Adborth RhWN - Gwasanaethau Gwybodaeth
Cliciwch ar y teitlau i weld yr adborth a'n hymateb
Noder: mae'n bosibl bod y sylwadau a'r ymatebion wedi'u golygu. Roedd y wybodaeth yn gywir ar y pryd ond gallai fod wedi'i disodli. Cyhoeddir y sylwadau yn yr iaith y derbyniwyd y sylw ac ymateb y Brifysgol yn ddwyieithog.
24/25 Semester 1
-
CYF: 66-2410-7332531 - Materion Wi-Fi
Dy sylw: The Wi-Fi in Fferm Penglais is poor, with some websites unable to load, while others take a very long time.
Ein hymateb:
Os ydych chi'n cael trafferth defnyddio rhwydwaith y Brifysgol neu’r wifi, anfonwch neges e-bost at gg@aber.ac.uk a rhowch fanylion penodol am leoliad y toriad/problem. Mae desg Gwasanaeth GG ar gael 08:30-22:00 bob dydd yn ystod y tymor a gall ymateb i adroddiadau / ymholiadau sy'n gysylltiedig â TG.
-
CYF: 66-2410-3051417 - Meddalwedd WEKA
Dy sylw: CS36220: All library computers should have the WEKA software installed, particularly as this is essential for completing the assignment - otherwise it places students who rely on library computers at a disadvantage
Ein hymateb:
Diolch am eich cais i feddalwedd WEKA fod ar gael ar draws holl gyfrifiaduron y llyfrgell a chyfrifiaduron yr ystafell astudio. Rydym wedi gwneud hyn ar bob cyfrifiadur. Yn wreiddiol gofynnodd yr adran Gyfrifiadureg i’r feddalwedd fod ar gael ar gyfrifiaduron adrannol yn unig ac yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol. Ond gan eich bod wedi gofyn i’r feddalwedd fod ar gael yn ehangach, rydym wedi sicrhau hyn.
23/24 Semester 2
-
CYF: 66-2406-6954913 - Tymheredd Iris de Freitas
Dy sylw: The Iris de Freitas room in Hugh Owen Library is cold. Thanks
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am rannu eich adborth am y tymheredd yn ystafell Iris de Freitas.Rydym yn monitro'r tymheredd yn ardaloedd y llyfrgell bob dydd ac yn rhoi gwybod am broblemau i'r tîm perthnasol yn ein hadran Ystadau wrth iddynt osod y tymheredd gwresogi. Byddwn yn anfon eich sylwadau atynt.Os oes gennych chi unrhyw adborth / awgrymiadau pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni. -
CYF: 66-2406-6982911 - Gwell Darpariaethau TG
Dy sylw: We have a massive lack of IT provision in Gwendolyn Reese for nursing students especially with regards to a printing. We could really do with some provision in that respect as it's a long way to the library in the rain. Maybe if some space was allocated in a neighbouring building please.
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth ynghylch argraffwyr ychwanegol, byddaf yn anfon yr wybodaeth hon ymlaen i'r tîm sy'n gyfrifol am leoli argraffwyr.Yn y cyfamser, rwyf wedi dod o hyd i'r map ar-lein hwn sy'n dangos lleoliadau'r holl argraffwyr ar y campws: Lleoliadau Argraffydd : Gwasanaethau Gwybodaeth , Prifysgol AberystwythMae'r map yn dangos bod argraffydd cyhoeddus wedi'i leoli yn y Felin Drafod yn Llandinam a allai fod yn addas ar y dyddiau glawog hynny!Gobeithio y bydd hyn o gymorth, rhowch wybod i ni am unrhyw awgrymiadau/adborth yn y dyfodol. -
CYF: 66-2404-5375224 - Ardal Astudio Tawel Tom Lloyd
Dy sylw: I am getting really fed up of the noise and behaviour in the Tom Lloyd silent study room on level F of the Library. Staff do not monitor every hour as stated. There are no signs or a sound monitoring system within the rooms to remind students it is a silent space, and the text alert system is unrealistic - you don't know if the librarian is going to say there has been a complaint, if they do and you're the only person in the room with a group of 3 - 5 people talking, they're going to know its you. Why are students coming to the silent rooms to talk anyway? speaks of a wider issue of a lack of study space/ awareness of computer rooms. It is a dedicated silent study space, personal tolerance of noise levels is irrelevant
Ein hymateb:
Mae'n ddrwg gennym eich bod y sŵn yn ystafell Tom Lloyd yn aflonyddu arnoch, sydd, ynghyd â Llawr F i gyd, wedi'i dynodi'n ardal astudio tawel. Mae staff y llyfrgell yn ceisio cerdded trwy bob rhan o'r llyfrgell yn rheolaidd, ond ni allwn addo gwneud hynny bob awr, ac mae cyfnodau pan na allwn gerdded o amgylch mor rheolaidd ag yr hoffem. Dyma pam y gwnaethom gychwyn y ffôn Rhybuddio am Sŵn. Byddwch yn ymwybodol y gallwch hefyd siarad â'r aelod o staff ar ddesg Llawr F, a gallant hwy helpu, ac maent yn sensitif i'r mater o beidio ag enwi defnyddwyr eraill fel ffynhonnell y gŵyn. Yn y cyfamser, byddwn yn atgoffa staff y llyfrgell i wirio bod defnyddwyr y llyfrgell yn ystafell Tom Lloyd yn ymwybodol ei bod yn ardal astudio tawel. -
CYF: 66-2403-1120604 - Tymheredd Gweithfan
Dy sylw: I have recently been working at the Work Station, next to the train station a lot more. However, I am finding the building quite chilly, especially when I come at night. Is there anyway of putting the heating up?
Ein hymateb:
Diolch am dynnu ein sylw at hyn ac ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a achoswyd. Rydym bellach wedi gosod dau reiddiadur ychwanegol yn y weithfan sy’n cael eu rheoli â thermostat.Gobeithio y bydd hyn yn datrys y broblem. -
CYF: 66-2402-5886321 - Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol
Dy sylw: This is about the impending closure of the physical sciences library. Please do not close it - it is a very useful space for physics students to study within the physical sciences building, and it's closure would result in the loss of a valuable study space.
