CYF:66-2204-3644927 - Sŵn yn y llyfrgell

Dy sylw: I use the individual study rooms a lot in the library as I prefer to have a different change of scenery when doing work. I also like silence when I am working, which is why I book the rooms as it is supposed to be silent study. However, every single time I am in the library someone is either talking, laughing or playing videos. Every time without fail. I cannot keep asking the librarians to tell them to be quiet and I don't think I should have to considering it is supposed to be silent study anyway. It has made me see how disrespectful other students can be at times. As I am writing this now all I can hear is a group of girls talking and laughing. So I think either the rooms need to be soundproofed or something needs to be done about these disrespectful people. I can't work well with earphones in, but sometimes I am forced to as I cannot focus when people are being that loud. It is just getting to the point where I am starting to find working conditions in the library worse than at home, which is a real shame.

Ein hymateb:

Diolch am eich adborth ac mae’n ddrwg gennyf fod sŵn yn tarfu arnoch wrth astudio ar Lefel F Llyfrgell Hugh Owen.

Mae llyfrgellwyr yn cerdded drwy’r holl fannau astudio yn y llyfrgell bob awr neu ddwy rhwng 10:00-17:00 Llun-Gwener i orfodi gostwng lefelau’r sŵn yn yr ardaloedd astudio tawel ar Lefel F ac i sicrhau defnydd priodol o’r holl ofodau astudio. Maent hefyd yn ymateb yn ôl yr angen i’r gwasanaeth neges destun adrodd am sŵn: https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/study-zones/ 

Er ein bod yn gofyn i bobl fod yn dawel neu symud o ardal astudio dawel Lefel F i ystafell Iris de Freitas neu Lefel D os byddai’n well ganddynt weithio mewn grŵp, rydym yn ymwybodol y gall sŵn ailddechrau unwaith y bydd y llyfrgellydd wedi symud oddi yno a dyna pam mae gennym y system rhoi gwybod drwy neges destun hefyd. Ac rydym yn annog myfyrwyr eu hunain i ddweud wrth eu cyd-fyfyrwyr os ydynt yn tarfu arnoch chi – os ydych yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hyn. Mae cael gwybod gan eu cyfoedion eu bod yn tarfu arnynt yn gallu bod yn neges lawer mwy pwerus na chael llyfrgellydd yn dod i orfodi tawelwch.

Rydyn ni'n deall bod pobl wahanol yn goddef sŵn ar lefelau gwahanol wrth astudio a dyna pam rydyn ni'n gwneud yr hyn a allwn i sicrhau bod Lefel F Llyfrgell Hugh Owen yn aros mor dawel â phosib ar yr un pryd â chynnig amryw o ofodau astudio eraill. Rydym yn gobeithio cael cyllid gan y Brifysgol i adnewyddu Lefelau E ac F y llyfrgell ac fel rhan o’r gwaith hwn rydym yn bwriadu cael offer gwrthsain ar gyfer ein hystafelloedd astudio sengl a grŵp – ond rwy’n sylweddoli nad yw hyn yn ateb yn y tymor byr.

Gobeithio y gallwch dderbyn ein hymddiheuriad am y materion hyn ac mae pob croeso i chi ddefnyddio’r gwasanaeth neges destun neu daliwch ati i ofyn am gymorth gan staff y llyfrgell os bydd tarfu arnoch.