint yn y dref.
Ond, os hoffech ddefnyddio ein cyfleusterau arlwyo gallwch roi arian ar eich Cerdyn Aber, neu gall teulu/ffrindiau ychwanegu ato ar eich rhan, i’w ddefnyddio yn unrhyw un o’r bwytai ar y campws – mi gewch ostyngiad o 10% yn ogystal!