Keeping the books here would also be greatly ideal - as with it being a study space, they are useful here and it would be shame to lose it.Ein hymateb:
Does dim cynlluniau i'r Gwasanaethau Gwybodaeth/Gwasanaethau Llyfrgell gau Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol na symud y llyfrau i Lyfrgell Hugh Owen. -
CYF: 66-2402-9349209 - Lleoliadau Gollwng Llyfrau
Dy sylw: Should add a book drop off in the PJM lounge
Ein hymateb:
Diolch am eich ebost a’ch adborth.Y man gollwng llyfrau agosaf at PJM yw'r bin dychwelyd llyfrau y tu allan i'r Sgubor yn Fferm Penglais y gellir ei gyrchu 24/7.Os oes gennych chi unrhyw adborth / awgrymiadau pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni. -
CYF: 66-2402-4858709 - Hybiau Monitor yn y Ganolfan Uwchraddedig
Dy sylw: Can we have monitor hubs in the Postgrad Centre
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylw Rho Wybod Nawr.Cytunodd GG ac ysgol y graddedigion y bydd dau hyb monitor newydd yn cael eu gosod.
23/24 Semester 1
-
CYF: 66-2311-8943715 - Trafodaethau ar Blackboard
Dy sylw: In blackboard ultra a discussion has to be started by an instructor, rather than students being able to start a thread, so they are no longer being used at all, whereas last year I and other students on the course found them a useful tool.
Ein hymateb:
Diolch am eich ymholiad. Mae'n bosibl i fyfyrwyr ddechrau trafodaethau mewn cwrs Blackboard Ultra. Mae angen i hyn gael ei alluogi gan un o staff y cwrs. Bydd pob aelod o staff yn gwneud penderfyniadau gwahanol ynghylch a all myfyrwyr ddechrau trafodaethau ai peidio, felly efallai y gwelwch y bydd y gosodiadau’n wahanol mewn cyrsiau gwahanol.
-
CYF: 66-2309-9302420 - Amseroedd aros Llyfrgell Hugh Owen
Dy sylw: Wait times for computing help are too long in the Hugh Owen library. Staff are spending too long with each customer, being friendly is good but not when there's a big queue.
Ein hymateb:
Diolch i chi am eich adborth am yr amseroedd aros ar gyfer y ddesg gymorth cyfrifiaduron.
Rydym yn monitro amseroedd ymateb a'r gwasanaeth a ddarperir yn ein holl bwyntiau cymorth yn barhaus. Mae yna adegau pan fydd mwy o alw am gymorth wyneb yn wyneb yn ein Desg Wasanaeth. Mae ein staff bob amser yn ceisio darparu gwasanaeth mor effeithlon â phosibl, ond mae rhai ymholiadau'n cymryd mwy o amser. Rydym hefyd yn darparu cymorth dros y ffôn, e-bost a sgwrsio ar-lein felly byddem yn awgrymu, os na allwch aros am gymorth wyneb yn wyneb, eich bod yn defnyddio un o'r dulliau amgen hyn.
Diolch yn fawr.
-
CYF: 66-2309-3388325 - Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol
Dy sylw: I dislike that a large number of the books from the Physical Sciences library have been removed and I've heard that it might be closed completely soon.
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth. Nid oes unrhyw lyfrau wedi'u tynnu o'r Llyfrgell Gwyddorau Ffisegol. Rydym wedi cael gwared ar rediadau print o gyfnodolion lle mae gennym fynediad electronig. Mae hyn yn unol â'n Polisi Casgliadau.
Does dim gwirionedd i'r si y bydd y llyfrgell yn cau. Gwnaethom ofyn y cwestiwn 'a fyddai myfyrwyr yn cael eu gwasanaethu'n well pe bai'r casgliadau yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol yn cael eu trosglwyddo i Lyfrgell Hugh Owen oherwydd bod hyn yn darparu gwell hygyrchedd’? Mae Llyfrgell Hugh Owen ar agor 24/7 ac yn darparu mynediad gwastad i ddefnyddwyr cadair olwyn.
Ein nod yw rhoi arolwg i'r myfyrwyr y tymor hwn i gael eu barn ar y mater hwn a sut y gellid gwella Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol. Bydd yr arolwg yn cael ei gyd-ddylunio a'i gyd-gyflwyno gan y llyfrgell a chynrychiolwyr myfyrwyr a staff o’r adrannau Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg. Cadwch lygad allan amdano gan fod eich barn yn bwysig i ni.
22/23 Semester 2
-
CYF: 66-2304-6415422 - Hysbysiad y Weithfan
Dy sylw: Can you please send out an email in future when the town workroom is going to be used as a hub for open days etc. It's happened a few times this semester and it's very irritating that we don't get any notice. It's near impossible to work with people coming in and out all the time and the door being constantly open not soundproofing against any of the noise from Wetherspoons.
Ein hymateb:
Diolch am eich e-bost.
Pan fo’r Weithfan yn cael ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau ac yn brysurach neu’n fwy swnllyd nag arfer, gosodir hysbysiad ar y wefan: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/weithfan/ i roi gwybod ymlaen llaw i’r defnyddwyr.
Cynhelir y digwyddiad nesaf ar 08 Gorffennaf 2023.
-
CYF: 66-2303-9834716 - Mwy o Fewngofnodi Untro
Dy sylw: Please consider adding single sign on (SSO) to more university services (e.g. AberCard, tell us now page, past exam paper access) and make existing implementations more consistent on university managed computers.
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth ar gyflwyno cofrestru untro ar gyfer mwy o wasanaethau’r brifysgol.
Rydym ni’n gweithio’n ffordd yn raddol drwy’r holl systemau a gwasanaethau gan osod dilysu Azure. Mae hyn yn cymryd amser gan fod angen gwirio pob cymhwysiad ar gyfer cydymffurfiaeth a’i brofi am ddefnyddioldeb.
Nid yw’n bosibl ychwanegu cofrestru untro i'r Cerdyn Aber gan y byddai hyn yn atal mewngofnodi gyda manylion Cerdyn Aber y gallai teulu/pobl gefnogol eu defnyddio i brynu credyd i eraill.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill neu adborth ar gofrestru untro neu unrhyw agwedd arall ar y brifysgol cysylltwch â ni ar bob cyfrif.
