CYF:66-2204-3644927 - Socedi trydan yn y llyfrgell

Dy sylw: Please could we have working plugs in the library for laptops since half of them don't work at all

Ein hymateb:

Diolch yn fawr am eich sylw drwy Rho Wybod Nawr. Ymddiheuriadau am yr anhawster a gawsoch yn dod o hyd i soced plwg sy’n gweithio yn Llyfrgell Hugh Owen.

Rydym wedi cael cadarnhad yn ddiweddar gan Wasanaethau Cymorth y Campws eu bod bellach wedi trwsio’r gadwyn o blygiau ar Lefel E Llyfrgell Hugh Owen nad oedd yn gweithio. Gobeithio y bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i fan astudio sy'n ateb eich anghenion.

Os ydych yn gwybod am socedi eraill yn y Llyfrgell nad ydynt yn gweithio, rhowch wybod i ni ble maen nhw (dyma’r manylion cysylltu: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/). Rydym yn gweithio i ddatrys y materion hyn cyn gynted ag y gallwn a diolch i chi am eich cymorth yn dod â nhw i’n sylw.