CYF:66-2102-7252515 - Llyfrau ar gael ar-lein

Dy sylw: Module: AB27220 - The core text books haven't and still aren't accessible online      

Ein hymateb:

Cafodd eich ymholiad ei drosglwyddo i un o'n Llyfrgellwyr Pwnc, a ymchwiliodd i'r deunyddiau darllen hanfodol ar gyfer AB27220. Yn anffodus, nid yw Consumer Behaviour gan Blythe ar gael i'w brynu fel e-lyfr sefydliadol, ond mae rhywfaint o gopïau print ar gael ar gyfer ein gwasanaethau clicio a chasglu / benthyca drwy'r post.

Ceir fersiwn elyfr o Consumer Behaviour: a European outlook gan Schiffman et al ac mae botwm ar gael i'w weld ar-lein yn y rhestr ddarllen ar Aspire erbyn hyn. Mae cydlynydd y modiwl yn dweud bod myfyrwyr wedi cael gwybod mai o'r llyfr hwn y bydd y dysgu/darlleniadau allweddol yn dod. Ar hyn o bryd dim ond dau berson sy'n gallu defnyddio'r elyfr ar yr un pryd ond os gwelwn fod rhagor o alw amdano fe brynwn ragor o gopïau. Cysylltwch â'r Llyfrgellwyr Pwnc ar llyfrgellwyr@aber.ac.uk os oes gennych ragor o gwestiynau am y rhestr ddarllen neu os ydych yn cael anhawster cael gafael