-
CYF: 66-2303-5539601 - Planhigion Hugh Owen
Dy sylw: The vases of daffodils on desks throughout the Hugh Owen Library for St David's Day are so beautiful. Could we have flowers or potted plants in the library more regularly? Level F can feel particularly bleak in evenings and on grey days due to the neutral decor and fluorescent lighting. It would be lovely to take a break from reading a computer screen or printed page to look at some greenery instead - specifically real, living plants rather than plastic alternatives. Further, several studies of office environments have indicated that the presence of interior plants can help reduce fatigue, relieve stress and restore attention - all things we desperately need during long periods in the library!
Ein hymateb:
Diolch am gymryd yr amser i rannu eich adborth am y blodau ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi a phwysigrwydd gwyrddni yn y Llyfrgell.
Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw planhigion i ddefnyddwyr ein Llyfrgell am y rhesymau rydych chi wedi'u crybwyll. Mae gennym lawer o blanhigion ar Lawr E, yn enwedig yn ystafell Iris de Freitas, a Llawr D Llyfrgell Hugh Owen gan mai’r lloriau hyn sydd â'r golau mwyaf naturiol. Mae gennym ychydig o blanhigion ar Lawr F lle rydyn ni'n gwybod y byddan nhw'n cael y golau sydd ei angen arnynt.
Byddaf yn pasio eich sylwadau ymlaen i'n Rheolwyr Llyfrgell wrth iddyn nhw adolygu amgylchedd y Llyfrgell yn rheolaidd.
Diolch eto am eich adborth. -
CYF: 66-2302-8341204 - Gweithfannau Newydd
Dy sylw: Please could we have a printer photocopier in Y ffald thanks. It would also be good to have a couple of computers somewhere in fferm too maybe y ffald or sgubor as now we have to walk to the library or pjm.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylw a’ch awgrymiadau Rho Wybod Nawr.
Mae ein timau TG wedi ymweld â'r gofodau astudio yn Y Ffald a'r Sgubor i asesu pa mor addas fyddai gosod gweithfannau myfyrwyr. Unwaith y bydd gennym y dodrefn priodol yn eu lle, byddwn yn gosod gweithfan ym mhob lleoliad. Yn anffodus, fyddwn ni ddim yn rhoi argraffydd yn y Ffald gan fod un ar gael yn y Sgubor.
Diolch eto am eich awgrymiadau defnyddiol.
-
CYF: 66-2211-5152128 - Ystafelloedd Astudio sydd ar gael
Dy sylw: The booking system for the library rooms could be made easier for students. Right now we have to guess the availability by putting in random times and numbers of people. It would be much easier to see the availability/ timetable for each room to see when is possible to book, rather than guessing. The rooms are really useful though, and great there's one in town now also.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylw 'Rho Wybod Nawr'.
Gallwch weld y calendr ar gyfer yr ystafelloedd astudio unigol yma: https://faqs.aber.ac.uk/cy/9182
Gobeithio bod hyn yn helpu. Diolch unwaith eto am eich amser yn rhoi adborth i ni.
22/23 Semester 1
-
CYF: 66-2211-6986230 - Allanfa Llawr E, Llyfrgell Hugh Owen
Dy sylw: In the library computer room (next to group room 3) there is an exit that would be great to allow people to walk in and out of as it will be quicker for students to access the library rather than walking around and back up. I understand the need to check people aren't taking books out so there could be scanners by the entrance to the room or by the actual exit.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr iawn am eich awgrym am gael allanfa i ddefnyddwyr y llyfrgell yn yr ystafell gyfrifiaduron.
Yn anffodus, mae nifer o resymau nad yw hyn wir yn opsiwn i ni. Yn gyntaf, byddem yn poeni am yr effaith y byddai unrhyw allanfa yn y lleoliad hwnnw yn ei gael ar unrhyw un o'n defnyddwyr sy'n gweithio yn yr ardal honno. Hefyd, fel yr ydych yn ei nodi, byddai angen i ni osod set o giatiau diogelwch wrth unrhyw fynedfa newydd, ac mae hyn yn rhywbeth nad oes gennym ddarpariaeth ar ei gyfer o fewn ein cyllideb. Byddai hefyd angen i ni gael aelod o staff yno i reoli unrhyw achosion o seinio’r larwm, rhywbeth nad oes gennym y gallu i'w wneud.
Diolch eto am roi o’ch amser i rannu eich awgrym.
21/22 Semester 2
-
CYF:66-2205-4146311 - Peiriannau gwerthu bwyd yn y llyfrgell
Dy sylw: I think it would be good to have some more filling options in the vending machines in the library, like flapjacks or cereal pots, so that we can have breakfast here or just stay full up while we study. They would be more healthy than just living off chocolate bars during exam season, and would be just as long lasting.
Ein hymateb:
Diolch am eich awgrymiadau ar gyfer y peiriannau gwerthu, yn enwedig yn ardaloedd y llyfrgell. Byddwn yn trosglwyddo eich sylwadau i’n contractwr gwerthu ac yn gofyn am gael diwygio’r cynnyrch i’r awgrymiadau a wnaed gennych. Yn wir, codwyd hyn gan aelod o staff yn y llyfrgell yr wythnos ddiwethaf. Gobeithio y bydd hyn ar waith erbyn canol mis Mehefin.
Diolch am dynnu ein sylw at hyn, oherwydd heb fewnbwn defnyddwyr mae’n anodd gwybod yn union am beth mae myfyrwyr yn edrych. Felly diolch i chi am eich amser ac am drafferthu i roi gwybod i ni.
-
CYF:66-2205-9723303 - System archebu ystafell astudio
Dy sylw: It would be great if we could change the booking system for group study rooms in the library. During busy periods like dissertation week, you just have to keep trying random times and hours for the booking in different combinations until you strike gold and find a room that's available. If we could see a calendar view that would save a lot of time and mean if they are all booked, we wouldn't have to keep trying for ages to get a room. I would also like to be able to pick rooms if possible, since the ones in Iris de Freitas are really nice.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw Rho Wybod Nawr. Ymddiheuriadau am unrhyw anhawster yn archebu ystafell astudio.Mae defnyddwyr yn gallu gwirio a oes ystafell astudio ar gael drwy ddilyn y cyfarwyddiadau yma: https://faqs.aber.ac.uk/cy/2607 Byddwn yn ychwanegu dolen at y cyfarwyddiadau hyn o’r dudalen archebu.I sicrhau’r defnydd gorau o’r ystafelloedd, cânt eu neilltuo yn seiliedig ar faint y grŵp sy’n cyflwyno’r archeb. Dim ond lle i 6 defnyddiwr sydd mewn rhai ystafelloedd tra bo lle i 12 mewn rhai eraill. Dim ond os byddai’r holl ystafelloedd llai o faint wedi’u harchebu eisoes y byddem yn neilltuo ystafell â lle i 12 i grŵp o 4. -
CYF:66-2204-5557327 - Cerdyn Aber digidol
Dy sylw: It would be so good if we could get a virtual version of our AberCard on our phones like with Apple Wallet! That way it wouldn't matter if we forgot our AberCards to come to lectures or if we get locked out of our flats.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw Rhoh Wybod Nawr.
