CYF:66-2101-7441529 - Derbyn ebyst diangen

Dy sylw: I am a distance learning student studying a Masters degree whilst working full time. The amount of e-mails I receive in my uni webmail account that are not relevant to me is huge. Out of 600+ emails, less than 25 were relevant since August 2019. This makes it incredibly difficult to identify which e-mails I should be answering. As a full time worker, to keep a track on all these e-mails is a part time job on its own. Is there any way you can tailor the e-mails for distance learners and stop the blanket e-mails that are sent to full time students?

Ein hymateb:

Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu rhestrau ebost i staff eu defnyddio er mwyn cysylltu â myfyrwyr: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/emaillists/studentlists/ Fel y gwelwch, mae'r rhain wedi'u rhannu hyd at lefel modiwlau unigol.  Fodd bynnag, nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y modd y mae staff yn defnyddio'r rhestrau hyn i gysylltu â myfyrwyr. Mae llawer o negeseuon yn cael eu hanfon i'r holl fyfyrwyr, megis negeseuon y Coronafeirws, gan fod myfyrwyr yn astudio'r un cyrsiau dan wahanol amgylchiadau. Mae llawer o fyfyrwyr sy'n dysgu o bell yn byw'n lleol ac yn dod i'r campws yn rheolaidd, yn casglu eu benthyciadau o'r llyfrgell wyneb yn wyneb ac yn defnyddio adnoddau'r campws. Gallai negeseuon nad ydynt yn berthnasol i chi fel dysgwr o bell fod yn gwbl berthnasol iddynt hwy.