Ystafelloedd cymunedol y gellir eu harchebu
Er bod rhai o'r ardaloedd cymdeithasol at ddefnydd trigolion Pantycelyn yn unig, mae'r ystafelloedd astudio, cyfarfod, ymarfer ac ymlacio canlynol ar gael i rai nad ydynt yn breswylwyr eu harchebu.
Ystafell Gyfarfod 1
Ystafell Gyfarfod 2
Ystafell Gyffredin Hŷn
Ystafell Astudio 1
Y Lolfa Fach
I archebu ystafell ewch i ystafellaberrooms.simplybook.it
- Dewiswch ‘Archebu Nawr’
- Dewiswch yr ystafell yr hoffech
- Ewch i’r mis rydych chi ei angen
- Dewiswch ddyddiad
- Dewiswch amser o’r opsiynau sydd ar gael
- Llenwch y ffurflen fer
- Cytunwch â’r amodau a’r telerau
- Os oes ond angen un awr, cliciwch ‘Cadarnhau Archeb’
- Os oes angen mwy o amser neu amserau eraill / ystafelloedd gwahanol, dewiswch ‘Ychwanegu archeb arall’
- Dilynwch gamau 2-6
- Pan fyddwch wedi dewis yr holl ystafelloedd / amserau sydd angen, gwasgwch ‘Cadarnhau Archeb’
Noder - Os oes angen cymorth paratoi ar gyfer eich digwyddiad gyda dodrefn neu offer arbennig, dylech archebu 7 diwrnod o flaen llaw. Dylid hefyd gynnwys amser o fewn eich archeb i osod yr ystafell, ac amser i’w gadael fel ag yr oedd cyn eich digwyddiad.
Os oes angen adnoddau ychwanegol, archebion cyson, neu os ydych am archebu ar gyfer sefydliad allanol e-bostiwch undeb@aber.ac.uk
Ar gyfer unrhyw archebion allanol (pobl nad ydynt yn Staff neu’n Fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth), cysylltwch â'r Swyddfa Gynadleddau - cynadleddau@aber.ac.uk / Cynadleddau, Digwyddiadau a Chyfleusterau : Cynadleddau a Digwyddiadau , Prifysgol Aberystwyth