Rydym ni wrthi’n ystyried cyflwyno Cerdyn Aber digidol. Fodd bynnag, oherwydd cyfyngiadau cloeon drws, pwyntiau presenoldeb ac argraffwyr, sydd angen agosrwydd y sglodyn yn y cerdyn ei hun, ar hyn o bryd, dim ond fel ffordd i adnabod myfyrwyr fyddai modd defnyddio hwn.
Cadwch olwg ar ein sianeli gwybodaeth gan y byddwn yn rhannu unrhyw ddatblygiadau yn y maes: https://www.aber.ac.uk/cy/is/feedback/keepingyouposted/
-
CYF:66-2204-3644927 - Socedi trydan yn y llyfrgell
Dy sylw: Please could we have working plugs in the library for laptops since half of them don't work at all
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylw drwy Rho Wybod Nawr. Ymddiheuriadau am yr anhawster a gawsoch yn dod o hyd i soced plwg sy’n gweithio yn Llyfrgell Hugh Owen.
Rydym wedi cael cadarnhad yn ddiweddar gan Wasanaethau Cymorth y Campws eu bod bellach wedi trwsio’r gadwyn o blygiau ar Lefel E Llyfrgell Hugh Owen nad oedd yn gweithio. Gobeithio y bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i fan astudio sy'n ateb eich anghenion.
Os ydych yn gwybod am socedi eraill yn y Llyfrgell nad ydynt yn gweithio, rhowch wybod i ni ble maen nhw (dyma’r manylion cysylltu: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/). Rydym yn gweithio i ddatrys y materion hyn cyn gynted ag y gallwn a diolch i chi am eich cymorth yn dod â nhw i’n sylw. -
CYF:66-2204-3644927 - Sŵn yn y llyfrgell
Dy sylw: I use the individual study rooms a lot in the library as I prefer to have a different change of scenery when doing work. I also like silence when I am working, which is why I book the rooms as it is supposed to be silent study. However, every single time I am in the library someone is either talking, laughing or playing videos. Every time without fail. I cannot keep asking the librarians to tell them to be quiet and I don't think I should have to considering it is supposed to be silent study anyway. It has made me see how disrespectful other students can be at times. As I am writing this now all I can hear is a group of girls talking and laughing. So I think either the rooms need to be soundproofed or something needs to be done about these disrespectful people. I can't work well with earphones in, but sometimes I am forced to as I cannot focus when people are being that loud. It is just getting to the point where I am starting to find working conditions in the library worse than at home, which is a real shame.
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth ac mae’n ddrwg gennyf fod sŵn yn tarfu arnoch wrth astudio ar Lefel F Llyfrgell Hugh Owen.
Mae llyfrgellwyr yn cerdded drwy’r holl fannau astudio yn y llyfrgell bob awr neu ddwy rhwng 10:00-17:00 Llun-Gwener i orfodi gostwng lefelau’r sŵn yn yr ardaloedd astudio tawel ar Lefel F ac i sicrhau defnydd priodol o’r holl ofodau astudio. Maent hefyd yn ymateb yn ôl yr angen i’r gwasanaeth neges destun adrodd am sŵn: https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/study-zones/
Er ein bod yn gofyn i bobl fod yn dawel neu symud o ardal astudio dawel Lefel F i ystafell Iris de Freitas neu Lefel D os byddai’n well ganddynt weithio mewn grŵp, rydym yn ymwybodol y gall sŵn ailddechrau unwaith y bydd y llyfrgellydd wedi symud oddi yno a dyna pam mae gennym y system rhoi gwybod drwy neges destun hefyd. Ac rydym yn annog myfyrwyr eu hunain i ddweud wrth eu cyd-fyfyrwyr os ydynt yn tarfu arnoch chi – os ydych yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hyn. Mae cael gwybod gan eu cyfoedion eu bod yn tarfu arnynt yn gallu bod yn neges lawer mwy pwerus na chael llyfrgellydd yn dod i orfodi tawelwch.
Rydyn ni'n deall bod pobl wahanol yn goddef sŵn ar lefelau gwahanol wrth astudio a dyna pam rydyn ni'n gwneud yr hyn a allwn i sicrhau bod Lefel F Llyfrgell Hugh Owen yn aros mor dawel â phosib ar yr un pryd â chynnig amryw o ofodau astudio eraill. Rydym yn gobeithio cael cyllid gan y Brifysgol i adnewyddu Lefelau E ac F y llyfrgell ac fel rhan o’r gwaith hwn rydym yn bwriadu cael offer gwrthsain ar gyfer ein hystafelloedd astudio sengl a grŵp – ond rwy’n sylweddoli nad yw hyn yn ateb yn y tymor byr.
Gobeithio y gallwch dderbyn ein hymddiheuriad am y materion hyn ac mae pob croeso i chi ddefnyddio’r gwasanaeth neges destun neu daliwch ati i ofyn am gymorth gan staff y llyfrgell os bydd tarfu arnoch.
-
CYF:66-2203-5370930 - Trafferth gyda'r camera dogfennau mewn ystafell ddysgu
Dy sylw: The PTZ camera in Edward Llwyd, 0.26 is poorly working, it always tries to focus, but never focuses. It's hard to believe that every time we need to read some unfocused handwriting in this room as we use it quite a lot for our module. Hopefully it gets better soon then everyone could see some proper stuff. Thanks.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylw Rho Wybod Nawr.
Rydym yn ymddiheuro am y problemau yr ydych wedi bod yn eu cael gyda'r offer yn yr ystafell addysgu. Mae’n bleser gennyf roi gwybod i chi bod ein tîm TG wedi gosod camera dogfennu newydd yn yr ystafell yr wythnos diwethaf ac yn aros i'w brofi i gadarnhau bod y problemau wedi'u datrys. Bydd modd i ni brofi'r camera wrth i'r addysgu ailddechrau ar ôl gwyliau'r Pasg, ond gobeithio y bydd y llun yn llawer mwy eglur.
Diolch eto am dynnu ein sylw at y mater hwn. Dymuniadau gorau ar gyfer eich astudiaethau,
-
CYF: 66-2203-5044221 - Gwasanaeth rhybuddio am sŵn
Dy sylw: The hugh owen noise complaint line doesn't work, when you text it nothing happens
Ein hymateb:
Diolch am rannu eich adborth. Ymddiheuriadau am y problemau rydych chi wedi’u hwynebu yn defnyddio’r rhif testun rhybudd am sŵn. Caiff y negeseuon testun eu monitro gan staff y llyfrgell yn ystod oriau’r staff. Rydym yn ceisio ymateb ar unwaith ond pan fydd staff yn brysur mae’n bosibl y caiff neges ei cholli o dro i dro. Fe anfonwn neges yn atgoffa am fonitro’r negeseuon heddiw.
Os oes gennych broblem ac os na fyddwch yn derbyn ymateb testun o fewn amser rhesymol, ewch i unrhyw un o’r desgiau llyfrgell (ar Lefel D a Lefel F) a bydd ein staff yn eich helpu.
-
CYF:66-2203-7098121 - Carelau astudio Llyfrgell Hugh Owen
Dy sylw: Whilst the study carrels on floor F of the library are great, they are old and a bit uncomfortable and could do with a bit of a refresh, the carrels seem a bit drab to work in compared to the rest of the library, and it seems like they would make them a better environment to work in
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth ynghylch y carelau astudio yn Llyfrgell Hugh Owen.
Rydym ni wrthi’n cynllunio ailwampio Lefelau E ac F, y ddau lawr uchaf yn y llyfrgell, a chaiff y carelau astudio eu hadnewyddu fel rhan o’r prosiect hwn. Efallai eich bod wedi sylwi ar fwrdd adborth yn y llyfrgell yn gofyn am farn myfyrwyr ar sut y byddent yn hoffi i Lefelau E ac F edrych. Caiff yr awgrymiadau eu rhannu gyda rheolwyr y llyfrgell wrth iddynt gynllunio’r gwaith adnewyddu. Byddem yn croesawu eich awgrymiadau ar ein wal adborth ar-lein: https://padlet.com/abercsistaff/4qvvwhfz3ej6msrp
Diolch eto am rannu eich barn.
21/22 Semester 1
-
CYF:66-2111-4295922 - Canvas i gymryd lle Blackboard
Dy sylw: I would like to propose that the school for next term or next year, switches to the Canvas Learning Management System by Instructure to replace Blackboard. Blackboard is outdated and very much not intuitive for academic faculty of staff. Canvas is a more modern and easy to use system that is all around better than Blackboard. Firstly, Canvas supports bilingualism and is available to use in Welsh and English. Another benefit to Canvas is that any kind of quiz, test, assignment, exam, etc... (with grades) can be done all in one place. It's easier to use for both staff and students since all information can accessed easily. It also has a fantastic system when it comes to any kind of course-related communication whether that's between students and other students, staff and staff, or between students and staff. Canvas also bundles with MS Teams and other software and is completely cloud based. I have personally used canvas before at a previous academic institution and from experience, it is a lot easier to use and navigate. This is why more and more universities are switching to Canvas from Blackboard like the University of Liverpool did over the summer. A switch to Canvas will only increase student and staff satisfaction when it comes to a learning management website.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylwadau. Rydym yn adolygu ein gwasanaethau'n rheolaidd a byddwn yn ystyried eich sylwadau chi a sylwadau rhanddeiliaid eraill fel rhan o'r broses adolygu hon
-
CYF:66-2111-2713309 - Llai o olau yn y llyfrgell
Dy sylw: We need a dark room in the library, everything is very bright and sensor controlled. (Or at least the option to turn off the lights in some carrels)
Ein hymateb:
Diolch yn fawr iawn am eich adborth. Ymddiheurwn yn daer eich bod yn cael profiad annifyr wrth ddefnyddio'r llyfrgell. Mae'n bosib bod golau llai llachar mewn rhannau eraill o'r llyfrgell ar Lefel F a Lefel E neu yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol o bosib, ond os na ddewch chi o hyd i le addas i astudio, anfonwch e-bost at is@aber.ac.uk. Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth ar fin cychwyn casglu adborth a barn myfyrwyr trwy grwpiau ffocws er mwyn adnewyddu Lefelau E ac F yn Llyfrgell Hugh Owen, ac mae hwn yn ddarn defnyddiol iawn o adborth y byddwn yn ei ystyried.
Os hoffech fod yn rhan o’r grwpiau ffocws, ewch i https://www.aber.ac.uk/cy/is/feedback/grwpiau-ffocws/
-
CYF:66-2110-8793621 - Ffenestri Ystafell Iris de Freitas
Dy sylw: The new iris de fritas room could do with some blinds on the sea view side. The sun can be blinding and it's hard to see you PC when faced away or look at anything when faced towards. Each window having an individual blind would mean different students would be able to put the blind down they need rather than a whole section of the window. this would be really helpful - thanks
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth ar y llewyrch ar y ffenestri yn ystafell Iris de Freitas. Mae'r ffenestri yn yr ystafell astudio hon sy'n wynebu'r gorllewin tuag at y môr wedi'u tywyllu i leihau llewyrch yr haul. Ar un adeg roedd bleindiau ar y ffenestri hyn ond roedden nhw'n torri'n rheolaidd ac yn achosi mwy o broblemau. Mae’r ffenestri tywyllach wedi gweithio’n llawer gwell ond rwy’n cydnabod y bydd adegau, yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn, pan fydd yr haul yn ddiflas. Byddwn yn eich cynghori i symud i ran arall o’r llyfrgell – naill ai aros yn yr Iris de Freitas neu symud i fan astudio ar Lefel F neu E. Diolch yn fawr am eich adborth
-
CYF:66-2110-2399326 - Meddalwedd gwrthfeirysau
Dy sylw: Can the University provide a free anti-virus software for Students and staff?
Ein hymateb:
Windows Defender yw'r feddalwedd gwrth-feirws a ddefnyddir gan y Gwasanaethau Gwybodaeth ar ddyfeisiau'r Brifysgol. Mae'r feddalwedd yn rhan o system weithredu Windows ac ar gael i chi yn rhad ac am ddim ar eich dyfais eich hun.
-
CYF:66-2110-9714329 - Defnyddio'r carelau astudio yn y llyfrgell
Dy sylw: Please consider reverting to keyed access to the individual study carrels in the library. The new booking system is great but upon arrival, I often find someone already inside who has just sat inside without booking. Requiring a key again or changing the door locks to the card style locks on other university doors (and giving access to only the student on the booking somehow) would be great. Thanks!
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth. Os byddwch yn dod ar draws rhywun sy'n gwrthod gadael ystafell rydych chi wedi'i harchebu, gofynnwch i aelod o staff. Gallwch anfon neges destun at y Gwasanaeth Rhybuddio am Sŵn ar 07966624251 a dylai aelod o staff allu ymweld â'r lleoliad. Gallwch hefyd fynd at aelod o staff wrth y desgiau cymorth ar lefel F neu D yn y Llyfrgell. Mae'r ystafelloedd hyn yn wasanaeth newydd ar gyfer y flwyddyn academaidd hon felly byddwn yn parhau i fonitro'r defnydd yn ystod y tymor gan edrych am unrhyw welliannau y gallwn eu gwneud. Byddwn hefyd yn ystyried eich adborth am gyfyngu mynediad i'r ystafell, fodd bynnag ni fyddai hyn yn effeithio ar unrhyw un sydd eisoes yn yr ystafell.
-
CYF:66-2110-1084731 - Meicroffonau ar gyfer darlithwyr
Dy sylw: Lectures are recorded and this is great. However, it would really make a difference if the teachers could speak into the microphone. Some of them walk while they talk. I totally understand that as I would do the same. The problem is that they move away from the microphone and then the sound is not recorded properly. I often struggle to hear what they say. I have to rewind the video many times, which is time-consuming. Unfortunately it's often useless as I still can't catch a word. This is not the teachers fault. They are very good and they do a very good job. This is the university responsiblity to anticipate that kind of problems and give the teachers the means to do their job. The University could provide the teachers with some lavalier microphones.
Ein hymateb:
Ymddiheurwn yn daer am yr anawsterau a gawsoch gyda'r recordiadau o ddarlithoedd. Rwy'n falch o roi gwybod ein bod yn gweithio'n ddygn i ddatrys y problemau hyn cyn gynted â phosib. Roedd meicroffonau llabed ar gael ym mhob ystafell ddysgu a lle'r oedd darlithoedd wedi eu trefnu'n ganolog er mwyn i'r staff addysgu allu symud o gwmpas yr ystafelloedd yn ystod y ddarlith heb golli ansawdd sain y recordiad. Cafwyd gwared â'r meicroffonau hyn fel rhan o’n hymateb cychwynnol i Covid-19 ynghylch pryder y gallent fod yn risg trosglwyddo am eu bod yn bwyntiau cyswllt ychwanegol. Rydym wedi adolygu ein hasesiad risg ac, yn seiliedig ar ein dealltwriaeth bresennol o risgiau'r feirws, rydym yn rhoi'r meicroffonau'n ôl ym mhob ystafell ddarlithio. Gobeithiwn y byddant i gyd yn ôl yn eu lle erbyn dechrau’r tymor nesaf, ond bydd rhai yn ôl yn llawer cynt na hyn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni.
20/21 Semester 2
-
CYF: 66-2102-4615822 - Gwasanaeth gwych
Dy sylw: Would like to say that Diane in Materials Acquisitions is amazing! Such a fast and friendly turnaround.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylw Rho Wybod Nawr. Rydym wedi rhannu eich sylw â'r tîm, ac maen nhw eisiau diolch yn fawr ichi am eich geiriau caredig. Maen nhw'n falch eich bod yn bles â'n gwasanaeth caffael. Diolch yn fawr iawn.
-
CYF:66-2102-7252515 - Llyfrau ar gael ar-lein
Dy sylw: Module: AB27220 - The core text books haven't and still aren't accessible online
Ein hymateb:
Cafodd eich ymholiad ei drosglwyddo i un o'n Llyfrgellwyr Pwnc, a ymchwiliodd i'r deunyddiau darllen hanfodol ar gyfer AB27220. Yn anffodus, nid yw Consumer Behaviour gan Blythe ar gael i'w brynu fel e-lyfr sefydliadol, ond mae rhywfaint o gopïau print ar gael ar gyfer ein gwasanaethau clicio a chasglu / benthyca drwy'r post.
Ceir fersiwn elyfr o Consumer Behaviour: a European outlook gan Schiffman et al ac mae botwm ar gael i'w weld ar-lein yn y rhestr ddarllen ar Aspire erbyn hyn. Mae cydlynydd y modiwl yn dweud bod myfyrwyr wedi cael gwybod mai o'r llyfr hwn y bydd y dysgu/darlleniadau allweddol yn dod. Ar hyn o bryd dim ond dau berson sy'n gallu defnyddio'r elyfr ar yr un pryd ond os gwelwn fod rhagor o alw amdano fe brynwn ragor o gopïau. Cysylltwch â'r Llyfrgellwyr Pwnc ar llyfrgellwyr@aber.ac.uk os oes gennych ragor o gwestiynau am y rhestr ddarllen neu os ydych yn cael anhawster cael gafael
-
CYF:66-2102-7875311 - Isdeitlau ar fideos
Dy sylw: Considering we're currently doing online learning I really think having a Speech to Text software to add captions on recorded lectures (panoptos etc) is incredibly crucial for those who are deaf and hard of hearing. Please introduce this, as learning without subtitles on panopto and a clear image that isn't lagging through a live feed on Teams to lip-read is hard and is affecting learning. In 2021 I really believe this should have already been a thing as having subtitles on recorded videos is not a new concept and is widely available on most other medias such as YouTubes auto-generated captions
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw ar roi capsiynau ar gyfer darlithoedd, a gyflwynwyd trwy Rho Wybod Nawr. Mae system recordio darlithoedd Panopto yn cynnig opsiwn cynnwys capsiynau, ond rydym yn gwerthfawrogi'r ffaith y gall yr ansawdd, yn enwedig o ran cynnwys gwyddonol, greu anhawster ac mae golygu'r capsiynau yn broses lafurus. Rydym wrthi'n ystyried opsiynau eraill i'w cyflwyno yn lle'r gwasanaeth hwn.
-
CYF:66-2102-9641302- Deunyddiau darllen ar-lein
Dy sylw: Limited e books available for psychology e.g Conceptual and Historical Issues. Would be very useful if all the essential books for each module could be uploaded as a pdf/ if allowed to considering circumstances
Ein hymateb:
Diolch am eich neges - rydym wastad yn gwerthfawrogi cael adborth fel y gallwn ymchwilio i unrhyw broblemau. Rydym wedi gwirio'r rhestr ddarllen ar gyfer modiwl PS11820 ac wedi gwneud rhai addasiadau felly dylai'r holl fyfyrwyr allu gweld y fersiynau ar-lein, pan fo e-lyfrau ar gael. Dylid nodi mai dim ond 4 eitem nad ydynt ar gael fel e-lyfrau sydd ar y rhestr ddarllen ar gyfer y modiwl hwn erbyn hyn. Yn anffodus, nid yw'n bosibl prynu e-lyfrau ar gyfer pob llyfr bob amser - boed hynny oherwydd hawlfraint neu oherwydd bod y gost yn atal hynny. Fodd bynnag, rydym wedi archebu rhagor o gopïau o lyfr Piekkola, Conceptual and historical issues in Psychology. Mae'n werth nodi hefyd, wrth wirio eich rhestrau darllen, ei bod yn hollol bosibl bod fersiynau ar-lein ar gael yn Primo nad ydynt o reidrwydd yn cael eu dangos ar y rhestr ddarllen Aspire. Y ffordd orau o wirio hyn yw clicio ar deitl y llyfr, yna clicio ar ‘view other formats/editions’. Yna fe welwch yr holl argraffiadau a'r ffurfiau o'r llyfr sydd ar gael yn Primo.
-
CYF:66-2101-7441529 - Derbyn ebyst diangen
Dy sylw: I am a distance learning student studying a Masters degree whilst working full time. The amount of e-mails I receive in my uni webmail account that are not relevant to me is huge. Out of 600+ emails, less than 25 were relevant since August 2019. This makes it incredibly difficult to identify which e-mails I should be answering. As a full time worker, to keep a track on all these e-mails is a part time job on its own. Is there any way you can tailor the e-mails for distance learners and stop the blanket e-mails that are sent to full time students?
Ein hymateb:
Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu rhestrau ebost i staff eu defnyddio er mwyn cysylltu â myfyrwyr: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/emaillists/studentlists/ Fel y gwelwch, mae'r rhain wedi'u rhannu hyd at lefel modiwlau unigol. Fodd bynnag, nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y modd y mae staff yn defnyddio'r rhestrau hyn i gysylltu â myfyrwyr. Mae llawer o negeseuon yn cael eu hanfon i'r holl fyfyrwyr, megis negeseuon y Coronafeirws, gan fod myfyrwyr yn astudio'r un cyrsiau dan wahanol amgylchiadau. Mae llawer o fyfyrwyr sy'n dysgu o bell yn byw'n lleol ac yn dod i'r campws yn rheolaidd, yn casglu eu benthyciadau o'r llyfrgell wyneb yn wyneb ac yn defnyddio adnoddau'r campws. Gallai negeseuon nad ydynt yn berthnasol i chi fel dysgwr o bell fod yn gwbl berthnasol iddynt hwy.
20/21 Semester 1
-
CYF:66-2011-4984711 - Trafferthion cysylltu ag Eduroam
Dy sylw: Dear whomever this may concern, I have found that Eduroam has not been working well this year, and now it has completely stopped working for me in my seafront accommodation and class mates from Fferm are also having the same issue. We are able to connect to Eduroam but it tells us it has no internet at all with it.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw ac am grybwyll eich pryderon ynghylch ein gwasanaeth Eduroam. Byddem yn gofyn ichi roi gwybod inni'n uniongyrchol am unrhyw broblemau wrth ddefnyddio'r gwasanaethau llyfrgell a TG fel y gallwn eu datrys yn gyflym - manylion cyswllt yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/
-
CYF:66-2011-5639809 - Cymorth TG rhagorol
Dy sylw: During this Covid-19 period, the IT team has consistently made every effort to be helpful, persevering when a solution appears impossible. I would like to thank them.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am dreulio amser yn rhannu eich adborth caredig â'r Gwasanaethau Gwybodaeth. Byddaf yn rhannu eich sylwadau â'n tîm Gwasanaethau TG, ac rwy'n siŵr y byddant yn falch iawn o glywed eich bod mor fodlon â'u gwaith. Os cewch unrhyw broblemau yn y dyfodol mae croeso i chi gysylltu â ni (manylion yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/) ac fe wnawn ein gorau i'ch cynorthwyo.
-
CYF:66-2011-2032304 - Trafferthion Wi-Fi
Dy sylw: I would love to see the wifi upgraded. Especially now that we are doing a lot more blended learning, I think it would be well worth investing in a more reliable, faster, stronger, and more secure internet for the students across campus. I personally cannot count on the wifi for video calls (something I should be able to rely on for both courses and contacting family overseas), or for even being accessible when I wake up in the morning. There is very little range on the wifi, and I can hardly pick up a signal in most places.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich adborth ynghylch mynediad i Eduroam ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ein tîm TG a Rhwydwaith wedi cadarnhau bod y gwasanaeth di-wifr a'r rhwydwaith ledled y campws a'r llety myfyrwyr yn cael eu huwchraddio'n barhaus. Os ydych wedi canfod lleoliad penodol lle mae'r gwasanaeth di-wifr yn gyson wael, neu unrhyw broblem arall y mae angen i'r tîm ymchwilio iddi, anfonwch y manylion at gg@aber.ac.uk.
-
CYF:66-2010-7714431 - Dychwelyd llyfrau
Dy sylw: I'd just like to make a comment on the current drop-off protocol for returning library items. Obviously books are now subject to a 5 day quarantine; this is understandable. However, because of this, the library's system states that loans are overdue and as such it stops the rest of the loans from auto-renewing, which causes issues. I think it would be good to have some kind of digital kiosk above the return bin so that you can state what you're returning to avoid this happening is necessary as I can't be the only one having this issue.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylw Rho Wybod Nawr. Rydym wedi newid y system yn ddiweddar er mwyn sicrhau nad yw defnyddwyr yn cael eu hatal rhag benthyca eitemau eraill tra bod eitem/au hwyr ar eu cyfrif. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn datrys y broblem. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am fenthyca o'r Llyfrgell, cysylltwch â ni ar y ffôn, Microsoft Teams, sgwrsio ar-lein neu ar ebost -https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/
-
CYF:66-2009-9954230 - Benthyca trwy Glicio a Chasglu
Dy sylw: Can we have more books available on the click and collect service from Hugh Owen? The limit of 10 is a bit daft for 3 third year modules, especially when I have to pre-book slots to go and pick them up.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw. Mae'r terfyn yn berthnasol i nifer y ceisiadau 'byw' y gallwch eu cael ar unrhyw un adeg, yn hytrach na'r nifer y gallwch eu cael yn ystod y tymor ar ei hyd.
Dim ond y llyfrau y mae arnynt eu hangen ac y maent wrthi'n eu defnyddio ar hyn o bryd y dylai defnyddwyr wneud cais amdanynt a'u benthyca.
Gall defnyddiwr arall wneud cais am unrhyw lyfr yr ydych yn ei fenthyca o'r llyfrgell ac yna byddai angen ichi ei ddychwelyd, boed chi wedi cael cyfle i'w ddarllen ai peidio.
Mae angen i lyfrau sy'n cael eu dychwelyd fod mewn cwarantin am 72 awr, ac mae hynny'n golygu nad ydynt ar gael yn ystod y cyfnod hwnnw.
Trwy gyfyngu nifer y ceisiadau ar un adeg rydym yn gobeithio y bydd defnyddwyr yn fwy dethol o ran yr hyn y maent yn gwneud cais amdano.
-
CYF:66-2009-3273130 - Benthyca llyfrau o'r llyfrgell
Dy sylw: Hi, I get that we need to be careful with the virus, but the system currently in place with the library is awful. The books I requested two days ago are still not on the shelf, so I can't collect them - which is a bit awkward as some of them are course books with which we are already working in class. In my case, I've got additional problems because the wifi in my accommodation is bad; by the time I manage to log in to Primo, I get kicked out again, viewing online resources is close to impossible. Is there a way to get more self-checkout machines? Longer access to the library (9am-5pm)? Sorry to be such a bother, but I really can't see this system working. It's not working now, and we've only just started. Essays, assignments and deadlines will start to roll in, never mind exams, and it's already going down the rabbit hole.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw. Mae'r system bresennol ar waith er mwyn sicrhau diogelwch myfyrwyr a staff fel ei gilydd. Mae'n rhaid i eitemau a ddychwelir i'r llyfrgell gael eu cadw dan gwarantin am 72 awr cyn y gall staff eu prosesu a'u darparu i fyfyrwyr eraill, felly mae hyn yn creu oedi.
Mae'r broses o gasglu llyfrau o'r silff, eu lapio ac yna'u rhoi ar y silffoedd casglu hefyd yn cymryd amser. Rydym wedi recriwtio rhagor o staff i helpu gyda'r gwaith hwn ond mae nifer y ceisiadau yr ydym yn eu cael yn golygu nad ydym bob amser yn gallu cyflawni'r ceisiadau cyn gyflymed ag yr hoffem.
Bu'n rhaid cyflwyno'r system er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r gofynion Iechyd a Diogelwch.
Os ydych yn byw yn llety'r Brifysgol a'ch bod yn cael anhawster â'ch gwasanaeth di-wifr cysylltwch â'r Gwasanaethau Gwybodaeth: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/.
Diweddariad - Mae'r mynediad i'r llyfrgell wedi'i ymestyn ac mae Clicio a Chasglu ar gael 08:30-20:15, a'r mannau astudio ar gael 08:30-23:15.
-
CYF:66-2009-410729 - Defnyddio'r llyfrgell yn ystod y pandemig
Dy sylw: The click and collect service is frustratingly fully booked. Which means I cannot collect the books I requested for a week. In one case a day later than the date they said they were holding the book for me. I feel this system should be improved for more immediate collection, it is frustrating enough not being able to access the library at all. I am also in strong disagreement at the removal of access to the study spaces in the Iris de Frietas room. This is all culminating in extreme frustration and difficulty with embarking on my 3rd year of study.
Ein hymateb:
Mae'n ddrwg gennym bod y gwasanaeth clicio a chasglu wedi bod yn llawn pan oedd arnoch angen ei ddefnyddio. Rydym yn ceisio cynyddu nifer y slotiau sydd ar gael cyn gynted â phosibl, ond gan sicrhau diogelwch ein myfyrwyr a'n staff ar yr un pryd.
O safbwynt Iris de Freitas, rydym yn gobeithio agor y mannau astudio cyn gynted ag y gallwn. Cadwch lygad ar ein tudalen Newyddion Diweddaraf er mwyn cael newyddion am ein gwasanaethau https://www.aber.ac.uk/cy/is/news/isupdate/
Diweddariad: Mae nifer y slotiau sydd ar gael wedi cael eu cynyddu bellach ac rydym hefyd ar agor ar benwythnosau. Mae oriau agor ystafell Iris de Freitas wedi eu hestyn i 08:30-23:15 ar gyfer y trydydd tymor. Mae mannau astudio eraill yn cael eu darparu hefyd, gan gynnwys Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol sydd ar agor o 8 Ebrill.
19/20 Semester 2
-
CYF:66-2003-4634612 - Mannau astudio'r llyfrgell yn oer
Dy sylw: I've been in floor F of the library for the last 5 hours and haven't been able to take my coat or hoodie off in the Carrels or Glazes - I know that the temperature outside of these rooms is decent however they're really cold inside, especially due to how windy it is. I understand that it would be a massive undertaking to fix the draughty windows but maybe a small heater or at least a blanket or something would be really useful, my hands are like ice but I just can't concentrate when there are people walking around me if I'm outside of a Carrel or Glaze :(
Ein hymateb:
Yn anffodus, mae ein mannau astudio yn oerach yn awr yn sgil canllawiau COVID, sy'n ein hatal rhag ailgylchu aer o'r tu mewn i'r adeilad. Yn hytrach, tynnir awyr iach i mewn o'r tu allan ac o'r herwydd mae'n llawer oerach. Mae ein hadran Ystadau yn ymchwilio i amrywiol atebion ac maent wedi gosod rheiddiaduron olew ym mhob corlan astudio er mwyn cynorthwyo yn y tymor byr.